Mae cynlluniau Llywodraeth newydd Cymru i ddiwygio iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi pwyslais sylweddol ar y gweithlu. Mae ei blaenoriaethau polisi cychwynnol yn cynnwys cryfhau’r integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, darparu mwy o ofal yn nes at y cartref a rhoi mwy o bwyslais ar atal.
Bydd cyflawni’r diwygiadau hyn yn dibynnu nid yn unig ar gynyddu capasiti’r gweithlu, ond hefyd ar ail-lunio’r gweithlu i ategu patrymau gofal gwahanol. Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen am weithlu sy’n gallu cefnogi modelau gofal newydd a symud i ffwrdd o wasanaethau adweithiol sy’n canolbwyntio ar ysbytai tuag at system fwy cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar anghenion hirdymor y boblogaeth.
Blaenoriaethau allweddol y gweithlu
Mae blaenoriaethau datganedig Llywodraeth Cymru yn cynnwys:
- Cyhoeddi strategaeth a chynllun hirdymor newydd ar gyfer gweithlu GIG Cymru (a ddisgwylir yn hydref 2026).
- Gwella’r broses o gynllunio’r gweithlu er mwyn sicrhau bod y bobl iawn yn y timau iawn ac yn y mannau iawn, ac er mwyn cefnogi blaenoriaethau fel lleihau amseroedd aros a gwella gwasanaethau canser.
- Cefnogi recriwtio, cadw staff a chyfleoedd cyflogaeth ar draws y gweithlu iechyd, gan gynnwys mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu graddedigion nyrsio, bydwreigiaeth a pharafeddygaeth.
- Cryfhau’r gweithlu gofal cymdeithasol a chefnogi integreiddio agosach rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol.
- Ehangu capasiti gofal cymunedol a gofal sylfaenol, gan gynnwys rolau amlddisgyblaethol a rolau gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, er mwyn cefnogi atal, ymyrryd yn gynnar a darparu gofal yn nes at y cartref.
Gyda’i gilydd, mae’r blaenoriaethau hyn yn adlewyrchu uchelgais Llywodraeth Cymru i greu gweithlu mwy cynlluniedig, cynaliadwy ac integredig ar draws iechyd, gofal cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd.
Er bod yr erthygl hon yn canolbwyntio’n bennaf ar weithlu’r GIG, mae cysylltiad agos rhwng llawer o’r heriau a’r datblygiadau polisi a drafodir a gofal cymdeithasol. Mae gweithlu gofal cymdeithasol cryf yn bwysig nid yn unig er mwyn cefnogi llesiant ac annibyniaeth pobl, ond hefyd am ei fod yn sail i weithrediad effeithiol y system iechyd a gofal ehangach. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i Lywodraeth Cymru geisio cryfhau’r integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Ceir rhagor o ddadansoddiad o faterion sy’n ymwneud â’r gweithlu gofal cymdeithasol yn ein herthygl, Swyddi gwag a fisâu: y pwysau ar y gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion.
Sut mae’r blaenoriaethau hyn yn mynd i’r afael â heriau hirsefydlog o ran y gweithlu?
Mae llawer o’r blaenoriaethau a nodwyd mewn datganiadau gweinidogol diweddar yn adlewyrchu materion sydd wedi bod yn amlwg mewn gwaith craffu’r Senedd a thystiolaeth rhanddeiliaid ers sawl blwyddyn, ac yn null gweithredu Llywodraeth flaenorol Cymru. Roedd Cymru Iachach, cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2018, yn nodi gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mwy di-dor, wedi’u cefnogi gan weithlu cynaliadwy a medrus. Yn yr un modd, roedd y Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2020) a’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer y Gweithlu (2023) yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynllunio’r gweithlu dros y tymor hwy er mwyn cefnogi’r gwaith o drawsnewid y system ehangach. Er nad yw’r heriau eu hunain o reidrwydd yn newydd, mae’r ymrwymiad i lunio strategaeth newydd ar gyfer gweithlu’r GIG yn gyfle i roi mwy o ffocws a chydlyniant i’r ymdrechion i fynd i’r afael â hwy.
Mae Archwilio Cymru wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at gynaliadwyedd y gweithlu, recriwtio a chadw staff fel heriau sylweddol i GIG Cymru, ac wedi galw am ddull cenedlaethol cryfach o gynllunio’r gweithlu. Nododd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd hefyd fod recriwtio a chadw’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd â’r angen am gynllunio hirdymor effeithiol, yn feysydd sy’n peri pryder dro ar ôl tro ac a ddylai barhau i fod yn flaenoriaeth i’r pwyllgor olynol.
Mae pryderon diweddar am gyfleoedd cyflogaeth i nyrsys, bydwragedd a pharafeddygon sydd newydd gymhwyso yn dangos rhai o gymhlethdodau cynllunio’r gweithlu. Er bod prinder staff yn parhau i fod yn her mewn llawer o feysydd iechyd a gofal cymdeithasol, mae adroddiadau bod rhai graddedigion yn ei chael yn anodd cael gwaith yn y GIG wedi codi cwestiynau ynghylch sut y mae llwybrau addysg a hyfforddiant yn cyd-fynd ag anghenion y gweithlu a’r swyddi sydd ar gael yn y GIG.
Mae pwyslais Llywodraeth Cymru ar gryfhau’r gweithlu gofal cymdeithasol yn adlewyrchu pryderon hirsefydlog ynghylch recriwtio, cadw staff a chapasiti yn y sector, yn ogystal ag effeithiau ehangach y pwysau hyn ar y system iechyd, gan gynnwys oedi o ran rhyddhau cleifion o ysbytai.
Yn yr un modd, mae ymrwymiadau i ehangu gofal cymunedol ac amlddisgyblaethol yn adeiladu ar uchelgeisiau hirsefydlog i ddarparu mwy o ofal yn nes at y cartref. O ganlyniad, mae trafodaethau polisi ynghylch y gweithlu wedi canolbwyntio’n gynyddol nid yn unig ar nifer y gweithwyr, ond hefyd y sgiliau, rolau a ffyrdd o weithio sydd eu hangen i gefnogi modelau gofal newydd. Mae hyn yn cynnwys galluogi staff i weithio ar lefel uchaf eu cymhwysedd, ehangu rolau ymarfer uwch a gwneud mwy o ddefnydd o dimau amlddisgyblaethol. Er enghraifft, er mwyn darparu mwy o ofal yn nes at y cartref, efallai y bydd angen ehangu rolau nyrsio cymunedol, fferylliaeth, ffisiotherapi a rolau eraill gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan alluogi pobl i gael cymorth y tu allan i ysbytai lle bo hynny’n briodol.
Heriau o ran data am y gweithlu
Bydd data am y gweithlu yn chwarae rhan bwysig wrth asesu cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gall nifer o heriau ei gwneud yn anodd penderfynu a yw’r diwygiadau’n sicrhau’r canlyniadau a fwriadwyd.
Defnyddir cyfraddau swyddi gwag yn eang fel dangosydd o brinder yn y gweithlu. Fodd bynnag, nid yw swyddi gwag o reidrwydd yn dangos a oes gan wasanaethau ddigon o staff i ddiwallu anghenion presennol y boblogaeth neu ei hanghenion yn y dyfodol. Mae Archwilio Cymru wedi pwysleisio bod yn rhaid i waith effeithiol i gynllunio’r gweithlu ystyried y galw am wasanaethau yn y dyfodol ac anghenion y boblogaeth, yn hytrach na chanolbwyntio ar y bylchau staffio presennol yn unig.
Gall data am y gweithlu gynnig gwybodaeth werthfawr am gyflenwad y gweithlu a thueddiadau, ond nid yw bob amser yn cofnodi sut y caiff staff eu defnyddio, sut y darperir gwasanaethau, na’r graddau y mae newidiadau i’r gweithlu yn cyfrannu at amcanion polisi ehangach. Er enghraifft, er bod Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio ehangu gofal cymunedol a chryfhau gwaith amlddisgyblaethol, nid yw’r data sydd ar gael bob amser yn ei gwneud yn hawdd asesu a yw newidiadau i gapasiti’r gweithlu, ei rolau a’r ffordd y caiff ei ddefnyddio yn cefnogi’r uchelgeisiau hyn.
Yn yr un modd, nid yw cynnydd yn nifer y staff o reidrwydd yn arwydd bod cynaliadwyedd y gweithlu wedi gwella. Mae dadansoddiad Addysg a Gwella Iechyd Cymru o dueddiadau’r gweithlu yn awgrymu y dylid ystyried twf y gweithlu ochr yn ochr â ffactorau fel cadw staff, proffil oedran, absenoldeb oherwydd salwch a’r galw am wasanaethau, er mwyn rhoi darlun mwy cyflawn o’r pwysau ar y gweithlu a’i gynaliadwyedd.
Sut olwg fyddai ar lwyddiant?
Er y gall twf yn y gweithlu a chynnydd yng nghapasiti gwasanaethau fod yn ddangosyddion pwysig o gynnydd, nid ydynt ar eu pennau eu hunain yn dangos a yw diwygiadau i’r gweithlu yn sicrhau’r newidiadau ehangach y mae Llywodraeth Cymru am eu gweld ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Dylai cyhoeddi’r strategaeth newydd ar gyfer gweithlu GIG Cymru roi mwy o eglurder ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer y gweithlu a mesur cynnydd. Mae’n debygol mai ffocws pwysig ar gyfer gwaith craffu yn y dyfodol fydd a yw’r strategaeth a’r camau gweithredu cysylltiedig yn arwain at weithlu mwy cynaliadwy, yn cefnogi modelau gofal newydd ac yn gwella ansawdd gofal a chanlyniadau i bobl yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth
|
Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru