Mae'r erthygl hon yn trafod y sefyllfa ddiweddaraf o ran amseroedd aros y GIG yng Nghymru wrth i'r Seithfed Senedd gychwyn. Mae’n ystyried y targedau adfer a osodwyd yn ystod y Senedd ddiwethaf, y cynnydd a wnaed erbyn diwedd y tymor hwnnw, a’r pwysau sy’n wynebu Llywodraeth newydd Cymru erbyn hyn.
Cipolwg
- Roedd tua 529,100 o bobl yng Nghymru yn aros am driniaeth y GIG ddiwedd mis Mawrth 2026. Oherwydd bod rhai pobl yn aros am fwy nag un driniaeth, roedd cyfanswm nifer y llwybrau cleifion yn uwch, sef 666,700.
- Roedd rhestrau aros wedi bod yn gostwng am 19 mis yn olynol, ond nid oedd yr un o’r targedau gwreiddiol ar gyfer adfer gofal a gynlluniwyd, a osodwyd yn 2022, wedi’u cyflawni erbyn diwedd y Chweched Senedd.
- Gyda thua un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn dal i aros am driniaeth, mae amseroedd aros y GIG yn parhau i fod yn un o’r pwysau mwyaf ar y gwasanaeth iechyd wrth i’r Seithfed Senedd gychwyn.
Y targedau gwreiddiol ar gyfer adfer gofal a gynlluniwyd
Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei rhaglen adfer gofal a gynlluniwyd, gan osod cyfres o dargedau gyda'r bwriad o ddod ag amseroedd aros yn nes at lefelau cyn y pandemig dros dymor y Senedd.
- Apwyntiad cyntaf fel claf allanol: Erbyn diwedd 2022, ni fydd neb yn aros am fwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol.
- Arosiadau dwy flynedd am driniaeth: Dileu arosiadau sy’n fwy na dwy flynedd ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023.
- Arosiadau blwyddyn am driniaeth: Dileu arosiadau sy’n fwy na blwyddyn ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025.
- Diagnosteg a therapïau: Cyrraedd uchafswm aros o 8 wythnos ar gyfer diagnosteg penodedig a 14 wythnos ar gyfer therapïau erbyn gwanwyn 2024.
- Canser (Llwybr Canser Sengl): 62 diwrnod ar gyfer 80% o bobl erbyn 2026, gyda tharged adfer interim o 70% erbyn mis Mawrth 2023.
Datblygwyd y rhaglen yn dilyn pandemig COVID-19, pan oedd rhestrau aros wedi cynyddu’n sylweddol ar draws GIG Cymru. Dadleuodd Gweinidogion y byddai’r adferiad yn cymryd tymor llawn y Senedd, a chefnogwyd y rhaglen gyda mwy na £1 biliwn o gyllid.
Pan gyhoeddwyd y cynllun adfer, roedd ychydig o dan 707,100 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth yng Nghymru, gan gynnwys mwy na 68,000 o arosiadau dros ddwy flynedd.
Beth mae data diwedd y tymor yn ei ddangos
Erbyn diwedd y Chweched Senedd, roedd tua un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn dal i aros am driniaeth y GIG. Er bod perfformiad wedi gwella yn ystod misoedd diweddarach y tymor, roedd rhestrau aros ac arosiadau hir yn parhau i fod yn uchel yn ôl safonau hanesyddol.
Erbyn diwedd mis Mawrth 2026, roedd ychydig llai na 666,700 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth yng Nghymru, gan gynnwys 2,600 o arosiadau dros ddwy flynedd.
Cefnogwyd cynnydd diweddar gan fuddsoddiad ychwanegol, gan gynnwys pecyn gwerth £120 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025. Fodd bynnag, erbyn diwedd tymor y Senedd, nid oedd unrhyw un o'r prif dargedau adfer a osodwyd yn gynharach yn y tymor wedi'u cyflawni'n llawn.
Mae’r ystadegau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer mis Mawrth 2026 yn dangos y sefyllfa ganlynol o’i chymharu â’r prif dargedau adfer (mae'r data swyddogol diweddaraf ar gyfer mis Mawrth 2026 ac fe'i defnyddiwyd yn yr erthygl hon. Mae data dros dro ar gael ar gyfer Ebrill 2026).

Ble mae’r pwysau’n parhau
Cleifion allanol
Mae arosiadau cleifion allanol yn parhau i fod yn bwynt pwysau mawr. Dyma'r amseroedd aros am apwyntiad cyntaf mewn ysbyty gydag arbenigwr, cyn i unrhyw driniaeth ddechrau. Roedd y targed gwreiddiol o ddileu arosiadau o fwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’i osod ar gyfer diwedd 2022, ond cafodd ei ddiwygio yn ddiweddarach, ac roedd yn dal ymhell o gael ei gyflawni erbyn dechrau 2026. Mae arosiadau hir i gleifion allanol yn bwysig oherwydd gallant arafu diagnosis, penderfyniadau triniaeth ac atgyfeiriadau ymlaen.
Arosiadau am driniaeth
Gostyngodd arosiadau hir yn sylweddol o’u lefel uchaf, ond ni chawsant eu dileu. Gostyngodd arosiadau dros ddwy flynedd dros gyfnod y tymor, ond roedd 4,517 o lwybrau cleifion yn dal i aros mwy na dwy flynedd erbyn Mawrth 2026. Roedd arosiadau blwyddyn am driniaeth hefyd yn parhau ymhell uwchlaw’r lefel darged. Felly, mae’r darlun cyffredinol yn un o welliant, ond nid adferiad llawn.
Diagnosteg a therapïau
Roedd arosiadau diagnosteg a therapïau hefyd yn parhau uwchlaw’r targed erbyn diwedd y tymor, er gwaethaf rhywfaint o welliant. Nid oedd y targedau o uchafswm aros o wyth wythnos ar gyfer diagnosteg a 14 wythnos ar gyfer therapïau wedi’u hadfer erbyn mis Mawrth 2026.
Canser
Parhaodd perfformiad canser i fod yn faes pryder pellach. Nid oedd y targed o 80% erbyn 2026 ar gyfer y Llwybr Canser Sengl 62 diwrnod yn cael ei gyflawni o hyd, ac roedd perfformiad yn parhau i amrywio ledled Cymru.
Sut mae’r pwysau’n amrywio ar draws arbenigeddau
Mae cyfansymiau cenedlaethol rhestrau aros yn dangos maint cyffredinol yr ôl-groniad, ond nid ydynt yn adlewyrchu pa mor anwastad y mae pwysau’n cael eu profi ar draws y GIG. Er mwyn deall ble mae’r system dan y straen mwyaf, mae’n angenrheidiol edrych hefyd ar yr amrywiad rhwng arbenigeddau, gan gynnwys lle mae’r ôl-groniadau mwyaf a’r arosiadau hiraf yn parhau i gronni.
Nododd Llywodraeth flaenorol Cymru saith arbenigedd “hynod o heriol”: trawma ac orthopedeg, dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol, offthalmoleg, wroleg, gynaecoleg a gwasanaethau’r glust, y trwyn a’r gwddf. Er nad oedd y cynllun adfer yn nodi'n fanwl pam roedd yr arbenigeddau hyn yn hynod o heriol, nododd fod ganddynt nifer fawr o bobl yn aros eisoes cyn pandemig COVID-19.
Ar ddechrau’r Seithfed Senedd, roedd rhai arbenigeddau wedi gwella mwy nag eraill, tra mewn rhai meysydd roedd arosiadau hir yn parhau i fod yn arbennig o amlwg. Ymhlith yr arbenigeddau â’r ôl-groniadau triniaeth mwyaf yn aros dros flwyddyn, trawma ac orthopedeg oedd â'r nifer uchaf o gleifion yn aros, a hynny’n cael ei ddilyn gan lawfeddygaeth gyffredinol ac offthalmoleg ym mis Mawrth 2026. Roedd gwasanaethau’r glust, y trwyn a’r gwddf, gynaecoleg a gastroenteroleg, ymhlith eraill, hefyd yn parhau i gofnodi niferoedd cymharol uchel yn aros am driniaeth.
Ffigur 1: Nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 53 wythnos i ddechrau triniaeth yn y saith arbenigedd sydd wedi’u cydnabod fel rhai hynod o heriol

Ffigur 2: Nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 105 wythnos i ddechrau triniaeth yn y saith arbenigedd sydd wedi’u cydnabod fel rhai hynod o heriol

Felly, gall data ar lefel arbenigedd helpu i ddangos lle y gallai’r pwysau ar wasanaethau, a’r effaith ar gleifion, gael eu teimlo’n fwyaf dwys wrth i’r Senedd newydd ddechrau.
Yr hyn y mae Llywodraeth newydd Cymru yn ei etifeddu
Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi etifeddu system lle’r oedd rhestrau aros y GIG yn gwella yn ystod cyfnod olaf y tymor diwethaf, ond lle'r oedd targedau adfer mawr heb gael eu cyflawni o hyd.
Cwestiwn cynnar i’r weinyddiaeth newydd yw a fydd yn mabwysiadu set newydd o flaenoriaethau mesuradwy ar gyfer adfer y GIG, neu’n parhau i weithredu o fewn y fframwaith a etifeddwyd oddi wrth y llywodraeth flaenorol.
Cyflwynodd Plaid Cymru leihau rhestrau aros fel blaenoriaeth gynnar yn ei maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026, gan gysylltu arosiadau byrrach â diwygiadau ehangach i’r GIG a gwell mynediad at ofal. Dadleuodd y blaid fod lleihau rhestrau aros yn gam cyntaf angenrheidiol cyn y gellid cyflawni trawsnewid gwasanaethau ehangach.
Mae hyn yn arwyddocaol yn wleidyddol oherwydd nad mesur o berfformiad gwasanaeth yn unig yw amseroedd aros; maent hefyd yn gysylltiedig â chwestiynau ehangach ynghylch capasiti’r GIG, hyder y cyhoedd, a gallu’r gwasanaeth iechyd i symud ei ffocws tuag at atal a diwygio.
Erthygl gan Josh Jenkins a Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru