Cyhoeddiad Newydd: Ansawdd Aer (18/06/2019)

Cyhoeddwyd 18/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae gan Gymru rywfaint o’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Mae gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau mater gronynnol uwch na Birmingham neu Fanceinion, a ffordd yng Nghaerffili yw’r ffordd fwyaf llygredig y tu allan i Lundain. Mae’r llygredd aer hwn yn cyfrannu tuag at 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yng Nghymru. Fe’i disgrifiwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel argyfwng iechyd cyhoeddus brys, gan ddweud mai dim ond ysmygu sy’n waeth argyfwng. Mae rhai ardaloedd yng Nghymru wedi torri rheoliadau’r UE ers sawl blwyddyn, gyda Llywodraeth Cymru yn y pen draw yn cael ei herlyn am ei diffyg gweithredu.

Cyhoeddiad Newydd: Ansawdd Aer (PDF, 1736KB)


Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Robert Abernethy gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.