Cwestiynau'r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi'r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.
Isod mae canllaw cyflym i'r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi'i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhest lawn o’r cwestiynau i’w gweld yma.
Cwestiwn: Mae Andrew Griffin AS yn gofyn am effeithiolrwydd trefniadau diogelu mewn ysgolion.
Gwybodaeth: Ceir gwybodaeth am bolisïau a chanllawiau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â diogelu yma.
Cwestiwn:Mae Benjamin Hodge McKenna AS yn gofyn am Lywodraeth Cymru yn defnyddio pwerau datganoledig i leihau'r baich treth.
Gwybodaeth:Mae ein tudalen ar graffu ariannol yn darparu gwybodaeth am bwerau trethu Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r gyfres o erthyglau sy’n ystyried y materion allweddol ar gyfer y Seithfed Senedd, rydym wedi ystyried datblygiadau yn nhirwedd gyllidol Cymru.
Cwestiwn: Mae Mair Rowlands AS yn gofyn am adfywio’r stryd fawr yn etholaeth Bangor, Conwy, Môn.
Gwybodaeth: Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ddiwethaf ymchwiliad i adfywio canol trefi yng Nghymru.
Cwestiwn: Mae Francesca O'Brien AS yn gofyn am gyllid ar gyfer y seilwaith ffyrdd yng Ngŵyr Abertawe.
Cwestiwn: Mae Zaynub Akbar AS yn gofyn am gamau i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghaerdydd Ffynnon Taf.
Gwybodaeth: Fel rhan o gyfres o erthyglau sy’n edrych ar faterion allweddol ar gyfer y Senedd newydd, fe wnaethom ystyried digartrefedd a'r argyfwng tai yng Nghymru.
Cwestiwn: Mae Gareth Beer AS yn gofyn am brosiectau seilwaith ynni yn Sir Gaerfyrddin.
Cwestiwn: Mae Keira Marshall AS yn gofyn am gefnogaeth i denantiaid yr effeithiwyd arnynt gan sgandal y cladin yng Nglanfa Victoria.
Gwybodaeth: Y llynedd, gwnaethom edrych yn fanwl ar gynnydd cyweirio adeiladau yng Nghymru.
Cwestiwn: Mae Carrie Harper AS yn gofyn am ddull cynllunio dan arweiniad y gymuned.
Gwybodaeth: Rydym wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau cyflym ar y system gynllunio.
Cwestiwn: Mae Andrew RT Davies AS yn gofyn am Gynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru.
Gwybodaeth: Mae modd gweld y cynllun yma. Bu ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd flaenorol i weithredu’r Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth yng Nghymru yn ystyried cyfiawnder troseddol.
Cwestiwn: Mae Cristiana Emsley AS yn gofyn am gefnogaeth ar gyfer pobl sy'n gwneud datgeliadau gwarchodedig ac yn adrodd am warchodaethau o dan Adran 43 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996.
Cwestiwn: Mae Llŷr Powell AS yn gofyn am berfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys yn ne-ddwyrain Cymru.
Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ar amser a dreulir mewn adrannau brys y GIG.
Cwestiwn: Mae Jane Dodds AS yn gofyn am y blaenoriaethau ar gyfer gofal plant.
Gwybodaeth: Fel rhan o'n cyfres ar faterion allweddol, rydym wedi ystyried polisïau gofal plant yng Nghymru.
Os na ofynnir y cwestiwn yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, bydd yr Aelod yn cael ateb ysgrifenedig ar yr un diwrnod.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru