Y Senedd i drafod gwelliannau i'r Bil Seilwaith

Cyhoeddwyd 15/03/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Bil Seilwaith (Cymru) wedi cyrraedd Cyfnod 3 ym mhroses ddeddfwriaethol y Senedd.

Bydd y Bil yn sefydlu proses newydd o’r enw 'Caniatâd Seilwaith' ar gyfer mathau penodol o seilwaith mawr a elwir yn 'Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol. Ceir mwy o wybodaeth ar ein tudalen adnoddau.

Cynhaliodd tri o bwyllgorau'r Senedd waith craffu ar y Bil yn ystod Cyfnod 1. Cyflwynwyd 199 o welliannau yng Nghyfnod 2.

Mae’r erthygl hon yn crynhoi rhai o’r prif faterion a gwelliannau gafodd eu trafod yn ystod ystyriaeth Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith o welliannau yng Nghyfnod 2.

Perchnogaeth leol

Cyflwynodd Adam Price AS welliannau a fyddai’n golygu y byddai gorsafoedd cynhyrchu trydan, sy’n cael eu diffinio yn y Bil, yn gorfod bodloni gofynion perchnogaeth leol i fod yn Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol.

Ei ddadl oedd y byddai hyn yn gwneud polisi presennol Llywodraeth Cymru’n gyfraith, sef y dylai prosiectau cynhyrchu trydan gynnwys elfen o berchnogaeth leol.

Roedd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, yn cydymdeimlo â’r bwriad, ond ni chefnogodd y gwelliannau. Dadleuodd na fyddai’r gwelliannau’n atal cynigion heb berchnogaeth gymunedol rhag cael eu cyflwyno, ond y byddent yn golygu mai awdurdodau cynllunio lleol a fyddai’n penderfynu yn eu cylch. Dywedodd ei bod yn anodd gan awdurdodau cynllunio lleol brosesu prosiectau ynni mawr (oherwydd diffyg capasiti) ac y byddai ceisiadau yn debygol o gael eu galw i mewn gan Weinidogion Cymru beth bynnag.

Cytunodd y Gweinidog i weithio gydag Adam Price AS i ymchwilio i sut y gellid cyflawni ei nodau ef, felly fe dynnodd ei welliannau yn ôl.

Tanddaearu ceblau trydan

Cyflwynodd Janet Finch-Saunders AS ac Adam Price AS welliannau a fyddai’n gweld ceblau trydan tanddaearol yn cael eu cynnwys fel Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol, fel sy’n digwydd yn achos rhai llinellau trydan uwchben.

Maintumiodd y Gweinidog mai man cychwyn Polisi Cynllunio Cymru yw’r rhagdybiaeth y dylai’r grid fod o dan y ddaear lle bo modd, er mwyn lleihau’r effaith weledol. Dywedodd fod gosod ceblau trydan tanddaearol eisoes yn ddatblygiad a ganiateir mewn llawer o amgylchiadau, ac y byddai eu cynnwys yng nghyfundrefn Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol yn golygu mynd drwy brosesau ychwanegol a chynnydd yn y costau.

Cytunodd y Gweinidog eto i weithio gydag Adam Price AS, felly fe dynnodd ei welliant yn ôl. Ni chytunodd y Pwyllgor ar welliant Janet Finch-Saunders AS.

Cyfarwyddo bod prosiect yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol

Cyflwynodd Janet Finch-Saunders AS welliant i ddileu pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod datblygiad penodedig yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol.

Wrth drafod y gwelliant, dadleuodd Joel James AS y gallai’r pŵer gael ei gamddefnyddio er budd gwleidyddol, gan ganiatáu i benderfyniadau â goblygiadau gwleidyddol negyddol gael eu hosgoi. Dywedodd y dylai fod meini prawf clir i nodi pryd y gellir defnyddio'r pŵer, neu fe allai Gweinidogion Cymru fwrw’r cyfrifoldeb ar awdurdodau cynllunio lleol sydd eisoes wedi’u gorlethu.

Cyfeiriodd y Gweinidog at dystiolaeth gan ddatblygwyr sy’n cefnogi’r gallu i gyfeirio prosiect at y drefn Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol. Dywedodd fod trothwyon Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol yn y Bil yn erfyn di-awch ac y byddai pŵer i gyfarwyddo yn atal datblygwyr rhag defnyddio’r system er eu lles eu hunain drwy ddylunio eu prosiectau mewn ffordd a fyddai’n sicrhau eu bod ychydig o dan ryw drothwy penodol.

Gwrthododd y Pwyllgor y gwelliannt.

Gwasanaethau cyn ymgeisio

Cyflwynodd Janet Finch-Saunders AS welliant i ddileu’r gofyniad i awdurdodau cynllunio lleol ddarparu gwasanaethau cyn ymgeisio i ddatblygwyr, gan olygu mai ar Weinidogion Cymru yn unig y byddai gofyniad i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Dywedodd y Gweinidog y byddai hyn yn niweidiol i flaenlwytho’r broses ganiatâd oherwydd bod gan awdurdodau cynllunio lleol wybodaeth fanwl am faterion penodol ar lefel leol. Pe bai Gweinidogion Cymru yn llwyr gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyn ymgeisio, byddai angen iddynt ymgynghori ag awdurdodau cynllunio lleol i gael y wybodaeth beth bynnag.

Roedd Joel James AS yn gwrthwynebu gwelliant y Llywodraeth i gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru fel corff y byddai’n ofynnol iddo ddarparu gwasanaethau cyn ymgeisio. Dywedodd y dylai Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol gael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru ac arwain at y cynnydd lleiaf posibl yn llwyth gwaith cyrff cyhoeddus eraill.

Gwrthododd y Pwyllgor welliant Janet-Finch Saunders AS a derbyniodd welliant y Llywodraeth.

Proses benderfynu

Gwnaeth Delyth Jewell AS a Janet Finch-Saunders AS ill dwy gyflwyno gwelliannau a fyddai'n newid prosesau ar gyfer penderfynu ceisiadau.

Bwriad gwelliannau Delyth Jewell AS oedd ei gwneud yn ofynnol cynnal “gwrandawiad llawr agored” o dan rai amgylchiadau a chael gwared ar yr opsiwn o benderfynu ar gais drwy sylwadau ysgrifenedig. Y nod oedd gwella tryloywder a chaniatáu gwrandawiad teg i’r rhai yr effeithir arnynt.

Byddai gwelliant Janet Finch-Saunders AS wedi gwneud sylwadau ysgrifenedig yn ddiofyn, oni bai bod gweithdrefn arall yn fwy priodol. Dadleuodd Joel James AS y byddai hyn yn helpu i unioni'r cydbwysedd mewn ymchwiliadau neu wrandawiadau lle mae datblygwyr yn cael eu cynrychioli gan fargyfreithwyr ac arbenigwyr, sef adnoddau sydd yn aml y tu hwnt i gymunedau.

Dadleuodd y Gweinidog o blaid yr hyblygrwydd yn y Bil.

Ni dderbyniodd y Pwyllgor welliant Janet Finch-Saunders AS. Dywedodd y Gweinidog y byddai’n hapus i gael sgwrs barhaus â Delyth Jewell AS ynghylch gwrandawiadau llawr agored. Gan hynny, fe dynnodd Delyth Jewell AS ei gwelliannau yn ôl.

Datganiadau polisi seilwaith

Cyflwynodd Janet Finch Saunders AS welliant i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod unrhyw bolisi statudol newydd yn ymwneud ag un neu fwy o Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol gerbron y Senedd.

Dywedodd Joel James AS nad oes proses graffu seneddol ar gyfer y datganiadau polisi seilwaith a allai ddod gerbron o dan y Bil. Roedd ganddo bryder y byddentyn cael blaenoriaeth dros bolisïau cynllunio eraill, megis Cymru'r Dyfodol, sydd wedi bod drwy ymgynghoriad cyhoeddus a gwaith craffu gan y Senedd.

Cefnogodd y Gweinidog egwyddor y gwelliant ond nid ei ddrafftio. Cytunodd i weithio gyda Janet Finch-Saunders AS ar y geiriad cyn Cyfnod 3. Tynnwyd y gwelliant yn ôl.

Newid hinsawdd

Cyflwynodd Delyth Jewel AS welliant i greu dyletswydd i roi sylw i liniaru newid hinsawdd ac addasu iddo wrth benderfynu ar gais am ganiatâd seilwaith.

Nododd y Gweinidog fod ystyried newid hinsawdd eisoes yn rhan o bolisïau cynllunio presennol, nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ond dywedodd ei bod yn hapus i gefnogi’r gwelliant serch hynny.

Derbyniodd y Pwyllgor y gwelliant.

Y cyfnod ar gyfer penderfynu cais

Cyflwynodd Jenny Rathbone AS welliant i sicrhau bod Gweinidogion Cymru, pe byddent yn ymestyn y cyfnod o 52 wythnos ar gyfer penderfynu cais am Brosiect Seilwaith Arwyddocaol, yn gosod datganiad gerbron y Senedd i hysbysu’r Aelodau o’r penderfyniad a’r rheswm drosto.

Cafodd y gwelliant gefnogaeth y Gweinidog, a ddywedodd y dylai’r Gweinidog sy’n ymateb, pan dorrir y terfyn 52 wythnos, ddod gerbron y Senedd i egluro beth yn union a aeth o’i le, a hynny oherwydd bod y Bil yn gosod dyletswydd ar y Gweinidogion a’u swyddogion i wneud hynny o fewn y cyfnod hwnnw.

Derbyniodd y Pwyllgor y gwelliant.

Gorfodi

Cyflwynodd Janet Finch-Saunders AS welliant i fynd â chyfrifoldeb am orfodi oddi wrth awdurdodau cynllunio lleol. Dadleuodd Joel James AS nad oes gan yr awdurdodau hyn ddigon o adnoddau ac mai Gweinidogion Cymru a ddylai fod yn gyfrifol am orfodi cyfundrefn a gyflwynwyd ganddynt.

Cydnabu’r Gweinidog y pryderon ynghylch adnoddau awdurdodau cynllunio lleol ond taerodd fod gan yr awdurdodau hyn wybodaeth leol fanwl a’u bod eisoes yn gorfodi ynghylch prosiectau a fyddai’n cael caniatâd yn y dyfodol drwy’r drefn Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol newydd, a hynny drwy brosesau presennol.

Gwrthododd y Pwyllgor y gwelliant.

Budd net i fioamrywiaeth

Cyflwynodd Delyth Jewell AS welliant i gyflwyno pŵer gwneud rheoliadau newydd a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol cefnogi budd net i fioamrywiaeth ar gyfer mathau penodol o brosiectau seilwaith.

Atebodd y Gweinidog fod dyletswydd ar hyn o bryd o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i gynnal a gwella bioamrywiaeth a chefnogi cadernid ecosystemau. Dywedodd fod Polisi Cynllunio Cymru yn hyrwyddo cysyniad o 'fudd net' i fioamrywiaeth sy'n fwy cyfannol na’r hyn a gynigiwyd yn y gwelliant.

Cynigiodd y Gweinidog weithio gyda Delyth Jewell AS i gyflwyno gwelliant diwygiedig yng Nghyfnod 3. Gan hynny, fe dynnodd Delyth Jewell AS ei gwelliant yn ôl.

Cynhelir trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Mawrth.

Gwyliwch yn fyw ar Senedd.tv.


Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru