wiwer goch

wiwer goch

Bioamrywiaeth 2023

Cyhoeddwyd 10/11/2023   |   Amser darllen munudau

Yn 2021, cyhoeddodd y Senedd 'argyfwng natur'. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth o’r dirywiadau mewn bioamrywiaeth a achoswyd gan bobl. Mae'r adroddiad yn 2023 ynghylch sefyllfa byd natur yn tynnu sylw bod 18 y cant o 3,897 o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu.

Daw pwysau ar fioamrywiaeth o lawer o ffynonellau, gan gynnwys trefoli, llygredd, newid hydrolegol, rhai technegau rheoli amaethyddol a rheoli coetir a rhywogaethau anfrodorol goresgynnol.

Mae gwerth cynhenid i fioamrywiaeth ac mae'n cynnig buddion i bobl drwy 'wasanaethau ecosystemau', megis atal llifogydd a chynhyrchu bwyd. Felly, credir bod colledion bioamrywiaeth yn achosi risgiau i ddiogelwch a llesiant pobl.

Mae llawer o bolisïau a deddfwriaeth ar fioamrywiaeth yng Nghymru a’r DU yn deillio o rwymedigaethau rhyngwladol, megis y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Bydd angen eu diweddaru yn sgil mabwysiadu Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal a gytunwyd yn COP15 ym mis Rhagfyr 2022. Mae rhanddeiliaid yn tynnu sylw at y ffaith bod polisïau a deddfwriaeth Cymru, megis y Cynllun Gweithredu Adfer Natur, a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn mynd gam o’r ffordd at ddiogelu bioamrywiaeth. Fodd bynnag, maent yn galw am gamau gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r 'argyfwng natur', wedi'u hategu gan dargedau bioamrywiaeth statudol.

Darllenwch ein papur briffio wedi’i ddiweddaru i gael mwy o wybodaeth am fioamrywiaeth, sut y mae'n cael ei gwarchod a'r hyn y mae rhanddeiliaid yn galw amdano.


Papur briffio gan Matthias Noebels, Sara Moran a Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru Diweddarwyd gan Amandine Debus

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Matthias Noebels gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol ac i Amadine Debus gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a’i gwnaeth yn bosibl cwblhau’r Papur Briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil.