Cyhoeddiadau Newydd: Y Gyfres Gynllunio: Apeliadau, Gorfodi a Galw ceisiadau i mewn

Cyhoeddwyd 04/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/01/2021   |   Amser darllen munudau

Rydym wedi diweddaru ein hysbysiadau hwylus am apeliadau cynllunio, gorfodi a Llywodraeth Cymru yn galw ceisiadau cynllunio i mewn.

Cyhoeddiad Newydd: Y Gyfres Gynllunio: 5 - Galw ceisiadau cynllunio i mewn (PDF, 756KB)

Mae’r papur briffio hwn yn rhoi trosolwg o’r broses ar gyfer galw ceisiadau cynllunio i mewn. Mae’n disgrifio o dan ba amgylchiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried galw cais i mewn a beth sy’n digwydd pan elwir hwy i mewn.

Cyhoeddiad Newydd: Y Gyfres Gynllunio: 6 - Apeliadau (PDF, 2656KB)

Mae’r papur briffio hwn yn rhoi trosolwg o’r broses o ran apeliadau cynllunio. Mae’n disgrifio ar ba sail y gellir gwneud apêl, yn nodi’r broses o ystyried apeliadau a beth y gellir ei wneud os yw apêl yn aflwyddiannus.

Cyhoeddiad Newydd: Y Gyfres Gynllunio: 7 - Gorfodi (PDF, 2805KB)

Mae’r papur briffio hwn yn rhoi trosolwg o brosesau gorfodi ym maes cynllunio. Mae’n nodi beth yw gorfodi, pryd y gall camau gorfodi ddigwydd, mathau gwahanol o gamau gorfodi, terfynau amser, gorfodi gan Lywodraeth Cymru, ac apeliadau yn erbyn camau gorfodi. Mae hefyd yn nodi sut y mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 wedi newid y system gorfodi cynllunio.


Erthygl gan Andrew Minnis ac Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru