Llun o laswelltir sy’n frith o rywogaethau

Llun o laswelltir sy’n frith o rywogaethau

COP16: Bioamrywiaeth, o ddinas Cali i Gymru

Cyhoeddwyd 05/12/2024   |   Amser darllen munudau

Sylwch fod yr erthygl hon yn ymwneud â chynhadledd bioamrywiaeth COP16. Mae cynhadledd newid hinsawdd COP29 yn destun erthygl ar wahân gan Ymchwil y Senedd.

Ym mis Hydref 2024, daeth cynrychiolwyr o lywodraethau cenedlaethol, cyrff anllywodraethol, y byd academaidd, a'r sector preifat at ei gilydd yn ninas Cali, Colombia ar gyfer COP16, sef cynhadledd bioamrywiaeth fwyaf y byd. Ddwy flynedd ers cytundebau nodedig COP15, mae’r erthygl hon yn trafod y cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau COP15, canlyniadau COP16, a beth yw goblygiadau hyn oll i Gymru.

Cytundebau a ddeilliodd o COP15

Yn COP15 yn 2022, cytunodd llywodraethau byd-eang ar gyfres o 23 o dargedau a 4 nod a elwir gyda’i gilydd yn Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal (GBF). Gweledigaeth y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (GBF) yw byd sy’n “byw mewn cytgord â natur” erbyn 2050, a’i genhadaeth yw “atal a gwrthdroi colledion bioamrywiaeth” erbyn 2030. Elfen proffil uchel o'r GBF yw'r Targed o '30 erbyn 30' sef, i ddiogelu o leiaf 30% o dir, dyfrffyrdd mewndirol a moroedd erbyn 2030.

Addawodd y rhai a lofnododd y cytundeb GBF ddatblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau gweithredu domestig i gyflawni eu cyfrifoldebau. Er bod Llywodraeth y DU wedi llofnodi’r GBF, mae materion bioamrywiaeth wedi’u datganoli, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu'r GBF.

Mae'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) yn ei gwneud yn ofynnol i Bartïon gyflwyno adroddiadau ar gyflawni ymrwymiadau'r GBF. Mae pedair llywodraeth y DU gyda'i gilydd yn cyfrannu at gyflwyniadau GBF y DU, a gaiff eu cydlynu gan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC). Disgwylir y caiff adroddiad y DU ei gyflwyno ym mis Chwefror 2026.

Cynnydd a rhwystredigaeth yn COP16

Yn fwy diweddar, nod COP16 oedd pwyso a mesur y cynnydd tuag at ymrwymiadau’r GBF a datblygu ymhellach amddiffyniadau bioamrywiaeth. Prif ganlyniadau COP16 oedd:

  • cytundeb i gadw a chynnal arferion cymunedau brodorol a lleol o ran bioamrywiaeth, a chreu corff ar gyfer Pobl Gynhenid; a
  • chreu 'Cronfa Cali', a fydd yn cymryd cyfran o elw cwmnïau o ddefnyddio gwybodaeth dilyniant digidol - sef data genetig a gesglir o blanhigion ac anifeiliaid a ddefnyddir i ddatblygu cynhyrchion - a'u hailddosbarthu i Bobl Gynhenid a chymunedau lleol.

Yn ogystal, mabwysiadodd COP16 destun sy’n cydnabod natur gydgysylltiedig y newid yn yr hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth yn fyd-eang, ac yn annog rhagor o gydweithredu wrth fynd i’r afael â’r ddau. Dechreuodd COP29, y gynhadledd ryngwladol gyfatebol ar newid hinsawdd, lai na phythefnos ar ôl i COP16 ddod i ben.

Ni ddaethpwyd i gytundeb ar sut i ariannu ymrwymiadau bioamrywiaeth y GBF, nac ar sut i fonitro a oedd gwledydd yn cydymffurfio ag ymrwymiadau bioamrywiaeth rhyngwladol.

Cynnydd Cymru i gyflawni'r ymrwymiadau byd-eang

Mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur 2023, a gafodd ei lunio gan glymblaid o grwpiau amgylcheddol, sefydliadau academaidd, a chyrff cadwraeth natur statudol, yn disgrifio Cymru fel “un o’r gwledydd sydd wedi disbyddu fwyaf o ran byd natur ar y Ddaear”, a bod y boblogaeth o rywogaethau a gaiff eu monitro wedi lleihau 20% ar gyfartaledd ers 1994. Yn 2021, cyhoeddodd y Senedd 'argyfwng natur'.

Mae'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur wedi dyddio

Mae dull Cymru o fynd i'r afael ag ymrwymiadau bioamrywiaeth rhyngwladol wedi'i nodi yng Nghynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd hwn yn 2015, fodd bynnag, sef cyn cytuno ar y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang {GBF), ac felly mae'n ymdrin â Chynllun Strategol blaenorol y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) ar gyfer Bioamrywiaeth 2011 – 2020 (rhagflaenydd y cytundeb COP15). Ni ddiweddarodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Adfer Natur cyn COP16 er iddi ddweud y byddai'n gwneud hynny. Roedd y DU yn un o ragor nag 85% o lofnodwyr y GBF a dorrodd addewid i gyflwyno cynlluniau bioamrywiaeth wedi'u diweddaru cyn y gynhadledd, ac yn lle hynny cyflwynodd dargedau cenedlaethol llai manwl.

Targedau bioamrywiaeth domestig newydd yn yr arfaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno targedau bioamrywiaeth ddomestig a fframwaith bioamrywiaeth newydd i helpu i roi’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (GBF) ar waith drwy’r Bil Llywodraethu Amgylcheddol, Egwyddorion, a Bioamrywiaeth, sydd i gael ei gyflwyno i’r Senedd ym mis Mehefin 2025. Mae'r Papur Gwyn ar gyfer y Bil yn cynnwys targed trosfwaol a fyddai’n cyd-fynd â’r GBF:

i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu’n fwy diweddar y bydd yn cyhoeddi 'datganiad o ddiben neu ddatganiad cenhadaeth' yn lle'r targed trosfwaol, ac anogodd hyn grwpiau amgylcheddol i ddweud y gallai hyn danseilio pa mor gyflym y gellir ei gyflawni.

Byddai targedau bioamrywiaeth manwl yn dilyn mewn rheoliadau. Fodd bynnag, gall gymryd 36 mis i’r rheoliadau hyn gael eu cyflwyno ar ôl pasio’r Bil, a fyddai’n arwain at amser cyfyng ar gyfer cyrraedd targedau 2030.

Cynnydd tuag at '30 erbyn 30'

Comisiynodd Llywodraeth Cymru 'archwiliad dwfn bioamrywiaeth' yn 2022, a gynhaliwyd gan arbenigwyr ac ymarferwyr amgylcheddol. Gwnaed wyth argymhelliad ar sut i gyflawni'r nod '30 erbyn 30' yng Nghymru.

Mae'r JNCC yn amcangyfrif bod gan 10.5% o arwynebedd tir Cymru, ym mis Mawrth 2023, ddynodiad sy'n ymwneud yn benodol â chadwraeth natur; ac mae gan 50.3% o'i ardal forol ryw fath o statws gwarchodedig. Nid yw'r ffigur daearol yn cynnwys tirweddau dynodedig (fel Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol), ac mae’r rhain yn creu 18.9% o dir ychwanegol o gyfanswm arwynebedd tir Cymru. Dywedodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru wrth Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (CCEI) y Senedd yn ddiweddar bod “grŵp arbenigol tirweddau dynodedig” yn helpu i benderfynu pa ardaloedd o fewn y tirweddau dynodedig ‘a allai gyfrif tuag at y [nod] 30 erbyn 30’. Pwysleisiwyd na fyddai rhai ardaloedd o fewn tirweddau dynodedig, fel trefi a phentrefi, yn cyfrif tuag at y targed.

Mae rhanddeiliaid wedi pwysleisio bod angen dynodi ardaloedd digonol, a hefyd sicrhau bod tir dynodedig yn cael ei reoli mewn modd sy'n cefnogi bioamrywiaeth yn ystyrlon.

Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) Werthusiad Gwaelodlin yn 2020 i asesu cyflwr safleoedd gwarchodedig daearol a safleoedd gwarchodedig dŵr croyw. Canfu fod 20% o’r nodweddion (a all fod yn nodweddion daearegol neu’n fiolegol) o fewn y safleoedd hyn mewn cyflwr ffafriol, roedd 31% yn anffafriol, ac roedd mewn 49% o safleoedd nid oedd digon o ddata i’w asesu.

Gelwir safleoedd gwarchodedig yn y môr gyda'i gilydd yn Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs). Canfu Arolwg gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn 2018 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol bod 46% o’r nodweddion mewn cyflwr ffafriol, 45% yn anffafriol, a 9% yn anhysbys.

Mae rhai cyrff anllywodraethol amgylcheddol wedi mynegi pryder am ansawdd Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs). Dywed Ymddiriedolaethau Natur Cymru mai “dim ond 3% o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sydd â’u holl nodweddion mewn rheolaeth ffafriol” a bod y rhan fwyaf “yn parhau i fod mewn cyflwr anffafriol neu anhysbys”.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd wedi bod yn edrych yn fanwl ar gynnydd Cymru tuag at y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang mewn ymchwiliad sy’n canolbwyntio ar 'atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030'. Caiff adroddiad y Pwyllgor ei gyhoeddi’n fuan.

I gael rhagor o wybodaeth am y polisi bioamrywiaeth, darllenwch ein Papur briffio gan Ymchwil y Senedd.


Erthygl gan Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru