Mae ceisio cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol yn gallu teimlo fel tasg hynod anodd. Os ydych yn cael anhawster wrth geisio ymdopi â thasgau byw gartref o ddydd i ddydd, nid yw bob amser yn hawdd gwybod ble i droi, na beth yw eich hawliau.
Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy'r broses gychwynnol, a bydd hefyd yn amlinellu eich hawliau chi a chyfrifoldebau awdurdodau lleol. Yn ogystal, bydd yn cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth a chefnogaeth a allai fod yn ddefnyddiol.
Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru