Deddfwriaeth y Cynulliad yn defnyddio’r Cyfnod Adrodd am y tro cyntaf

Cyhoeddwyd 25/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Medi 2013 Heddiw, bydd darn o ddeddfwriaeth y Cynulliad yn cael ei ystyried yn ystod y Cyfnod Adrodd – y tro cyntaf i’r weithdrefn newydd gael ei defnyddio yn y Cynulliad. Beth yw’r Cyfnod Adrodd?Fel arfer, rhaid i ddeddfwriaeth y Cynulliad fynd drwy broses pedwar cam cyn cael ei phasio. Yn ei hanfod, yng Nghyfnod 1, bydd pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil; yng Nghyfnod 2, bydd pwyllgor yn ystyried gwelliannau i’r Bil (craffu fesul llinell); yng Nghyfnod 3, bydd y Cynulliad cyfan yn ystyried gwelliannau pellach i’r Bil yn y Cyfarfod Llawn; a Chyfnod 4 yw’r bleidlais olaf yn y Cyfarfod Llawn i gymeradwyo’r testun terfynol. Fel arfer, bydd Cyfnod 4 yn dilyn yn syth ar ôl Cyfnod 3. Fodd bynnag, mae’r Cyfnod Adrodd yn gam ychwanegol dewisol yn y broses. Gweithdrefn newydd ydyw, a gyflwynwyd ar ddechrau’r pedwerydd Cynulliad, ac mae’n dod rhwng Cyfnodau 3 a 4. Mae’n rhoi’r hyblygrwydd i’r Cynulliad, os yw’n dymuno gwneud, ailystyried darn o ddeddfwriaeth a phwyso a mesur gwelliannau pellach er mwyn mireinio’r Bil, yn enwedig os cafodd newidiadau mawr eu cytuno yng Nghyfnodau 2 a 3. Beth yw’r Bil dan sylw? Ar 25 Medi, bydd y Cynulliad yn ystyried gwelliannau i Fil Aelod preifat Peter Black AC, sef Bil Cartrefi Symudol (Cymru). Bwriad y Bil yw mynd i’r afael ag amryw bryderon ynghylch byw mewn cartrefi symudol, a hynny drwy ddiweddaru’r fframwaith cyfreithiol bresennol, sydd ar waith ar draws Cymru a Lloegr, a moderneiddio’r drefn drwyddedu. Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 3 y Bil ar 10 Gorffennaf, ac ystyriwyd 199 o welliannau. Cafodd y Bil ei newid yn helaeth ers ei gyflwyno, ac felly, ar ddiwedd y trafodion Cyfnod 3, cynigiodd yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil y dylid ystyried y Bil eto mewn Cyfnod Adrodd yn hytrach na bwrw ymlaen yn syth i Gyfnod 4, a chytunodd y Cynulliad. Dechreuodd y Cyfnod Adrodd drannoeth (11 Gorffennaf), gan roi’r cyfle i Aelodau edrych o’r newydd ar y Bil a chyflwyno gwelliannau pellach dros doriad yr haf, cyn dadl y Cyfnod Adrodd ar 25 Medi. Mae gwybodaeth gefndirol am y Bil (fel y’i cyflwynwyd) ar gael mewn crynodeb o’r Bil. I gael gwybodaeth fanylach am y newidiadau a wnaed i’r Bil yn ystod Cyfnodau 2 a 3, ewch i’r crynodeb Cyfnod 2 a’r crynodeb Cyfnod 3. Erthygl gan Siân Eleri Richards.