Biliau dŵr ar gynnydd: Pa gymorth sydd ar gael i gwsmeriaid?

Cyhoeddwyd 28/04/2025   |   Amser darllen munudau

Erthygl wadd yw hon a ysgrifennwyd gan Ofwat a'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr.

Ers 1 Ebrill 2025, mae biliau dŵr ledled Cymru wedi cynyddu.

Y rheswm dros hynny yw bod Ofwat, y rheoleiddiwr dŵr, wedi cymeradwyo’r buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni cynlluniau cwmnïau dŵr ar gyfer 2025-2030 yn ei ‘benderfyniadau terfynol’ o ran Adolygiad Prisiau 2024 (PR24).

Wrth wneud y penderfyniadau hyn, mae Ofwat wedi gweithio’n agos gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid, megis y Cyngor Defnyddwyr Dŵr a Cyfoeth Naturiol Cymru, i gael dealltwriaeth drylwyr o’r hyn y dylai cwmnïau fod yn ei gyflawni ar gyfer cwsmeriaid a’r amgylchedd yn awr, yn ogystal ag yn y tymor hwy. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys mynd i'r afael â gorlifiadau stormydd, lleihau gollyngiadau, a chynnal a gwella cronfeydd dŵr.

Yn ystod y pum mlynedd nesaf, mae'n rhaid i gwmnïau Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy gyflawni gwelliannau sylweddol i'r system ddŵr a'u gwasanaethau i gwsmeriaid. Mae maint y buddsoddiad sydd ei angen, a chost gynyddol ei ariannu, yn golygu y bydd yn rhaid i filiau godi.

Mae'r erthygl hon yn nodi'r hyn y bydd y biliau'n talu amdano, a pha gymorth sydd ar gael gan eich cwmni dŵr i helpu gyda biliau.

Beth fydd yn cael ei gyflawni dros Gymru

Bydd cyfanswm o £6.3bn yn cael ei wario gan gwmnïau dŵr yng Nghymru rhwng 2025 a 2030.

O’r swm hwn, bydd £1.7bn yn mynd tuag at fodloni’r gofynion newydd a bennir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Raglen Genedlaethol yr Amgylchedd – saith gwaith yn fwy na’r hyn a sicrhawyd yn yr Adolygiad Prisiau diwethaf yn 2019. Mae'r Rhaglen yn nodi'r camau y mae angen i gwmnïau eu cymryd i wneud afonydd a moroedd yn lanach, drwy leihau'r niwed o orlifoedd stormydd, gwella safonau trin dŵr gwastraff, a lleihau llygredd maetholion.

Bydd cyllid ychwanegol yn cael ei wario ar faterion megis gwella gwytnwch asedau, lleihau gollyngiadau a diogelwch cronfeydd dŵr.

Ffigur 1: Buddsoddiad arfaethedig cwmnïau dŵr yng Nghymru 2025-30

Crynodeb o fuddsoddiad arfaethedig gan gwmnïau dŵr yng Nghymru i wella’r amgylchedd, diogelu cyflenwad dŵr, gwella gwasanaeth i gwsmeriaid a chynnal iechyd a gwytnwch asedau. Cyfanswm y gwariant yng Nghymru rhwng 2025 a 2030 yw £6.3 biliwn.

 

Ffynhonnell: Ofwat

Fel rhan o PR24, cynhyrchodd y ddau gwmni gynlluniau manwl, yn egluro’r hyn y maent am ei wneud dros y pum mlynedd nesaf a’r modd y byddant yn cyflawni gofynion cyfreithiol. Mae Ofwat wedi adolygu a herio'r cynlluniau hyn i sicrhau eu bod yn effeithlon, yn angenrheidiol ac yn darparu gwerth am arian, gan wasgaru costau buddsoddi yn deg rhwng cwsmeriaid presennol a chwsmeriaid y dyfodol.

Mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi derbyn eu penderfyniadau, ac erbyn hyn yn gweithio i gyflawni eu cynlluniau yng Nghymru.

Bydd Ofwat yn monitro perfformiad cwmnïau'n agos dros y pum mlynedd nesaf. Os na fydd cwmnïau'n cyrraedd eu targedau, maent yn wynebu cosbau awtomatig, a adlewyrchir mewn biliau llai. Fodd bynnag, mae yna gymhellion i guro'r targedau, a bydd perfformiad da yn cael ei wobrwyo.

Bydd Ofwat yn parhau i fynd ar drywydd pryderon ynghylch perfformiad parhaus, gwytnwch ariannol, neu gyflawni buddsoddiad gyda mwy o waith monitro ac ymgysylltu, gan osod disgwyliadau clir o ran pa gamau gweithredu sydd eu hangen. At hynny, mae’n cyflwyno mesurau goruchwylio ychwanegol ar gyfer y rheini sy’n perfformio’n wael yn gyson, a rheolaethau cryfach er mwyn gallu cymryd cyllid yn ôl a'i ddychwelyd i gwsmeriaid os nad yw cwmnïau'n cyflawni eu cynlluniau.

Effaith ar filiau cwsmeriaid

Ofwat sy'n gosod y cap ar yr hyn y gall cwmnïau dŵr ei godi yn ystod y cyfnod o bum mlynedd.

Bydd y cwmnïau dŵr, wedyn, yn penderfynu o fewn y terfyn hwnnw faint y byddant yn ei godi ar eu cwsmeriaid unigol bob blwyddyn. Caiff y penderfyniad hwnnw ei lywio gan lefel y buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni’r gwelliannau i’r seilwaith a’r gwasanaethau y maent wedi’u cynllunio.

Mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi nodi eu taliadau blynyddol ar gyfer 2025-26 ar eu gwefannau.

At hynny, mae llawer o gostau eraill yr aelwyd yn codi, felly bydd y cynnydd hwn mewn biliau yn effeithio ar bawb, ac yn anodd eu fforddio i lawer o bobl.

Mae Ofwat a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr wedi herio cwmnïau i wella'r cymorth sydd ar gael i gwsmeriaid, ac mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi cynyddu'r ddarpariaeth o filiau cymorthdaledig, a elwir yn ‘dariffau cymdeithasol’ ar gyfer y rheini a all fod eu hangen.

Mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, hefyd, wedi bod yn galw am gyflwyno tariff cymdeithasol sengl ledled Cymru a Lloegr, i ddileu tlodi dŵr erbyn 2030. Mae Deddf Dŵr (Mesur Arbennig) 2025 bellach wedi gwneud hyn yn bosibl yn Lloegr.

Pa gefnogaeth sydd ar gael i gwsmeriaid?

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr yw'r llais annibynnol ar gyfer defnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Mae hyb y Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn llawn gwybodaeth, syniadau ac offer defnyddiol i helpu i leihau biliau dŵr neu gael mynediad at gymorth ariannol, gan gynnwys cyngor ar y gwahanol fathau o gynlluniau cwmnïau dŵr. Dylech fwrw golwg yma yn y lle cyntaf, er mwyn cymryd camau cyflym cyn i filiau ddod yn broblem.

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ceisio'i gefnogi, yn poeni am dalu'r bil dŵr, mae yna gamau y gallwch chi eu cymryd. Dyma dri awgrym gorau’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr o ran cael cymorth ariannol.

1. Mynnwch air â'ch cwmni dŵr. Mae cwmnïau dŵr yn deall y bydd angen cymorth ar rai pobl, ac mae’n bwysig siarad â nhw. Gallai sgwrs arwain at filiau is trwy dariff cymdeithasol y cwmni dŵr, neu gefnogaeth gan gynlluniau cymorth eraill, megis WaterSure. Gall y cynllun hwn gapio biliau cwsmeriaid â mesurydd sy’n derbyn budd-daliadau prawf modd, sy’n defnyddio mwy o ddŵr oherwydd cyflwr meddygol neu sydd â thri neu fwy o blant. Os ydych eisoes mewn dyled, mae’n bosibl y bydd eich cwmni dŵr, hefyd, yn gallu eich cefnogi i ddychwelyd i’r cyfeiriad cywir gyda thaliadau. Fe allwch wirio'r cwmni dŵr sy'n gweithredu yn eich ardal chi, neu ardal y person rydych chi’n ei gefnogi yma.

2. Rhowch gynnig ar fesurydd dŵr. Defnyddiwch gyfrifiannell mesurydd dŵr y Cyngor Defnyddwyr Dŵr i gael syniad a fyddech mewn gwell sefyllfa o roi cynnig ar fesurydd dŵr. Yng Nghymru, mae gyda chi ddwy flynedd i roi cynnig ar fesurydd, gyda'r dewis i newid yn ôl i daliadau heb fesurydd os ydych yn anhapus.

3. Gwnewch gais am yr hyn sydd gyda chi’r hawl iddo mewn budd-daliadau a chymorth arall. Mae gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr gyfrifiannell ‘gwell ei fyd’ y gallwch chi neu'r person yr ydych yn ei gefnogi ei ddefnyddio i archwilio pa fudd-daliadau a chymorth arall y gallech fod â hawl iddynt. Yng Nghymru, mae Advicelink Cymruyn cynnig gwasanaeth tebyg. Mae rhagor o wybodaeth a lincs ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ‘hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’.

4. Yn olaf, ystyriwch ychwanegu eich hun, neu berson rydych yn ei gefnogi, at gofrestr gwasanaethau blaenoriaeth y cwmni dŵr. Mae gwasanaethau blaenoriaeth yn cynorthwyo cwsmeriaid a allai fod arnynt angen cymorth ychwanegol oherwydd salwch, anabledd neu rwystrau iaith. Gallwch ddarllen mwy am y gwasanaeth hwn ar dudalen y Cyngor Defnyddwyr Dŵr: Cymorth ychwanegol am ddim – gwasanaethau blaenoriaeth. Mae’r naill gwmni dŵr a’r llall yng Nghymru (a phob un yn Lloegr) yn caniatáu i gwsmeriaid gofrestru ar gyfer y cymorth hwn:

Os hoffech gysylltu ag unrhyw un ynghylch cynnwys yr erthygl hon, anfonwch air at Ofwat neu’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr.


Paratowyd yr erthygl wadd hon gan Kate Evans, Pennaeth Cymru, Ofwat; Geraint Davies, Uwch Gydymaith Polisi Cwsmeriaid, Ofwat a Lia Moutselou, Uwch Arweinydd Polisi Cymru, y Cyngor Defnyddwyr Dŵr.

Barn Ofwat a / neu’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yw’r holl safbwyntiau ac nid barn Ymchwil y Senedd.