Cofrestru Lobïwyr

Cyhoeddwyd 04/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ym mis Mehefin 2013 daeth honiadau i'r amlwg bod pum seneddwr o bosibl wedi mynd yn groes i godau ymddygiad yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi drwy gytuno i weithredu fel eiriolwyr â thâl, sy'n ein hatgoffa o'r sgandal “talu i ofyn cwestiynau” ddechrau'r 1990au. Gwnaed yr honiadau mewn rhifyn o Panorama lle'r oedd cwmni lobïo ymddangosiadol, a oedd yn cynrychioli buddiannau busnes yn Fiji, wedi mynd at Patrick Mercer AS. Yng ngoleuni hyn, adferodd Llywodraeth y DU ei chynigion ar gyfer sefydlu cofrestr statudol o lobïwyr, a oedd yn ymddangos fel pe bai wedi'i ohirio dros dro, a chyhoeddodd ei bod yn bwriadu cyhoeddi Bil yn fuan. Yn wreiddiol roedd Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno cofrestr statudol o lobïwyr fel rhan o Raglen Lywodraethu y Glymblaid. Ei nod oedd: “increase the information available about lobbyists without unduly restricting lobbyists’ freedom and ability to represent the views of the businesses, groups, charities and other individuals and organisations they represent or to deter members of the public from getting involved in policy making.” Lansiodd ymgynghoriad ar y cynigion yn 2012 a oedd yn cyd-redeg ag ymchwiliad gan Bwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Ddiwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol. Roedd y pwyllgor hwnnw'n argymell y dylai cynnig Llywodraeth y DU ar gyfer sefydlu cofrestr statudol o lobïwyr trydydd parti gael ei ddileu, a bod cofrestr ehangach o unrhyw un sy'n lobïo'n broffesiynol mewn rôl â thâl, a fyddai felly’n cynnwys lobïwyr mewnol, yn dod yn ei le. Hefyd cynhaliodd Pwyllgor Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i'r trefniadau ar gyfer ymdrin â lobïwyr yn y Cynulliad. Yn dilyn asesiad cychwynnol gan Gerard Elias QC, y Comisiynydd Safonau, pan ganfu fod y trefniadau presennol yn gadarn ac addas i'r diben, edrychodd y Pwyllgor ymhellach ar sut y byddai modd gwella'r trefniadau. Cyhoeddwyd ei adroddiad ym mis Mai 2013 ac nid oedd yn cynnwys argymhelliad ar gyfer sefydlu cofrestr statudol o lobïwyr. Fodd bynnag, mae posibilrwydd y gallai'r Cynulliad sefydlu cofrestr beth bynnag. Roedd ymgynghoriad Llywodraeth y DU yn cyfeirio at Gofrestr Statudol y DU o Lobïwyr, a nododd: “We will now be taking forward discussions with a view to including the Devolved Administrations and Legislatures within the scope of a statutory register.”  Eto, ym mis Mawrth 2013, cyfeiriodd cyflwyniad Llywodraeth y DU i Gomisiwn Silk at ei ddefnyddio yn y Gweinyddiaethau Datganoledig o bosibl. Er gwaethaf hyn, ar 13 Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y byddai'n cyflwyno ei bil ei hun cyn etholiad seneddol yr Alban yn 2016. Felly beth yw'r sefyllfa yng Nghymru? A oes gan y Cynulliad y pŵer i ddeddfu mewn perthynas â lobïo pe bai'n dymuno hynny? Mae'n ymddangos nad oes, gan nad yw'r rhestr o bynciau o dan y pennawd ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ yn Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cynnwys lobïo. Serch hynny, nododd y Llywydd sefyllfa'r Cynulliad mewn llythyr at y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS, yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd,  lle y dywedodd: “In my view the Assembly should be responsible for making any decisions on further governance arrangements”. Cytunodd Prif Weinidog Cymru â'r farn hon yn ei gyfraniad i'r ddadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau ar 26 Mehefin: “it is my firm view that any issues regarding a register of lobbyists or control of lobbying activities should be vested entirely in this place and not decided in London. It is part of the same argument, in my view, that says that the electoral arrangements and the organisational arrangements of the Chamber and of this institution should rest here and not elsewhere. So, we could not be supportive, certainly at the moment, of any system that would involve Wales being swept up in changes that have happened because of events elsewhere.” Disgwylir Bil y DU cyn diwedd mis Gorffennaf. Ceir rhagor o wybodaeth ym Mhapur Briffio'r Gwasanaeth Ymchwil ar gyfer y Cyfarfod Llawn: Dadl ar Adroddiad 03-13 y Pwyllgor Safonau i'r Cynulliad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.