Cwestiynau’r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi’r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a’u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.
Isod ceir canllaw cyflym i’r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi’i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau ar gael yma.
Gallwch wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 13:30 ar Senedd.tv.
Cwestiwn: Mae Lyn Ackerman AS yn gofyn am asesiad o'r niferoedd sy'n manteisio ar wiriadau iechyd blynyddol ymhlith oedolion ag anableddau dysgu.
Gwybodaeth: Mae meddygon teulu yn cynnig gwiriadau iechyd blynyddol i oedolion ag anabledd dysgu yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Cwestiwn: Mae Anna Nicholl AS yn gofyn sut mae'r Prif Weinidog yn cryfhau cydweithrediad â Gweriniaeth Iwerddon.
Gwybodaeth: Mae ein herthygl o fis Mawrth yn edrych ar ganfyddiadau adroddiad pwyllgor y Chweched Senedd ar gysylltiadau Cymru ac Iwerddon. Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i “esblygu a datblygu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cydweithredu dwyochrog ag Iwerddon i gryfhau cysylltiadau diwylliannol a masnachol”.
Cwestiwn: Mae Catherine Cullen AS yn holi ynghylch y camau i wella'r cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc mabwysiedig a'r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Gwybodaeth: Bu gwaith craffu sylweddol ar wasanaethau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal gan sawl pwyllgor yn ystod y Chweched Senedd. Darllenwch ein briff cefndirol, wedi'i baratoi ar gyfer sesiwn dystiolaeth gyda'r Prif Weinidog ar y pryd ar y pwnc ym mis Ebrill 2024.
Cwestiwn: Mae Andrew RT Davies AS yn gofyn am asesiad o ddigonolrwydd lefelau staffio yn GIG Cymru.
Gwybodaeth: Mae ein herthygl yn ystyried dyfodol y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru.
Cwestiwn: Mae Niamh Salkeld AS yn holi am y gefnogaeth i bobl sy’n byw gyda chlefyd niwronau motor ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni.
Cwestiwn: Mae Marc Jones AS yn holi ynghylch y camau i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig Fflint Wrecsam.
Gwybodaeth: Darparodd Llywodraeth Cymru wybodaeth am sut mae'n ceisio mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth trafnidiaeth hygyrch ledled cefn gwlad Cymru mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Gorffennaf.
Cwestiwn: Mae Francesca O'Brien AS yn holi ynghylch y gefnogaeth i fusnesau'r stryd fawr yng Ngŵyr Abertawe.
Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Tasglu Canol Trefi. Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd flaenorol ymchwiliad i adfywio canol trefi, a oedd yn ystyried y cyllid sydd ar gael i fusnesau.
Cwestiwn: Mae David Hughes AS yn holi ynghylch y camau i sicrhau effeithlonrwydd a gostyngiad mewn gwastraff wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau gwell gwerth am arian i drethdalwyr.
Gwybodaeth: Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiadau sydd â'r nod o ddarparu llywodraeth fwy effeithiol a gwasanaethau cyhoeddus gwell. Mae’r Canllawiau Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru yn nodi'r egwyddorion ar gyfer defnyddio adnoddau cyhoeddus yn gyfrifol, a sicrhau gwerth am arian.
Cwestiwn: Mae Jane Dodds AS yn holi ynghylch diwygio strwythur byrddau iechyd.
Cwestiwn: Mae Becca Martin AS yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gynllun y Llywodraeth i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2030.
Gwybodaeth: Cafodd y targed hwn ei gynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu. Roedd ein herthygl y llynedd yn ystyried rôl tai cymdeithasol yn argyfwng tai Cymru.
Cwestiwn: Mae Gareth Thomas AS yn holi ynghylch cefnogi iechyd meddwl cyn-filwyr yng Nghymru sy'n wynebu ymchwiliad neu erlyniad mewn perthynas â'u gwasanaeth yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth: Mae gan Lywodraeth Cymru wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr, gan gynnwys cyngor cyfreithiol, a chymorth gydag iechyd a llesiant.
Cwestiwn: Mae David Mills AS yn holi ynghylch hyrwyddo prosiectau ynni gwynt a solar ar safleoedd tir llwyd a safleoedd diwydiannol.
Gwybodaeth: Mae polisïau cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ar seilwaith ynni ac ar dir a ddatblygwyd o'r blaen, wedi'u nodi ym Mholisi Cynllunio Cymru a'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru