Coronafeirws: diweddariad mis Gorffennaf 2021 ar y farchnad lafur

Cyhoeddwyd 16/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/07/2021   |   Amser darllen munudau

A yw’r ystadegau swyddogol wedi dechrau adlewyrchu effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur?

Bob mis, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau cyflogaeth a diweithdra. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir gan yr arolwg o'r llafurlu ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r oedi amser i'r ffigurau hyn yn golygu bod y datganiad marchnad lafur diweddaraf a gyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf 2021 yn rhoi gwybodaeth rhwng mis Mawrth 2021 a mis Mai 2021.

Nid yw ffigurau arolwg mis Gorffennaf yn adlewyrchu nifer y bobl sydd wedi cael eu rhoi ar ffyrlo oherwydd y coronafeirws.

Yn ôl ystadegau CThEM ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws roedd dros 88,500 o gyflogaethau yng Nghymru ar ffyrlo ar 31 Mai 2021. Mae hynny’n cynrychioli cyfradd o 7% sydd wedi defnyddio’r Cynllun. Roedd 43,700 o weithwyr benywaidd a 44,800 o weithwyr gwrywaidd ar ffyrlo o dan y Cynllun ar 31 Mai 2021.

Beth mae ffigurau diweddaraf yr arolwg o'r llafurlu yn ei ddangos?

Mae'r arolwg o'r llafurlu yn arolwg chwarterol o gartrefi o tua 80,000 o oedolion. Mae'r arolwg yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau am gyflogaeth a'r farchnad lafur. Gan fod pobl yn dal i fod ar ffyrlo, ac mae’r oedi amser i’r data hyn, nid yw hyn yn adlewyrchu effaith lawn y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn esbonio eu bod wedi gwneud newidiadau i’r arolwg o’r llafurlu:

Mae’r ymatebion i’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) wedi cael eu hail-bwysoli i boblogaethau newydd sydd wedi’u deillio drwy ddefnyddio cyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, i ganiatáu ar gyfer tueddiadau gwahanol yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Bydd yr ail-bwysoli yn rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.

Ar gyfer mis Mawrth 2021 hyd fis Mai 2021, y gyfradd o bobl 16 oed a hŷn oedd yn ddi-waith yng Nghymru oedd 3.9%, o’i chymharu â 4.9% yn y chwarter blaenorol (mis Rhagfyr 2020 hyd fis Chwefror 2021). Dyma ostyngiad o 16,000 o bobl o’r chwarter blaenorol, â’r cyfanswm bellach yn 59,000.

Prif ystadegau mis Mawrth 2021 tan fis Mai 2021 o gymharu â'r chwarter blaenorol, sef mis Rhagfyr 2020 tan fis Chwefror 2021. Y gyfradd ddiweithdra 16+ yw 3.9 y cant gyda 59,000 o bobl yn ddi-waith, sef gostyngiad o 16,000 o gymharu â'r chwarter blaenorol. Y gyfradd gyflogaeth yn y grŵp 16-64 mlwydd oed yw 73.6 y cant. Cyflogwyd 1,465,000 o bobl 16+ mlwydd oed, sef gostyngiad o 2,000 o'i gymharu â’r chwarter blaenorol. Y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y grŵp 16-64 mlwydd oed yw 23.4 y cant gyda 444,000 o bobl yn economaidd weithgar, sef cynnydd o 8,000 o gymharu â’r chwarter blaenorol.

Ffynhonnell: SYG, Regional labour market: Headline indicators for Wales

Mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru (3.9 y cant) yn is na Lloegr (5.0 y cant) a’r Alban (4.4 y cant) ond yn uwch na Gogledd Iwerddon (3.6 y cant).

Canran y bobl 16 oed neu’n hŷn sy'n ddi-waith, gwledydd y DU; Mawrth 2016 – Mai 2016 i Mawrth 2021 - Mai 2021.

Graff llinell o gyfraddau diweithdra 16+ mlwydd oed ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae pob un yn dangos gostyngiad cyffredinol o, ragor na 5 y cant yn 2015 i lai na 4 y cant yn 2020. Dilynwyd hyn gan gynnydd cyffredinol sydyn ers dechrau 2020. Nodir y ffigurau cyfredol uchod.

Ffynhonnell: SYG, Labour market in the regions of the UK: Gorffennaf 2021

Mae data o'r arolwg o’r llafurlu ar gael sy'n dangos y gyfradd ddiweithdra yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2020. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod cyfraddau diweithdra yn gostwng gydag oedran ar gyfer dynion a menywod. Yn y grwpiau oedran 16-24 a 25-49, mae cyfraddau diweithdra dynion yn uwch na menywod.

Cyfradd ddiweithdra yn ôl oedran a rhyw yng Nghymru; 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2020

Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 16 a 24 oed yn 11.9 y cant o'i gymharu â 9.9 y cant ar gyfer menywod. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 25 a 49 oed yn 3.0 y cant o'i gymharu â 2.9 y cant ar gyfer menywod. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 50 a 64 oed yn 2.2 y cant sydd yr un fath i fenywod.

Mae data ar ddiweithdra hefyd ar gael yn ôl etholaeth seneddol. Mae'r map isod yn dangos mai Merthyr Tudful a Rhymni oedd â'r gyfradd uchaf (7.4 y cant) a Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro oedd â’r gyfradd isaf (0.6 y cant) ar gyfer y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2020.

Noder: Mae maint y samplau yn Aberafan a Chanol Caerdydd yn rhy fach i ddarparu amcangyfrifon.

A oes data eraill y gallwn eu defnyddio i weld effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru?

Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn cael eu cyhoeddi'n fisol ac maent yn fwy amserol. Fodd bynnag, gall pobl mewn gwaith hefyd fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a gellid eu cynnwys yn y nifer sy'n hawlio budd-daliadau. Mae’r SYG yn nodi;

As part of the response to the pandemic, the rules about who can claim Universal Credit have changed, meaning an increased proportion of those claiming may actually still be in some kind of work. Because of these reasons, the change in the claimant count almost certainly ends up overstating any underlying change in unemployment.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i greu amcangyfrifon o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r system Talu Wrth Ennill. Mae data’r Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) a addaswyd yn dymhorol ar gyfer mis Mehefin 2021 (1,261,910) yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru yn ôl ar yr un lefel â mis Mawrth 2020 (1,261,598). Roedd cynnydd o 15,700 o weithwyr cyflogedig rhwng mis Mai a mis Mehefin 2021.

Nifer yr hawlwyr - wedi'i haddasu'n dymhorol

Mae'r SYG yn cyhoeddi cyfres arbrofol sy'n cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol iddynt geisio gwaith a bod ar gael i weithio. Mae hyn yn disodli nifer y bobl sy'n hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith fel prif ddangosydd nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn bennaf am eu bod yn ddi-waith. Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Mehefin 2021 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 59,173 ym mis Mawrth 2020 i 119,232 ym mis Awst 2020, ac yna wedi lleihau i 95,938 ym mis Mehefin 2021.

Nifer yr hawlwyr yng Nghymru; mis Mehefin 2019 i fis Mehefin 2021

Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Mehefin 2021 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 59,173 ym mis Mawrth 2020 i 119,232 ym mis Awst 2020, ac yna wedi lleihau i 95,938 ym mis Mehefin 2021.

Ffynhonnell, NOMIS, Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal SYG - addesir yn dymhorol

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir bod y ffigurau hyn yn ystadegau arbrofol. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr geisio gwaith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio. Caiff y cyfraddau ar gyfer rhanbarthau a gwledydd o 2018 ymlaen eu cyfrifo drwy ddefnyddio trigolion 16-64 oed canol 2015.

Diffiniadau

Mae nifer y bobl ddi-waith yn y DU yn cynnwys pobl sy'n bodloni'r diffiniad o ddiweithdra a nodir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn diffinio pobl ddi-waith fel:

  • y rhai heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
  • y rhai allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf

Mae cyflogaeth yn mesur nifer y bobl 16 oed neu’n hŷn sydd mewn gwaith cyflogedig. Y prif fesur o gyflogaeth ar gyfer y DU yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed.

Y prif fesur o anweithgarwchyn y DU yw cyfradd y rhai rhwng 16 a 64 oed heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.


Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru