Canllawiau i etholwyr

Cyhoeddwyd 02/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canllawiau hyn yn fersiynau wedi'u diweddaru o ganllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Ymchwil y Senedd.

Adeiladau cymunedol, mannau addoli a grwpiau ffydd.

Mae'r canllaw cyllid hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth ariannol sydd ar gael i sefydliadau a grwpiau at ddibenion adeiladu, datblygu, a chynnal a chadw adeiladau cymunedol a mannau addoli. Mae'r canllaw hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth ariannol sydd ar gael i grwpiau ffydd.

Cyhoeddiad newydd: Adeiladau cymunedol, mannau addoli a grwpiau ffydd – canllaw i etholwyr

Busnesau bach

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth posibl sydd ar gael i fusnesau bach newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli.

Cyhoeddiad newydd: Busnesau bach – canllaw i etholwyr

Prosiectau ynni, yr amgylchedd a chefn gwlad

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth ariannol sy’n gysylltiedig â phrosiectau sy’n ymwneud ag ynni, yr amgylchedd, cefn gwlad a newid hinsawdd.

Cyhoeddiad newydd: Prosiectau ynni, yr amgylchedd a chefn gwlad – canllaw i etholwyr

Cymorth i’r Celfyddydau

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth ariannol sy’n ymwneud â’r celfyddydau.

Cyhoeddiad newydd: Cymorth i’r Celfyddydau - canllaw i etholwyr

Cludiant o’r cartref i'r ysgol

Mae'r papur hwn yn crynhoi'r sefyllfa gyfreithiol gyfredol o ran dyletswyddau awdurdodau lleol i ddarparu cludiant ysgol am ddim i ddisgyblion. Mae hefyd yn ceisio ateb rhai cwestiynau cyffredin sy’n ymwneud â chludiant i ddysgwyr.

Cyhoeddiad newydd: Cludiant o'r cartref i'r ysgol – canllaw i etholwyr

Cynigion trefniadaeth ysgolion

Mae'r papur hwn yn crynhoi'r broses y mae awdurdodau lleol a chyrff perthnasol eraill yn ei dilyn er mwyn ad-drefnu darpariaeth ysgolion, er enghraifft pan fyddant yn dymuno cau neu uno ysgolion.

Cyhoeddiad newydd: Cynigion trefniadaeth ysgolion – canllaw i etholwyr

Cyngor Cyfreithiol

Mae'r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gyngor cyfreithiol sydd ar gael i etholwyr sy'n ceisio cymorth neu gefnogaeth gydag amrywiaeth o faterion cyfreithiol.

Cyhoeddiad newydd: Cyngor Cyfreithiol – canllaw i etholwyr


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru