Cydsyniad Ei Mawrhydi - beth mae'n ei olygu?

Cyhoeddwyd 03/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

3 Gorffennaf 2014 Erthygl gan Christopher Warner, Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Ar ddiwedd Cyfarfod Llawn 1 Gorffennaf 2014, ar ôl gorffen trafodion Cyfnod 3 Bil Tai (Cymru), gwnaeth y Gweinidog Tai ac Adfywio y datganiad canlynol: “Lywydd, rwyf wedi derbyn gorchymyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines i roi gwybod i’r Cynulliad ei bod, ar ôl cael gwybod am gynnwys Bil Tai (Cymru), wedi rhoi ei chydsyniad i’r Bil hwn.” Roedd hyn yn cyflawni gofyniad o dan Adran 111 o Ddeddf Llywodraeth Cymru a Rheol Sefydlog 26.67. Mae'r rhain yn darparu bod:

· angen cydsyniad Ei Mawrhydi y Frenhines a/neu Ddug Cernyw pan fydd Bil, darpariaeth mewn Bil neu welliant i Fil yn effeithio ar uchelfraint y Goron neu'n effeithio'n sylweddol ar fuddiannau y Goron, Dugiaeth Caerhirfryn neu Ddugiaeth Cernyw; a

· rhaid i’r Cynulliad beidio â thrafod y cwestiwn a ddylai’r Bil gael ei basio (hynny yw ni all ddechrau dadl Cyfnod 4) nes bod y cydsyniad hwnnw wedi’i ddatgan gan aelod o’r Llywodraeth yn ystod cyfarfod o’r Cynulliad.

Mae "uchelfraint y Goron" - neu'n fwy cyffredin yr "uchelfraint frenhinol" - yn cyfeirio at y pwerau hynny sy'n perthyn i'r sofren yn unig (ac sy'n annhebygol o gael eu heffeithio arnynt gan Filiau'r Cynulliad). Y "buddiannau" eraill dan sylw yw refeniw etifeddol Dugiaeth Caerhirfryn neu Ddugiaeth Cernyw, yn ogystal ag eiddo personol a buddiannau personol eraill y Frenhines. Mae'r broses hon ar wahân i'r Cydsyniad Brenhinol, sef y modd y mae'r Frenhines, yn ei rôl gyfansoddiadol, yn cytuno bod Bil yn dod yn Ddeddf. Mae hyn yn digwydd ar ôl Cyfnod 4 ac (fel y bo'n briodol) unrhyw achos yn y Goruchaf Lys. Mae'r broses yn berthnasol yn Senedd y DU a Senedd yr Alban hefyd. Roedd yn destun adroddiad gan Bwyllgor Dethol yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynharach eleni, ac mae'n cael sylw yn y cyfryngau o dro i dro.