Coronafeirws: diweddariad mis Mehefin ar y farchnad lafur

Cyhoeddwyd 18/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Mehefin 2020

A yw’r ystadegau swyddogol wedi dechrau adlewyrchu effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur?

Bob mis, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau cyflogaeth a diweithdra. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir gan yr arolwg o'r llafurlu ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r oedi amser i'r ffigurau hyn yn golygu bod y datganiad marchnad lafur diweddaraf  a gyhoeddwyd ar 16 Mehefin 2020 yn rhoi gwybodaeth rhwng mis Chwefror 2020 a mis Ebrill 2020. Nid yw ffigurau mis Mehefin yr arolwg o’r llafurlu wedi dechrau adlewyrchu effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru.

A oes data eraill y gallwn eu defnyddio i weld effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru?

Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn cael eu cyhoeddi'n fisol ac maent yn fwy amserol. Fodd bynnag, gall pobl mewn gwaith hefyd fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a gellid eu cynnwys yn y nifer sy'n hawlio budd-daliadau. Mae’r SYG yn nodi;

As part of the response to the pandemic, the rules about who can claim Universal Credit have changed, meaning an increased proportion of those claiming may actually still be in some kind of work. Because of these reasons, the change in the claimant count almost certainly ends up overstating any underlying change in unemployment.

Mae’r SYG hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i greu amcangyfrifon o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r system Talu Wrth Ennill. Roedd y data Talu Wrth Ennill ar gyfer mis Ebrill yn dangos gostyngiad o tua hanner miliwn bobl yn y DU sy’n cael eu talu drwy'r system hon. Nid yw'r data hwn ar gael ar lefel Cymru eto.

Nifer yr hawlwyr – wedi'i haddasu'n dymhorol

Mae'r SYG yn cyhoeddi cyfres arbrofol  sy'n cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol iddynt geisio gwaith a bod ar gael i weithio. Mae hyn yn disodli nifer y bobl sy'n hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith fel prif ddangosydd nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn bennaf am eu bod yn ddi-waith. Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Mai 2020 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 58,576 ym mis Mawrth 2020 i 121,858 ym mis May 2020.

Nifer yr hawlwyr yng Nghymru; mis Mai 2018 i fis Mai 2020

graff yn dangos ffigurau nifer yr hawlwyr rhwng mis Mai 2018 a mis Mai 2020Ffynhonnell, NOMIS, Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal SYG - addesir yn dymhorol
Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir bod y ffigurau hyn yn ystadegau arbrofol. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr geisio gwaith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio.  Caiff y cyfraddau ar gyfer rhanbarthau a gwledydd o 2018 ymlaen eu cyfrifo drwy ddefnyddio trigolion 16-64 oed canol 2015.

Nifer yr hawliadau am Gredyd Cynhwysol

Ymatebodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros waith a Phensiynau, Thérèse Coffey AS, i lythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb AS ar 21 Mai 2020. Mae’r llythyr yn nodi nifer yr unigolion a'r aelwydydd a oedd yn hawlio Credyd Cynhwysol rhwng 1 Mawrth 2020 a 12 Mai 2020. Cafwyd cyfanswm o dros 122,000 o hawliadau unigol am Gredyd Cynhwysol yng Nghymru yn y cyfnod hwn, gan gyrraedd uchafbwynt o 6,860 ar 27 Mawrth 2020.

Nifer yr hawliadau am Gredyd Cynhwysol yng Nghymru; 1 Mawrth 2020 i 12 Mai 2020

graff yn dangos hawliadau credyd cynhwysol unigolion a chartrefi rhwng 1 Mawrth 2020 a 12 Mai 2020. Ffynhonnell: Senedd y DU, y Pwyllgor Materion Cymreig, Nifer yr hawliadau am Gredyd Cynhwysol yn cynyddu o 120,000 yng Nghymru ers argyfwng y coronafeirws 22 Mai 2020

Beth mae ffigurau diweddaraf yr arolwg o'r llafurlu yn ei ddangos?

Mae'r arolwg o'r llafurlu yn arolwg chwarterol o gartrefi o tua 80,000 o oedolion. Mae'r arolwg yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau am gyflogaeth a'r farchnad lafur. Mae’r oedi amser i’r data hwn yn golygu nad yw’n adlewyrchu effaith y coronafeirws eto ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Ar gyfer mis Chwefror 2020 tan fis Ebrill 2020 y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed neu’n hŷn yng Nghymru oedd 3.0 y cant, o’i chymharu â 3.3 y cant yn y chwarter blaenorol (rhwng Tachwedd 2019 ac Ionawr 2020). Mae hyn yn ostyngiad o 4,000 o bobl o'r chwarter blaenorol i lawr i 47,000.

y prif ystadegau ar gyfer cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd

 

Mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru (3.0 y cant) yn is na Lloegr (3.9 y cant) a’r Alban (4.6%) ac yn uwch na Gogledd Iwerddon (2.3 y cant).

Canran y bobl 16 oed neu’n hŷn sy'n ddi-waith, gwledydd y DU; Chwefror 2015 - Ebrill 2015 i Chwefror 2020 - Ebrill 2020.

graff llinell o gyfraddau diweithdra yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae data o'r arolwg o’r llafurlu ar gael sy'n dangos y gyfradd ddiweithdra yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2019. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod cyfraddau diweithdra yn gostwng gydag oedran ar gyfer dynion a menywod. Ym mhob grŵp oedran, mae cyfraddau diweithdra dynion yn uwch na menywod.

Cyfradd ddiweithdra yn ôl oedran a rhyw yng Nghymru; 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2019

Mae data ar ddiweithdra hefyd ar gael yn ôl etholaeth seneddol. Mae’r map rhyngweithiol isod ar gyfer y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2019 yn dangos mai Wrecsam oedd â'r gyfradd uchaf (7.0 y cant) ac mai Aberafan oedd â’r isaf (2.1 y cant).

 

 

 

Diffiniadau

Mae nifer y bobl ddi-waith yn y DU yn cynnwys pobl sy'n bodloni'r diffiniad o ddiweithdra a nodir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn diffinio pobl ddi-waith fel:

  • y rhai heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
  • y rhai allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf

Mae cyflogaeth yn mesur nifer y bobl 16 oed neu’n hŷn sydd mewn gwaith cyflogedig. Y prif fesur o gyflogaeth ar gyfer y DU yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed.

Y prif fesur o anweithgarwch yn y DU yw cyfradd y rhai rhwng 16 a 64 oed heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.

 

Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.