Cwestiynau'r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi'r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.
Isod mae canllaw cyflym i'r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi'i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau i’w gweld yma.
Gallwch wylio'r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 1.30pm ar Senedd.tv.
Cwestiwn: Mae John Davies AS yn holi ynghylch cefnogaeth i economi Gŵyr Abertawe
Gwybodaeth: Fel rhan o gyfres o erthyglau sy'n archwilio 'materion allweddol' ar gyfer y Seithfed Senedd, gwnaethom ystyried yr heriau hirhoedlog sy’n wynebu economi Cymru, yn ogystal â’r heriau sydd ar y gorwel.
Cwestiwn: Mae Janet Finch-Saunders AS yn holi ynghylch cefnogaeth i fusnesau twristiaeth ym Mangor Conwy Môn.
Gwybodaeth: Mae ein herthyglau ar dwristiaeth ar gael yma. Mae ein canllaw i fusnesau bach hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gefnogaeth i fusnesau twristiaeth.
Cwestiwn: Mae Tom Montgomery AS yn gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella goruchwyliaeth cymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Gwybodaeth: Mae ein herthygl ddiweddar yn trafod cyflwr tai cymdeithasol yng Nghymru, y problemau y mae rhai tenantiaid yn eu hwynebu wrth geisio datrys problemau, a sut mae Llywodraeth Cymru a’r sector ehangach wedi ymateb i’r pryderon sydd wedi’u mynegi.
Cwestiwn: Mae Llŷr Powell AS yn gofyn am asesiad o ddigonolrwydd cyllid ar gyfer cludiant i'r ysgol.
Gwybodaeth: Mewn erthygl a gyhoeddwyd y llynedd, gwnaethom archwilio teithio gan ddysgwyr yng Nghymru.
Cwestiwn: Mae Carmelo Colasanto AS yn holi ynghylch strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio'r stryd fawr a chynyddu nifer yr ymwelwyr i fusnesau lleol.
Gwybodaeth: Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ddiwethaf ymchwiliad i adfywio canol trefi yng Nghymru. Yn ei adroddiad, galwodd y Pwyllgor ar i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gyflymu’r gwaith o adfywio canol trefi a mynd ati i gefnogi rhanddeiliaid lleol yn well.
Cwestiwn: Mae Adrian Mason AS yn gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cysylltiadau economaidd gogledd Cymru â gogledd-orllewin Lloegr.
Gwybodaeth: Mae Prosiect Rhwydwaith Gogledd Cymru Trafnidaeth Cymru yn cynnwys uchelgais ar gyfer gwasanaethau amlach a chysylltedd gwell rhwng gogledd Cymru a Llundain, Glannau Merswy, Swydd Gaer a gogledd Lloegr.
Cwestiwn: Mae James Evans AS yn holi ynghylch gwella mynediad at ofal iechyd ym Mrycheiniog Tawe Nedd.
Gwybodaeth: Rydym yn cyhoeddi erthyglau rheolaidd ar faterion sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd a gofal.
Cwestiwn: Mae Niamh Salkeld AS yn gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni.
Gwybodaeth: Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Senedd ddiwethaf ymchwiliad i lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16, fel yr eglurir yn ein herthygl gysylltiedig.
Cwestiwn: Mae Lindsay Whittle AS yn holi ynghylch mesurau i sicrhau y bydd prosiectau ynni adnewyddadwy yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol.
Gwybodaeth: Roedd maniffesto Plaid Cymru yn sôn am “sicrhau bod gan bobl a chymunedau fwy o berchnogaeth dros ynni adnewyddadwy yng Nghymru a’u bod yn gweld mwy o fanteision hynny”.
Cwestiwn: Mae Kiera Marshall AS yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth am geiswyr lloches, ffoaduriaid ac ymfudwyr.
Gwybodaeth: Yn 2025, cyhoeddodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Chweched Senedd ei adroddiad, Cyd-dynnu, nid tynnu’n groes: Rhaid i Gymru weithredu, a oedd yn edrych ar y mater hwn ac a oedd yn cynnwys galwad i sefydlu Grŵp Arbenigol i archwilio cydlyniant cymdeithasol yng Nghymru. Mae canfyddiadau'r grŵp i’w gweld yma.
Cwestiwn: Mae Elwyn Vaughan AS yn gofyn a fydd y Prif Weinidog yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth y DU ynglŷn â thanddaearu seilwaith ynni yng Nghymru y mae'n gyfrifol amdano.
Gwybodaeth: Caiff tanddaearu ei drafod mewn adroddiad gan grŵp cynghori annibynnol a luniwyd i helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu’r grid trydan yng Nghymru yn y dyfodol.
Cwestiwn: Mae Francesca O'Brien AS yn holi ynghylch camau i wella recriwtio yn y sector addysg yng Ngŵyr Abertawe.
Gwybodaeth: Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Senedd ddiwethaf ymchwiliad i recriwtio a chadw athrawon. Mae ein dogfen ‘Pigion’ yn cyflwyno gwybodaeth gefndir berthnasol ar y mater hwn.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru