Arwydd Canolfan byd gwaith

Arwydd Canolfan byd gwaith

Coronafeirws: diweddariad mis Mawrth ar y farchnad lafur

Cyhoeddwyd 23/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/03/2021   |   Amser darllen munudau

A yw’r ystadegau swyddogol wedi dechrau adlewyrchu effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur?

Bob mis, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau cyflogaeth a diweithdra. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir gan yr arolwg o'r llafurlu ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r oedi amser i'r ffigurau hyn yn golygu bod y datganiad marchnad lafur diweddaraf a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2021 yn rhoi gwybodaeth rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ionawr 2021. Nid yw ffigurau arolwg mis Mawrth yn adlewyrchu nifer y bobl sydd wedi cael eu rhoi ar ffyrlo oherwydd y coronafeirws.

Yn ôl ystadegau CThEM ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws roedd dros 178,000 o gyflogaethau yng Nghymru ar ffyrlo ar 31 Ionawr 2021. Mae hynny’n cynrychioli cyfradd o 14% sydd wedi defnyddio’r Cynllun. Roedd 92,500 o weithwyr benywaidd a 85,400 o weithwyr gwrywaidd ar ffyrlo o dan y Cynllun ar 31 Ionawr 2021. Yn ôl data ar lefel etholaeth, Dwyfor Meirionnydd sydd â’r ganran uchaf o gyflogaethau ar ffyrlo (22%) ac Islwyn sydd â’r ganran isaf (10%).

Beth mae ffigurau diweddaraf yr arolwg o'r llafurlu yn ei ddangos?

Mae'r arolwg o'r llafurlu yn arolwg chwarterol o gartrefi o tua 80,000 o oedolion. Mae'r arolwg yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau am gyflogaeth a'r farchnad lafur. Gan fod pobl yn dal i fod ar ffyrlo, ac mae’r oedi amser i’r data hyn, nid yw hyn yn adlewyrchu effaith lawn y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Noda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol bod ymatebion i’r arolwg o’r llafurlu wedi’u pwysoli i ragolygon poblogaeth ar sail 2018, oedd cyn pandemig y Coronafeirws, gan ddatgan:

Rates published from the LFS remain robust; however, levels and changes in levels should be used with caution. This will particularly affect estimates for country of birth, nationality, ethnicity and disability.

Ar gyfer mis Tachwedd 2020 hyd fis Ionawr 2021, y gyfradd o bobl 16 oed a hŷn oedd yn ddi-waith yng Nghymru oedd 4.5%, o’i chymharu â 4.6% yn y chwarter blaenorol (mis Awst 2020 hyd fis Hydref 2020). Dyma ostyngiad o 2,000 o bobl o’r chwarter blaenorol, â’r cyfanswm bellach yn 68,000.

ffeithlun yn dangos y prif ystadegau. Mae’r gyfradd diweithdra yn 4.5 y cant gyda 68,000 o bobl yn ddi-waith, gostyngiad o 2,000 o'r chwarter blaenorol.  Mae’r gyfradd cyflogaeth yn 72.1 y cant gyda 1,455,000 o bobl mewn cyfogaeth, gostyngiad o 6,000 o'r chwarter blaenorol. Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd yn 24.4 y cant gyda 466,000 o bobl yn economaidd weithgar, cynnydd o 7,000 ar y chwarter blaenorol.

Ffynhonnell: SYG, Regional labour market: Headline indicators for Wales

Mae'r gyfradd diweithdra yng Nghymru (4.5 y cant) yn is na Lloegr (5.1 y cant) ond yn uwch na'r Alban (4.1 y cant) a Gogledd Iwerddon (3.7 y cant).

Canran y bobl 16 oed neu’n hŷn sy'n ddi-waith, gwledydd y DU; Tachwedd 2015 – Ionawr 2016 i Tachwedd 2020 - Ionawr 2021.

graff llinell o gyfraddau diweithdra ar gyfer Cymru 4.5 y cant, Lloegr 5.1 y cant, yr Alban 4.1 y cant a Gogledd Iwerddon 3.7 y cant

Ffynhonnell: SYG, Labour market in the regions of the UK: Ionawr 2021

Mae data o'r arolwg o’r llafurlu ar gael sy'n dangos y gyfradd ddiweithdra yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer y 12 mis hyd at fis Medi 2020. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod cyfraddau diweithdra yn gostwng gydag oedran ar gyfer dynion a menywod. Yn y grwpiau oedran 16-24 a 25-49, mae cyfraddau diweithdra dynion yn uwch na menywod.

Cyfradd ddiweithdra yn ôl oedran a rhyw yng Nghymru; 12 mis hyd at fis Medi 2020

Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 16 a 24 oed yn 10.8 y cant o'i gymharu â 10.0 y cant ar gyfer menywod. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 25 a 49 oed yn 3.1 y cant o'i gymharu â 2.8 y cant ar gyfer menywod. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 50 a 64 oed yn 2.2 y cant sydd yr un fath i fenywod.

Mae data ar ddiweithdra hefyd ar gael yn ôl etholaeth seneddol. Mae’r map isod ar gyfer y 12 mis hyd at fis Medi 2020 yn dangos mai Gorllewin Abertawe oedd â'r gyfradd uchaf (7.8 y cant) ac mai Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro oedd â’r isaf (0.9 y cant).

Noder: Mae maint y samplau yng Nghanol Caerdydd a Gorllewin Caerdydd yn rhy fach i roi amcangyfrifon.

A oes data eraill y gallwn eu defnyddio i weld effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru?

Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn cael eu cyhoeddi'n fisol ac maent yn fwy amserol. Fodd bynnag, gall pobl mewn gwaith hefyd fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a gellid eu cynnwys yn y nifer sy'n hawlio budd-daliadau. Mae’r SYG yn nodi;

As part of the response to the pandemic, the rules about who can claim Universal Credit have changed, meaning an increased proportion of those claiming may actually still be in some kind of work. Because of these reasons, the change in the claimant count almost certainly ends up overstating any underlying change in unemployment.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i greu amcangyfrifon o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r system Talu Wrth Ennill. Roedd y data Talu Wrth Ennill a addaswyd yn dymhorol rhwng mis Mawrth 2020 a mis Chwefror 2021 yn dangos gostyngiad o 24,000 o bobl yng Nghymru sy’n cael eu talu trwy'r system hon.

Nifer yr hawlwyr – wedi'i haddasu'n dymhorol

Mae'r SYG yn cyhoeddi cyfres arbrofol sy'n cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol iddynt geisio gwaith a bod ar gael i weithio. Mae hyn yn disodli nifer y bobl sy'n hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith fel prif ddangosydd nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn bennaf am eu bod yn ddi-waith. Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Chwefror 2021 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 58,576 ym mis Mawrth 2020 i 113,044 ym mis Chwefror 2021, cynnydd bychan o 109,785 ym mis Ionawr 2021.

Nifer yr hawlwyr yng Nghymru; mis Chwefror 2019 i fis Chwefror 2021

graff sy’n dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 58,576 ym mis Mawrth 2020 i 113,044 ym mis Chwefror 2021, cynnydd bychan o 109,785 ym mis Ionawr 2021.

Ffynhonnell, NOMIS, Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal SYG - addesir yn dymhorol

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir bod y ffigurau hyn yn ystadegau arbrofol. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr geisio gwaith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio. Caiff y cyfraddau ar gyfer rhanbarthau a gwledydd o 2018 ymlaen eu cyfrifo drwy ddefnyddio trigolion 16-64 oed canol 2015.

Diffiniadau

Mae nifer y bobl ddi-waith yn y DU yn cynnwys pobl sy'n bodloni'r diffiniad o ddiweithdra a nodir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn diffinio pobl ddi-waith fel:

  • y rhai heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
  • y rhai allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf

Mae cyflogaeth yn mesur nifer y bobl 16 oed neu’n hŷn sydd mewn gwaith cyflogedig. Y prif fesur o gyflogaeth ar gyfer y DU yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed.

Y prif fesur o anweithgarwch yn y DU yw cyfradd y rhai rhwng 16 a 64 oed heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.


Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru