Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Pigion
Cyhoeddwyd 02/11/2026   |   Amser darllen munudau
Ddydd Mercher, 4 Tachwedd, bydd Aelodau o'r Senedd yn trafod deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu'r “swm llawn o gyllid canlyniadol" a dderbyniwyd gan San Steffan sy’n deillio o’r gwariant ar anghenion addysgol arbennig ac anabledd (AAAA) yn Lloegr, a’i neilltuo ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Casglodd y ddeiseb dros 11,000 o lofnodion. Mae'r erthygl hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir berthnasol.
Roedd ein briff ymchwil ar gyfer y Pwyllgor Deisebau ym mis Medi yn esbonio tarddiad a natur 'cyllid canlyniadol', sut roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei ddefnyddio a'r ddadl ddilynol, sut mae darpariaeth ADY yn cael ei ariannu ar hyn o bryd a lefelau'r gwariant.
Bu rhai datblygiadau ers hynny, ac yn fwyaf nodedig yw’r £60 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd tuag at ddarpariaeth ADY yn yr Ail Gyllideb Atodol 2026-27. Cytunwyd ar hyn rhwng Llywodraeth Plaid Cymru a Llafur Cymru.
Mae ADY yn faes polisi ac iddo broffil uchel ym maes addysg; cafodd diwygiadau mawr yn y maes gryn sylw, ac mae’n destun pryder ymysg etholwyr.
Ym mis Ebrill, dywedodd Archwilio Cymru fod y system “dan straen”, ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi tynnu sylw at y ffaith fod ADY yn ffactor mawr o ran y pwysau sydd ar gyllidebau awdurdodau lleol. Nododd y Gweinidog Cabinet dros Addysg fod angen datblygu “system ADY gynaliadwy” ac mae Llywodraeth Cymru yn trafod hyn, a materion eraill, gyda CLlLC a'r undebau addysg.
Mae mwyafrif y cyllid ar gyfer ADY wedi'i gynnwys o fewn y cyllidebau dirprwyedig y mae awdurdodau lleol yn eu rhoi i ysgolion, ac sy'n cynnwys dyraniad tybiannol ar gyfer darpariaeth ADY. Mae Data blynyddol yn dangos bod £764 miliwn wedi'i gyllidebu ar ddechrau 2026-27 i'w wario ar ADY: cynnydd o £96 miliwn neu 14% o'i gymharu â'r llynedd, a chynnydd o 89% o £405 miliwn yn 2019-20.
Mae'n bosibl y bydd y cytundeb a wnaed ynghylch yr Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2026-27, a fydd yn destun trafodaeth a phleidlais yn y Senedd ddydd Mawrth, (y diwrnod cyn y ddadl am ADY) yn mynd i'r afael yn rhannol â'r materion a godwyd gan y ddeiseb.
Fodd bynnag, gan nad oes cyhoeddiad eto ynghylch cyllidebau’r dyfodol, mae’n aneglur sut mae’r dyraniad o £60 miliwn yn 2026-27 yn cymharu â’r £120 miliwn dros dair blynedd a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru (ac a wrthodwyd gan y Senedd) ym mis Gorffennaf, neu'r cyfanswm o £322 miliwn a dderbyniwyd fel cyllid canlyniadol. Mae’n debygol y cawn wybod mwy pan fydd cyllideb ddrafft 2027-28 yn cael ei chyhoeddi yn hwyrach y mis hwn.
Pigion gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru