Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) wedi dod dros ei rwystr terfynol yn y broses ddeddfwriaethol.
Ar 8 Mai, pleidleisiodd y Senedd o 43 i 16 i basio'r Bil. Mae’r bleidlais hon yn nodi dechrau newid sylweddol i’r Senedd yn ei 25ain flwyddyn.
Ond nid dyma ddiwedd y stori ar gyfer diwygio’r Senedd. Mae’r erthygl hon yn edrych ar rai cwestiynau allweddol am yr hyn a fydd yn digwydd nesaf a’r materion sydd heb eu datrys eto.
Pryd fydd y Bil yn dod yn gyfraith?
Mae’r Bil wedi cwblhau’r broses ddeddfwriaethol yn y Senedd. Rydym wedi diweddaru ein Crynodeb o’r Bil i adlewyrchu’r gwelliannau a wnaed yn ystod y daith honno.
Mae bellach yn y 'cyfnod hysbysu’ fel y’i gelwir, pan fo gan Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru neu Dwrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU bedair wythnos pan gânt ofyn i'r Goruchaf Lys, os ydynt yn dewis gwneud hynny, benderfynu a yw'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Caiff Ysgrifennydd Gwladol y DU hefyd atal Bil rhag cael ei gyflwyno ar gyfer y Cydsyniad Brenhinol os oes ganddo sail resymol dros gredu bod amodau penodol yn gymwys. Mae ein herthygl yn edrych ar y pwerau hyn yn fanylach.
Os bydd y Bil yn mynd drwy’r cyfnodau hyn, bydd yn cael ei anfon at y Brenin i gael y Cydsyniad Brenhinol a dod yn gyfraith wedyn.
Pryd fydd manylion am etholiad 2026 yn cael eu nodi?
Er bod y Bil yn nodi’r brif wybodaeth am sut y bydd etholiadau'r Senedd yn gweithredu, bydd llawer o fanylion yn ymddanos mewn darn o is-ddeddfwriaeth a elwir yn Orchymyn Cynnal Etholiadau.
Cafodd y Gorchymyn Cynnal Etholiadau gwreiddiol ei wneud yn 2007 yn dilyn newidiadau yn y setliad datganoli yng Nghymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae wedi’i adolygu a’i ddiwygio cyn pob un o etholiadau’r Senedd.
Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ymgynghori ac yn ailwneud Gorchymyn Cynnal Etholiadau dwyieithog wedi'i gydgrynhoi cyn etholiad y Senedd yn 2026. Dyma’r tro cyntaf i'r Gorchymyn fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Bydd yn cael ei ddiweddaru i ystyried y newidiadau a wnaed gan y Bil hwn. Cadarnhaodd Jane Hutt AS, y Trefnydd a'r Prif Chwip, y bydd angen gwneud rhagor o welliannau o ganlyniad i Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) os bydd yn cael ei basio gan y Senedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ymgynghori ar y Gorchymyn Cynnal Etholiadau drafft yn hydref 2024.
A fydd cwotâu rhywedd ar waith ar gyfer yr etholiad nesaf?
Mae ail ddarn o ddeddfwriaeth ddiwygio yn cael ei ystyried gan y Senedd. Mae’n cynnig cwotâu rhywedd deddfwriaethol ar gyfer etholiadau’r Senedd.
Mae Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn cyflwyno dau fath o gwotâu rhywedd. Un sy'n ymwneud â'r ymgeiswyr y mae pleidiau gwleidyddol yn eu dewis ar gyfer rhestr mewn etholaethau unigol, a'r llall am faint o fenywod sydd yn y safle cyntaf ar bob un o restrau'r blaid ledled Cymru.
Mae’r Bil hwn yng Nghyfnod 1 o broses ddeddfwriaethol y Senedd ar hyn o bryd, a 7 Mehefin yw’r dyddiad cau i bwyllgorau gyflwyno adroddiad.
Mae ein herthygl yn nodi cynigion y Bil hwn yn fanylach.
Sut fydd ffiniau etholaethau’r Senedd yn cael eu dewis?
Os bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cael y Cydsyniad Brenhinol, bydd proses yn cael ei rhoi ar waith i adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd am y tro cyntaf.
Caiff hyn ei wneud drwy ddau adolygiad gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gynt).
Yn yr adolygiad cyntaf, dewisir ffiniau’r etholaethau a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026. Bydd hwn yn adolygiad cywasgedig a fydd yn paru 32 etholaeth San Steffan i greu 16 o etholaethau’r Senedd. Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi dweud y bydd yn cyhoeddi ei gynigion cychwynnol ym mis Medi 2024.
Yn dilyn etholiad 2026, cynhelir adolygiad ffiniau llawn i benderfynu a fydd newidiadau i’r 16 o etholaethau sydd i’w defnyddio yn y dyfodol. Bydd rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gyhoeddi ei adroddiad terfynol erbyn 1 Rhagfyr 2028. Cynhelir adolygiadau ffiniau dilynol bob wyth mlynedd wedi hynny.
Beth sy’n digwydd gyda rhannu swyddi yn y Senedd?
Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn ei gwneud yn ofynnol i Lywydd y Senedd nesaf gyflwyno cynnig bod pwyllgor yn adolygu posibilrwydd rhannu swyddi yn y Senedd.
Byddai’r rolau hyn yn cynnwys Aelod o'r Senedd, y Llywydd (a’r Dirprwy Lywydd), a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog.
Yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil, nododd y Pwyllgor Biliau Diwygio nad oes dim a fyddai’n atal y Senedd rhag sefydlu pwyllgor cyn etholiad 2026 i edrych ar y mater hwn. Argymhellodd Pwyllgor Busnes y Senedd ystyried a ddylid sefydlu pwyllgor newydd, neu ofyn i bwyllgor presennol, ymgymryd â'r gwaith hwn yn ystod y Chweched Senedd.
A fydd mecanwaith i adalw Aelodau o’r Senedd?
Er nad oedd mecanwaith i adalw Aelodau o’r Senedd yn rhan o’r Bil, roedd hwn yn fater a ystyriwyd gan y Pwyllgor Biliau Diwygio fel rhan o'i waith craffu cyfnod 1.
Senedd y DU oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i gyflwyno system adalw drwy Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015 ar gyfer Aelodau Tŷ'r Cyffredin. O dan y system hon, gall Aelodau Seneddol gael eu diswyddo drwy etholiad arbennig os bodlonir amodau penodol.
Argymhellodd y Pwyllgor Biliau Diwygio ydylai Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ddatblygu opsiynau ar gyfer cryfhau atebolrwydd Aelodau unigol, gan gynnwys ystyried mecanwaith adalw.
Argymhellodd hefyd y dylid cwblhau ymgynghoriad cyhoeddus ar yr opsiynau posibl, a hynny cyn diwedd y Chweched Senedd yn 2026.
Yn ystod trafodion Cyfnod 3 y Bil, cadarnhaodd Vikki Howells AS, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, fod y Pwyllgor wedi cytuno i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Datganodd y bydd y Pwyllgor yn:
cymryd tystiolaeth gan dystion allweddol a all helpu'r pwyllgor i nodi trefn adalw effeithiol a chymesur sy'n gweithio i Gymru a'n system etholiadol.
A allai'r system etholiadol ei hun newid ar ôl 2026?
Un o brif nodweddion y Bil yw ei fod yn darparu i’r Senedd nesaf ystyried a ddylid sefydlu pwyllgor i adolygu’r trefniadau etholiadol newydd ar ôl etholiad 2026.
Er bod y Cwnsler Cyffredinol wedi dweud mai mater i'r Senedd nesaf fydd union gwmpas unrhyw adolygiad , mae nodiadau esboniadol y Bil yn awgrymu y gallai’r adolygiad ystyried:
- Effeithiau'r system bleidleisio newydd ar gyfranoldeb;
- Cyflwyno etholaethau amlaelod; a
- Y profiad o restrau caeedig.
Os yw’r Senedd nesaf yn dewis sefydlu pwyllgor i gynnal yr adolygiad hwn, mae’n debygol y bydd ganddo rôl allweddol wrth lywio newidiadau yn y dyfodol.
Mae rhagor o gyhoeddiadau Ymchwil y Senedd am y Biliau hyn a hanes Diwygio’r Senedd ar y dudalen adnoddau hon.
Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru