Cwestiynau’r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi’r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a’u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.
Isod mae canllaw cyflym i’r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi’i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau i’w gweld yma.
Gallwch wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 1:30pm ar Senedd.tv.
Cwestiwn: Mae Cai Parry Jones AS yn holi ynghylch arbedion cost yn adrannau Llywodraeth Cymru.
Cwestiwn: Mae Nigel Williams AS yn holi ynghylch lleihau amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaeth i gleifion yn Sir y Fflint a Wrecsam.
Gwybodaeth: Mae erthygl gennym yn trafod y sefyllfa ddiweddaraf o ran amseroedd aros y GIG yng Nghymru ar ddechrau’r Seithfed Senedd.
Cwestiwn: Mae Matthew Jones AS yn holi ynghylch effaith cynllun gwariant ar amddiffyn Llywodraeth y DU ar gyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth: Mae manylion am gynllun Llywodraeth y DU ar gael yma. Mae’r Gweinidog Cabinet dros Gyllid wedi dweud y bydd y cynllun yn cael “effaith negyddol” ar gyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru.
Cwestiwn: Mae Joe Martin AS yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru.
Gwybodaeth: Mae erthyglau gennym ar gydraddoldeb a hawliau dynol ar gael yma. Yn ein cyfres o erthyglau sy'n ymdrin â 'materion allweddol' ar gyfer y Seithfed Senedd, rydym yn edrych ar gydraddoldeb a thlodi yng Nghymru, a'r ymyriadau polisi a gymerwyd neu a gynigiwyd i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Cwestiwn: Mae Rebeca Phillips AS yn gofyn am diweddariad ar waith i ddatblygu gwasanaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) cynaliadwy.
Gwybodaeth: Y llynedd, fe wnaethom nodi rhywfaint o wybodaeth gefndir berthnasol am ddiwygiadau ADY yng Nghymru yn ein herthygl Pigion. Gwnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru adolygu sut yr oedd deddfwriaeth ADY yn cael ei gweithredu. Nodwyd pum maes gweithredu, a chyhoeddwyd canllawiau pellach i ategu'r Cod ADY.
Cwestiwn: Mae David Hughes AS yn holi ynghylch cymorth i’r sector gofal lliniarol.
Gwybodaeth: Yn 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei datganiad ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes, sy’n disgrifio sut y dylai gwasanaethau canser o ansawdd da weithredu. Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru gyllid ychwanegol ar gyfer hosbisau.
Cwestiwn: Mae Elfed Williams AS yn holi ynghylch perfformiad ariannol y gwasanaeth iechyd, a rheolaeth cyllidebau iechyd.
Gwybodaeth: Mae teclyn rhyngweithiol Archwilio Cymru’n dangos tueddiadau yng nghyllid y GIG hyd at 31 Mawrth 2025 ar gyfer Cymru gyfan ac ar gyfer cyrff unigol y GIG.
Cwestiwn: Mae Carmelo Colasanto AS yn holi ynghylch cymorth i fusnesau bach a chanolig yn Sir Gaerfyrddin.
Gwybodaeth: Mae ein canllaw i fusnesau bach yn amlinellu ffynonellau cymorth posibl sydd ar gael i fusnesau bach newydd a phresennol yng Nghymru, ac yn dangos sut i gysylltu â nhw.
Cwestiwn: Mae Mair Rowlands AS yn holi ynghylch ehangu'r cynllun gofal plant ar gyfer plant dwy oed ledled Cymru.
Gwybodaeth: Mewn erthygl ddiweddar gennym, trafodir yr amcanion o ran gofal plant am ddim, a yw’r rhain wedi cael eu gwireddu, a pha rwystrau a allai ei gwneud hi'n anodd cyflawni'r addewidion o dan sylw? Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid yn ddiweddar i ehangu gofal plant a ariennir.
Cwestiwn: Mae Jayne Bryant AS yn holi ynghylch cymorth i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Gwybodaeth: Mae erthygl newydd gennym yn archwilio’r heriau sy'n wynebu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), y cymorth sydd ar gael gan lywodraethau i fynd i'r afael â’r heriau hyn, a'r newidiadau sydd eu hangen i wella canlyniadau i bobl ifanc.
Cwestiwn: Mae James Evans AS yn holi ynghylch cyllid i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Cwestiwn: Mae Janet Finch-Saunders AS yn holi ynghylch gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ym Mangor Conwy Môn.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru