Cyhoeddiad newydd: Gweithio o bell - y goblygiadau o ran lleoedd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 10/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Senedd wedi cyhoeddi adroddiad (PDF) o dan arweiniad Dr Darja Reuschke o Brifysgol Southampton ar leoedd ar gyfer rhannu mannau gwaith a thueddiadau daearyddol o ran gweithio o bell.

Comisiynwyd y gwaith o dan gynllun Cofrestr Arbenigwyr COVID-19  Ymchwil y Senedd lle mae academyddion perthnasol yn cynorthwyo'r Senedd gyda'i gwaith yn ymwneud â’r pandemig COVID-19 a'i effeithiau.

Gofynnodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod yr astudiaeth yn llywio ei ymchwiliad ar Weithio o Bell: Y goblygiadau i Gymru, a gynhaliodd yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am ei huchelgais hirdymor i 30 y cant o weithlu Cymru weithio o bell yn rheolaidd. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i ddatblygu sylfaen dystiolaeth helaethach mewn cysylltiad â gweithio o bell, gan fod hwn yn faes polisi sy'n dod yn fwyfwy amlwg.

Roedd yr adroddiad yn trafod:

  • dadansoddiad daearyddol o’r tueddiadau o ran gweithio gartref;
  • tueddiadau o ran y defnydd o leoedd ar gyfer rhannu mannau gwaith;
  • dadansoddiad o'r gwahanol fathau o le ar gyfer rhannu mannau gwaith sy'n bodoli yng Nghymru; a
  • arfer gorau rhyngwladol o ran cefnogaeth y llywodraeth i leoedd ar gyfer rhannu mannau gwaith.

Gweithio o bell – y goblygiadau o ran lleoedd yng Nghymru (PDF), Dr Darja Reuschke, yr Athro Nick Clifton a Dr Jed Long

 

Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru