Cyhoeddiad Newydd: Materion Ewrop, Rhifyn 33 - Hydref 2015

Cyhoeddwyd 15/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/10/2020   |   Amser darllen munudau

15 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Caiff y rhifyn diweddaraf o Materion Ewrop, y ddogfen reolaidd sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar faterion yr UE a’i weithgareddau rhyngwladol, ei gyhoeddi heddiw. Mae Materion Ewrop yn rhoi manylion ynghylch gwaith diweddar a pharhaus pwyllgorau’r Cynulliad ar faterion yr UE a hefyd yn rhoi manylion am weithgareddau Ewropeaidd a rhyngwladol Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys y ddau gynrychiolydd ar Bwyllgor y Rhanbarthau - Mick Antoniw AC a Rhodri Glyn Thomas AC - yn ogystal â manylion ynghylch ymwelwyr pwysig rhyngwladol â’r Senedd. Gallwch hefyd ddilyn ein ffrwd Twitter a gaiff ei ddiweddaru bob dydd gyda newyddion o’r Cynulliad yn ogystal ag aildrydar ystod eang o negeseuon Twitter o’r UE:  @EwropSenedd Materion Ewrop - Rhifyn 33 - Hydref 2015 (PDF, 927KB) Dyma ddelwedd o glawr y cyhoeddiad: Materion Ewrop, Rhifyn 33 - Hydref 2015 View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg