Coronafeirws: cyflogaeth

Cyhoeddwyd 05/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 11 Mehefin 2020

Mae cyfran fawr o’r gweithlu yng Nghymru wedi cael eu heffeithio gan y coronafeirws, drwy salwch, hunanynysu, absenoldeb seibiant (‘furloughing’), diswyddo, neu oherwydd cyfrifoldebau gofalu.

Mae’r erthygl hon yn amlinellu’r cymorth sydd ar gael o ran cyflogaeth, gan gynnwys gweithwyr ar seibiant (‘furloughed’), cymorth incwm i’r hunangyflogedig, ac i bobl na all weithio am resymau eraill.

Rydyn ni wedi cyhoeddi erthygl ar wahân ar goronafeirws a budd-daliadau lles.

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch cyflogaeth, ac mae wedi cyhoeddi canllawiau ar goronafeirws i weithwyr a chyflogwyr.

Gweithwyr ar seibiant drwy’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws

Pwrpas Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws gan Lywodraeth y DU yw helpu cyflogwyr y mae coronafeirws wedi effeithio’n ddifrifol ar eu gweithrediadau.

Mae’n caniatáu i gyflogwyr roi gweithwyr ar seibiant gan eu bod nhw’n methu gweithio am fod y busnes wedi gorfod cau, neu am nad oes unrhyw waith i’w wneud, oherwydd coronafeirws. Nod y cynllun yw gwneud yn siŵr nad yw cyflogwyr sydd methu fforddio talu cyflogau staff yn eu diswyddo.

Bydd y cynllun yn talu 80% o gostau cyflog misol arferol gweithwyr ar seibiant, hyd at £2,500 y mis (heb gynnwys taliadau bonws, ffioedd na chomisiwn). Gall cyflogwyr dalu’r 20% sy’n weddill, neu unrhyw swm sy’n fwy na’r terfyn o £2,500, ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny.

Gall cyflogwyr hawlio ar gyfer gweithwyr ar seibiant a oedd yn cael eu cyflogi ar 19 Mawrth neu cyn hynny. Cafodd y dyddiad cau ei ymestyn o 28 Chwefror i ddarparu ar gyfer pobl a newidiodd swydd ddechrau mis Mawrth.

Gall pobl oedd wedi newid eu swyddi ar ôl y dyddiad hwn ofyn i’w cyflogwr blaenorol eu hail-gyflogi ac yna eu rhoi nhw ar seibiant, ond nid oes rhaid i’r cyflogwr gytuno i wneud hyn.

Mae’r canllawiau yn amlinellu sut i gyfrifo cyflogau gweithwyr y mae eu cyflog yn amrywio o fis i fis (fel pobl ar gontractau dim oriau).

Gall gweithwyr a oedd ar absenoldeb di-dâl ar ôl 28 Chwefror fynd ar seibiant. Dylai gweithwyr ar absenoldeb salwch neu sy’n hunanynysu gymryd tâl salwch statudol, ond gallant fynd ar seibiant ar ôl hyn. Gall prentisiaid a phobl ar gontractau tymor penodol fynd ar seibiant hefyd.

Gall deiliaid swyddi (gan gynnwys cyfarwyddwyr cwmnïau), aelodau cyflogedig o Rhiantaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (LLPs), gweithwyr asiantaeth, a gweithwyr aelod (“limb workers”, sef contractwyr dibynnol)fynd ar seibiant os cânt eu talu drwy TWE.

Gall pobl sy’n ‘gwarchod’ (‘shielding’) oherwydd eu bod mewn grŵp bregus neu fod angen iddynt aros adref gyda rhywun sy'n gwarchod (ac na all weithio gartref), neu bobl â chyfrifoldebau gofalu fynd ar seibiant hefyd.

Nid yw gweithwyr sy’n gweithio ond eu bod nhw’n gweithio llai o oriau neu ar gyflog llai yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn.

Ni all cyflogwyr wahaniaethu wrth ddewis pa weithwyr i’w rhoi ar seibiant. Os yw gweithiwr yn gwrthod mynd ar seibiant ac yn cael ei ddiswyddo, mae hefyd yn bosibl y gallai’r meini prawf dewis ar gyfer seibiant fod yn ffactor mewn unrhyw honiad diswyddo annheg yn y dyfodol.

Ni all gweithwyr ar seibiant wneud unrhyw waith i’w cyflogwr, ond fe allant wirfoddoli.

Ar 29 Mai, cyhoeddodd y Canghellor y byddai busnesau, o 1 Gorffennaf ymlaen, yn gallu dod â gweithwyr ar ffyrlo yn ôl i weithio’n rhan-amser. Bydd cyflogwyr yn penderfynu ar oriau a phatrymau’r sifftiau y bydd eu gweithwyr yn gweithio pan fyddant yn dychwelyd, a byddant yn gyfrifol am dalu eu cyflogau.

O fis Awst ymlaen, bydd y cynllun yn dechrau tapro, a bydd cyflogwyr yn dechrau talu rhan o gyflogau gweithwyr ar ffyrlo. Ym mis Awst, bydd cyflogwyr yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYGau) a chyfraniadau pensiwn cyflogwyr. Ym mis Medi, yn ogystal â Chyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau phensiwn cyflogwyr, byddant hefyd yn talu 10 y cant o'u cyflogau, gyda Llywodraeth y DU yn talu 70 y cant hyd at uchafswm o £2,187.50. Ym mis Hydref, bydd hyn yn codi fel bod cyflogwyr yn talu 20 y cant o gyflogau yn ogystal â Chyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, gyda Llywodraeth y DU yn talu 60 y cant o gyflogau hyd at uchafswm o £1,875.

Bydd y cynllun yn cau i ymgeiswyr newydd ar 30 Mehefin, a dim ond ar gyfer gweithwyr a roddwyd ar ffyrlo am gyfnod o dair wythnos cyn hynny y caiff cyflogwyr wneud hawliad. Y dyddiad olaf y caiff cyflogwr newydd roi gweithiwr newydd ar ffyrlo yw 10 Mehefin. Y dyddiad cau i gyflogwyr wneud unrhyw hawliadau mewn perthynas â'r cyfnod hyd at 30 Mehefin fydd 31 Gorffennaf.

O 1 Gorffennaf ymlaen, dim ond i gyflogwyr sydd wedi defnyddio'r cynllun o'r blaen mewn perthynas â gweithwyr sydd eisoes ar ffyrlo y bydd y cynllun ar gael. Er mwyn adlewyrchu'r newidiadau i'r cynllun ffyrlo, o 1 Gorffennaf ymlaen ni fydd cyflogwyr yn cael cyflwyno hawliadau am gyfnodau sy'n cynnwys mwy nag un mis calendr. Ni fyddant ychwaith yn cael gwneud hawliad am nifer fwy o weithwyr ar ffyrlo mewn cyfnod hawlio o gymharu â’u hawliadau blaenorol.

Gall cyflogwyr wneud cais i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws drwy wefan Llywodraeth y DU.

Tâl salwch statudol

Mae hawl gan weithwyr sy’n cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd eu bod nhw’n sâl gyda coronafeirws neu’n hunanynysu i gael tâl salwch statudol (SSP). Mae hyn yn berthnasol yn ôl-weithredol o 13 Mawrth.

Ar 16 Ebrill, cafodd y ddarpariaeth ar gyfer tâl salwch statudol (SSP) ei hehangu i gynnwys pobl y nodwyd eu bod yn hynod fregus ac sydd angen aros gartref am gyfnod o 12 wythnos.

I fod yn gymwys, rhaid i enillion wythnosol cyfartalog gweithiwr fod yn uwch na £120 yr wythnos (o 6 Ebrill).

SSP yw’r isafswm cyflog y mae gan weithwyr hawl iddo – o 6 Ebrill y swm yw £95.85. Ond bydd gan lawer o bobl hawl i gael tâl salwch uwch o dan eu contract cyflogaeth.

Mae rhai gweithwyr asiantaeth a phobl ar gontractau ‘dim oriau’ yn cael eu ystyried yn gyflogeion, felly maent yn gymwys i gael SSP.

Nid yw pobl hunangyflogedig yn gymwys i gael SSP, felly ni fydd y rhan fwyaf o weithwyr yr ‘economi gìg’ yn gymwys. Ond mae rhai cwmnïau wedi dewis cynnig tâl salwch i weithwyr o’r fath.

Fel rheol, mae SSP yn cael ei dalu o’r pedwerydd diwrnod o salwch, ond mae Llywodraeth y DU wedi llacio’r rheol hon i bobl sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws felly gellir talu SSP o’r diwrnod cyntaf.

Gall gweithwyr ‘hunanardystio’ am y 7 diwrnod cyntaf i ffwrdd o’r gwaith. Ar ôl hynny, mae angen iddynt gael nodyn ‘hunanynysu’ gan wiriwr symptomau ar-lein GIG Cymru i’w roi i’w cyflogwr.

Gall cyflogwyr sydd â llai na 250 o gyflogwyr adennill rhai o gostau SSP yn ystod y cyfnod hwn o’r coronafeirws. Bydd yr ad-daliad hwn yn cynnwys hyd at 2 wythnos o SSP i bob gweithiwr cymwys sydd wedi bod i ffwrdd o’r gwaith oherwydd coronafeirws.

Pobl hunangyflogedig

Mae’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig gan Lywodraeth y DU yn caniatáu i bobl hunangyflogedig y mae coronafeirws wedi effeithio’n negyddol ar eu hincwm i hawlio a grant arian trethadwy o 80% o’u helw masnachu misol cyfartalog, hyd at £2,500 y mis.

Mae’r grant ar gael i bobl yr oedd eu helw masnachu blynyddol yn llai na £50,000 yn 2018-19 (neu ar gyfartaledd yn llai na £50,000 y flwyddyn yn y cyfnod 2016-17, 2017-18 a 2018-19) a lle mae dros hanner eu hincwm yn dod o hunangyflogaeth. Mae’r grant ond ar gael i bobl a oedd yn masnachu yn y flwyddyn dreth 2019-20, ac sydd wedi cyflwyno eu ffurflen dreth 2018-19 (er mae gan bobl hyd at 23 Ebrill i gyflwyno eu ffurflen dreth).

Mae’r cynllun hefyd yn berthnasol i aelodau o bartneriaethau. Nid yw pobl sy’n talu cyflog a difidendau i’w hunain trwy eu cwmni eu hunain yn dod o dan y cynllun, ond efallai y gallant ddefnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws os cânt eu talu trwy TWE (gweler uchod).

Bydd grantiau yn cael eu talu fel un cyfandaliad ar gyfer y tri mis, ac mae modd gwneud cais nawr. Cyn gwneud hawliad, dylai pobl hunangyflogedig ddefnyddio Holiadur gwirio cymhwysedd Cyllid a Thollau EM i weld a oes ganddynt hawl i’r gefnogaeth hon. Os yw rhywun yn gymwys i hawlio, bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi dyddiad dechrau ar gyfer yr hawliad, ac mae'r gwasanaeth ar-lein bellach wedi’i lansio er mwyn gwneud hyn. Ar ôl i hawliad gael ei gyflwyno, bydd Cyllid a Thollau EM yn ei wirio, ac yn talu'r grant i gyfrif banc yr hawlydd o fewn chwe diwrnod gwaith.

Gall unigolion barhau i wneud cais am y grant cyntaf tan 13 Gorffennaf.

Ar 29 Mai, cyhoeddodd y Canghellor y byddai'r cynllun yn cael ei ymestyn, fel y bydd y rhai sy'n gymwys yn gallu hawlio ail grant a'r olaf ym mis Awst. Bydd y grant yn werth 70 y cant o'r elw masnachu misol cyfartalog, wedi’i dalu mewn un rhandaliad sy’n cwmpasu gwerth tri mis o elw, ac sydd wedi’i gyfyngu i £6,570 at ei gilydd.

Mae'r meini prawf cymhwysedd yr un fath ar gyfer y ddau grant, a bydd angen i unigolion gadarnhau bod y coronafeirws wedi cael effaith andwyol ar eu busnes. Nid oes rheidrwydd bod unigolyn wedi hawlio’r grant cyntaf i gael yr ail grant.

Gall pobl hunangyflogedig sydd ar incwm isel hefyd fod yn gymwys i gael budd-daliadau. Darllewnch ein herthygl ar fudd-daliadau am ragor o wybodaeth.

Pobl na allant weithio am resymau eraill

Gall gweithleoedd barhau i weithredu os ydyn nhw’n darparu gwasanaethau allweddol neu os nad oes rhaid iddynt gau, a lle nad yw gweithio gartref yn bosibl.

Ond efallai na fydd pobl â chyfrifoldebau gofalu, sy’n ‘gwarchod’ yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, sy’n byw gyda pherson bregus, neu’n ofni dal y coronafeirws, yn gallu mynd i’r gwaith neu’n anfodlon mynd.

Cafodd canllawiau Llywodraeth y DU eu diweddaru ar 6 Ebrill i ddweud y gall pobl sy'n ‘gwarchod’ oherwydd eu bod mewn grŵp bregus, neu sydd angen aros adref gyda rhywun sy’n gwarchod (ac sy’n methu gweithio gartref), neu sydd â chyfrifoldebau gofalu fynd ar seibiant drwy’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (gweler uchod).

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynghori cyflogwyr i wrando ar bryderon eu staff, a chymryd camau i amddiffyn pawb. Ond gallai gweithwyr sy’n gwrthod dilyn cyfarwyddiadau ddal i wynebu camau disgyblu.

Efallai y bydd pobl yn gallu cymryd yr amser i ffwrdd fel absenoldeb gwyliau neu absenoldeb di-dâl. Ond nid oes rhaid i gyflogwyr gytuno ar hyn.

Os oes gan weithiwr gyfrifoldebau gofalu ar frys, efallai y bydd yn gallu cymryd amser ‘rhesymol’ i ffwrdd ar gyfer dibynyddion. Nid oes rhaid i’r amser i ffwrdd fod â thâl, ond gall cyflogwyr ddewis gwneud hynny.

Rhaid i gyflogwyr menywod beichiog wneud asesiad risg, ac os nad yw’n ddiogel iddynt fynd i’r gwaith, mae’n rhaid eu hatal dros dro ar gyflog llawn. Os yw hynny o fewn 6 wythnos i’w dyddiad geni disgwyledig, mae hawl ganddynt i ddechrau eu cyfnod mamolaeth bryd hynny.

Efallai y bydd Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill ar gael i bobl sydd mewn neu allan o waith ac ar incwm isel gan eu bod yn gorfod cymryd absenoldeb di-dâl (gweler ein herthygl ar fudd-daliadau am ragor o wybodaeth.)

Cyngor

Gall gwasanaethau cynghori gynnig help gyda materion cyflogaeth, gan gynnwys:


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd