Blog Wythnosol yr UE (01/02/2016)

Cyhoeddwyd 01/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

01 Chwefror 2016 Erthygl gan Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r blog Wythnosol ar yr UE yn rhoi cipolwg ar y datblygiadau allweddol ar agenda'r UE (ym Mrwsel yn ogystal â gartref) sydd fwyaf perthnasol i Gymru.

Yr wythnos hon mae Senedd Ewrop yn cynnal sesiwn lawn yn Strasbwrg. Bydd Aelodau Senedd Ewrop (ASEau) yn trafod y berthynas rhwng yr UE a Tsieina a statws economi'r farchnad, ac mae'n debygol y bydd yr argyfwng dur parhaus yn yr UE yn cael ei gynnwys yn y trafodaethau hyn. Hefyd, bydd ASEau yn trafod y paratoadau ar gyfer y Cyngor Ewropeaidd (18-19 Chwefror) gyda'r Comisiwn a'r Cyngor. Bydd ASEau yn cytuno ar eu hadroddiad ar yr adolygiad canol tymor o Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE a byddant hefyd yn trafod rôl yr awdurdodau lleol a rhanbarthol o ran gweithredu Cronfeydd Strwythurol yr UE.

Mae'n wythnos Dechrau Busnes Ewrop, menter newydd sy'n anelu at hyrwyddo gwaith ar lefel rhanbarthol ar draws Ewrop i gefnogi entrepreneuriaeth a busnesau newydd. Yng Nghymru mae digwyddiadau wedi'u trefnu yng Nghaerdydd a Wrecsam.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd gynnig ar Drethiant Teg gyda'r nod o fynd i'r afael ag efadu treth gorfforaethol, mater sydd wedi cael cryn sylw yn y newyddion yn ddiweddar. Mae angen cytundeb unfrydol y Cyngor er mwyn gwneud unrhyw newid i gyfreithiau treth yr UE, sy'n golygu y gall unrhyw Aelod-wladwriaeth (gan gynnwys y DU) rwystro'r cynigion rhag dod yn gyfraith yr UE. Hefyd, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei werthusiad o FP7, rhaglen ymchwil a datblygu'r UE ar gyfer y cyfnod 2007-2013.

Cyflwynodd y Comisiwn Ewropaidd bapur draft yn amlinellu ei ddull gweithredu strategol ar ymchwil ac arloesi ym maes amaethyddiaeth yr wythnos diwethaf mewn cynhadledd yr UE ym Mrwsel. Bydd y dull straetegol yn cyfrannu at raglennu’r tair blynedd sy’n weddill (2018 i 2020) o Horizon yn ogystal ag arwain gweithgareddau ymcwhil ac arlesoi mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth ar ôl 2020. Yn hynny o beth mae’n ddogfen bwysig i ymchwilwyr Cymreig sy’n bwriadu gwneud cynnig i Horizon 2020 yn y maes ymchwil hwn.

Canslodd Prif Weinidog y DU, David Cameron daith i Ddenmarc a Sweden er mwyn cynnal cyfres o gyfarfodydd ym Mrwsel dros y penwythnos i drafod agenda diwygio'r UE. Cyfarfu â Juncker, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yn gyntaf, yna cafodd gyfarfod â Llywydd Senedd Ewrop Martin Schulz, ac ar ôl hynny cyfarfod â Llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk, sy’n arwain y trafodaethau ar ran y Comisiwn Ewroepaidd i drafod testun negodi draft y DU. Bu llawer o ddyfalu yn y cyfryngau yn y DU a'r UE (e.e Politico.EU a'r BBC) am gytundeb ar yr hyn a elwir yn 'drefniadau atal brys' ar gyfer mewnfudo a mynediad at fudd-daliadau i bobl sy'n gweithio, fodd bynnag, yn dilyn eu cyfarfod Ddydd Sul, trydarodd Llywydd Tusk gan ddweud "Dim cytundeb eto. Gwaith dwys yn ystod y 24 awr nesaf yn dyngedfennol." Cytunwyd ar ail ddiwrnod o drafodaethau i’w gynnal heddiw a dylem wybod cyn bo hir a gafwyd llwyddiant ai peidio – ac a gaiff testun negodi’r DU ei gyhoeddi. Trafododd ASEau UKIP ac EFDD agenda diwygio'r UE gyda Jonathan Faull, Pennaeth Tasglu Refferendwm y DU y Comisiwn Ewropeaidd pan fynychodd gyfarfod y Grŵp EFDD yr wythnos diwethaf - mae recordiad o bodlediad ar gael ar wefan UKIP.

Mae Rhodri Glyn Thomas AC ym Mrwsel yr wythnos hon yn rhinwedd ei swydd fel raporteur Pwyllgor y Rhanbarthau ar Ynni'r Cefnfor a bydd yn mynychu gweithdy yr UE ar "Rôl Dinas-ranbarthau o ran Cyflawni Economi Carbon Isel". Mae'r gweithdy'n rhan o gamau Rhanbarthau Ynni Clyfar o dan fenter COST (Cydweithredu mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg) yr UE, ac yn cael ei arwain gan y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel yng Nghymru, a gadeirir gan yr Athro Phillip John Jones o Brifysgol Caerdydd. Mae'r digwyddiad olaf ar gyfer y camau gweithredu Rhanbarthau Ynni Clyfar hyn yn digwydd yng Nghaerdydd ar 11-12 Chwefror.

Dolenni defnyddiol:

Europa Newsroom (datganiadau i'r wasg; manylion pob cynnig newydd)

Pwyllgorau Senedd Ewrop (manylion cyfarfodydd, agendâu ac ati)

Senedd Ewrop y DU (cynrychiolaeth yn Llundain a Chaeredin)

Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru

Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (datganiadau i'r wasg ac ati)

UK in a Changing EU (prosiect ESRC i hysbysu'r cyhoedd yn y cyfnod sy'n arwain at refferendwm yr UE - mae'n cynnwys Ysgol y Gyfraith Caerdydd)

Dilynwch ni ar Twitter: @SeneddEurope View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg