· angen cydsyniad Ei Mawrhydi y Frenhines a/neu Ddug Cernyw pan fydd Bil, darpariaeth mewn Bil neu welliant i Fil yn effeithio ar uchelfraint y Goron neu'n effeithio'n sylweddol ar fuddiannau y Goron, Dugiaeth Caerhirfryn neu Ddugiaeth Cernyw; a
· rhaid i’r Cynulliad beidio â thrafod y cwestiwn a ddylai’r Bil gael ei basio (hynny yw ni all ddechrau dadl Cyfnod 4) nes bod y cydsyniad hwnnw wedi’i ddatgan gan aelod o’r Llywodraeth yn ystod cyfarfod o’r Cynulliad.
Mae "uchelfraint y Goron" - neu'n fwy cyffredin yr "uchelfraint frenhinol" - yn cyfeirio at y pwerau hynny sy'n perthyn i'r sofren yn unig (ac sy'n annhebygol o gael eu heffeithio arnynt gan Filiau'r Cynulliad). Y "buddiannau" eraill dan sylw yw refeniw etifeddol Dugiaeth Caerhirfryn neu Ddugiaeth Cernyw, yn ogystal ag eiddo personol a buddiannau personol eraill y Frenhines. Mae'r broses hon ar wahân i'r Cydsyniad Brenhinol, sef y modd y mae'r Frenhines, yn ei rôl gyfansoddiadol, yn cytuno bod Bil yn dod yn Ddeddf. Mae hyn yn digwydd ar ôl Cyfnod 4 ac (fel y bo'n briodol) unrhyw achos yn y Goruchaf Lys. Mae'r broses yn berthnasol yn Senedd y DU a Senedd yr Alban hefyd. Roedd yn destun adroddiad gan Bwyllgor Dethol yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynharach eleni, ac mae'n cael sylw yn y cyfryngau o dro i dro.