Crynodeb o’r Bil: Coronafeirws

Cyhoeddwyd 24/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw, Ddydd Mawrth 24 Mawrth bu’r Cynulliad yn trafod ac yn pleidleisio ar roi cydsyniad i Fil Coronafeirws Llywodraeth y DU.

Mae'r Bil wedi'i gyflwyno i Senedd y DU i roi pwerau brys dros dro i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i wella gallu cyrff cyhoeddus ledled y DU i ymateb i'r pandemig coronafeirws. Mae'r Bil yn ymdrin â phum maes allweddol:

  • cynyddu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar gael;
  • lleddfu’r baich ar staff rheng flaen yn y GIG a thu hwnt (gan gynnwys iechyd meddwl; darparwyr gofal cymdeithasol; addysg a gofal plant; porthladdoedd; llysoedd);
  • ynysu ac arafu'r feirws (gan gynnwys digwyddiadau a phobl yn ymgynnull; adeiladau; etholiadau; pwerau'r heddlu)
  • rheoli'r meirw gyda pharch ac urddas, a
  • diogelu a chefnogi pobl (gan gynnwys tâl salwch statudol; cyflenwi bwyd).

Mae'r crynodeb hwn o’r Bil yn rhoi rhagor o wybodaeth am y darpariaethau yn y Bil a'u goblygiadau i Gymru. Caiff y Bil ei ystyried yn Nhŷ'r Arglwyddi yfory, cyn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin.

Darllenwch y briff yma: Crynodeb o’r Bil: Coronafeirws (PDF, 618KB)

 


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru