Adran 1
Mae adran 1 o’r Bil yn sefydlu’r “amcan amgylcheddol”. Fe’i diffinnir fel cyrraedd lefel uchel o ran diogelu’r amgylchedd a gwelliant i’r amgylchedd, gyda golwg, yn benodol, ar:
- diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain a chyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015,
- cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r buddion y maent yn eu darparu,
- lliniaru newid hinsawdd ac ymaddasu iddo, a
- cyfrannu at atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Adran 2
Mae adran 2 yn sefydlu pedair egwyddor amgylcheddol:
- yr egwyddor ragofalus i’r graddau y mae’n ymwneud â’r amgylchedd;
- yr egwyddor y dylid cymryd camau ataliol i osgoi difrod amgylcheddol;
- yr egwyddor y dylid cywiro difrod amgylcheddol fel mater o flaenoriaeth yn y tarddle; a
- yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu.
Adran 3
Mae adran 3 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyfrannu at yr amcan amgylcheddol drwy:
- rhoi sylw arbennig i’r egwyddorion amgylcheddol wrth lunio polisi o ran Cymru sy’n cael, neu a allai gael, unrhyw effaith ar yr amgylchedd, a
- integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth lunio polisi o’r fath.
Adran 4
Mae adran 4 yn diwygio’r ddeddfwriaeth a sefydlodd CNC i osod dyletswydd arno i roi sylw arbennig i’r egwyddorion amgylcheddol wrth lunio polisi o ran Cymru, ac i integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth lunio polisi o’r fath.
Adran 5
Mae adran 5 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru i gyfrannu at yr amcan amgylcheddol drwy:
- rhoi sylw i’r egwyddorion amgylcheddol wrth asesu cynlluniau a rhaglenni sy'n ymwneud â Chymru o dan Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004; a
- integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny.
Mae’r adran hon hefyd yn darparu diffiniad o “awdurdod cyhoeddus” at ddibenion adran 5 ac adran 6 o’r Bil.
Adran 6
Mae adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi “datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd” ac yn nodi’r hyn y mae rhaid i’r datganiad ei gynnwys, gan gynnwys: esboniad o sut mae’r egwyddorion amgylcheddol yn ymwneud â’i gilydd, a chanllawiau i awdurdodau cyhoeddus ynghylch sut i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan y Bil.
Adran 7
Mae adran 7 yn nodi'r gofynion gweithdrefnol ac ymgynghori mewn cysylltiad â llunio a chyhoeddi'r datganiad sy'n ofynnol o dan adran 6.
Adran 8
Mae adran 8 yn sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru (“SLlAC") fel corff corfforedig.
Adran 9
Mae adran 9 yn darparu bod rhaid i SLlAC arfer ei swyddogaethau at y diben cyffredinol o gyfrannu at yr amcan amgylcheddol mewn modd diduedd, gwrthrychol, cymesur a thryloyw.
Adran 10
Mae adran 10 yn ei gwneud yn ofynnol i SLlAC lunio a chyhoeddi strategaeth sy'n nodi sut mae'n bwriadu arfer ei swyddogaethau. Mae hefyd yn cyflwyno Atodlen 2, sy'n gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys y strategaeth.
Adran 11
Mae adran 11 yn ei gwneud yn ofynnol i SLlAC fonitro cydymffurfedd awdurdodau cyhoeddus â chyfraith amgylcheddol (fel y'i diffinnir yn adran 29) a gweithredu a chymhwyso cyfraith amgylcheddol. Mae hefyd yn rhoi disgresiwn i SLlAC adrodd ar unrhyw fater y mae'n ofynnol iddo ei fonitro, neu unrhyw fater arall sy'n ymwneud â gwneud cyfraith amgylcheddol neu ei heffeithiolrwydd.
Adran 12
Mae adran 12 yn darparu y caiff SLlAC roi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch cynigion newydd ar gyfer deddfwriaeth amgylcheddol, neu newidiadau i ddeddfwriaeth bresennol. Mae gan SLlAC ddisgresiwn ynghylch a yw'n rhoi cyngor ar gais gan Weinidogion Cymru, ond mae rhaid iddo egluro mewn datganiad os yw'n dewis gwrthod.
Adran 13
Mae adran 13 yn darparu y caiff SLlAC ddyroddi neu roi canllawiau ar unrhyw fater sy'n ymwneud â chyfraith amgylcheddol. Os darperir y canllawiau i awdurdod cyhoeddus a’u bod yn cynnwys argymhellion, caiff SLlAC ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod ymateb i argymhelliad o'r fath.
Adran 14
Mae adran 14 yn rhoi’r pŵer i SLlAC gyflwyno hysbysiadau gwybodaeth i awdurdodau cyhoeddus sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt roi gwybodaeth sy'n rhesymol ofynnol at ddibenion arfer ei swyddogaethau. Mae gan awdurdodau cyhoeddus o leiaf ddau fis i ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
Adran 15
Mae adran 15 yn rhoi’r pŵer i SLlAC ymchwilio (ar ei chymhelliad ei hun, neu mewn ymateb i unrhyw sylwadau a gyflwynir iddi gan unrhyw berson) i unrhyw fater sy'n ymwneud ag:
- a yw awdurdod cyhoeddus yn methu, neu wedi methu ar unrhyw adeg â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol (gan gynnwys unrhyw achosion o dorri cyn i'r Bil ddod yn gyfraith);
- sut y mae cyfraith amgylcheddol yn cael ei gweithredu a'i chymhwyso; neu
- effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol.
Adran 16
Mae adran 16 yn rhoi’r pwer i SLlAC gyflwyno 'hysbysiadau cydymffurfio' i awdurdodau cyhoeddus os yw'n ystyried eu bod yn methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, neu wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth. Ymhlith pethau eraill, rhaid i hysbysiad cydymffurfio bennu'r camau gweithredu sy'n ofynnol i fynd i'r afael â'r methiannau honedig, ac amserlen o 30 o ddiwrnodau o leiaf o gyflwyno'r hysbysiad ar gyfer cydymffurfio. Mae gan yr awdurdod cyhoeddus hawl i wneud cais am adolygiad o unrhyw hysbysiad cydymffurfio cyn y terfyn amser ar gyfer cydymffurfio (gweler adran 18).
Adran 17
Mae adran 17 yn rhoi’r pŵer i SLlAC i gyflwyno 'hysbysiadau cydymffurfio brys' i awdurdodau cyhoeddus pan fo'n ystyried bod angen cymryd camau ar frys i atal neu liniaru risg o niwed difrifol i'r amgylchedd neu i iechyd pobl. Caiff hysbysiadau cydymffurfio brys bennu cyfnod o 7 niwrnod o leiaf, ond o lai na 30 o ddiwrnodau ar gyfer cydymffurfio.
Adran 18
Mae adran 18 yn ei gwneud yn ofynnol i bwyllgor adolygu SLlAC adolygu hysbysiad cydymffurfio os yw awdurdod cyhoeddus yn gwneud cais ysgrifenedig iddi wneud hynny. Caiff diffygion dibwys eu hanwybyddu a rhaid i'r pwyllgor naill ai gadarnhau’r hysbysiad cydymffurfio, tynnu’r hysbysiad cydymffurfio yn ôl neu amrywio’r hysbysiad cydymffurfio ar ôl adolygiad. Mae adolygiad yn cael yr effaith o rewi'r terfyn amser ar gyfer cydymffurfio gan awdurdod cyhoeddus.
Adran 19
Mae adran 19 yn rhoi’r pŵer i SLlAC wneud cais i'r Uchel Lys am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gymryd y cam gweithredu a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio os yw'n ystyried bod awdurdod cyhoeddus wedi methu â chymryd y cam gweithredu penodedig o fewn y cyfnod penodedig. Caiff y Llys orchymyn i'r awdurdod cyhoeddus gymryd y camau penodedig, gymryd y camau priodol fel y'u hamrywir gan y Llys neu caiff yn y pen draw dynnu unrhyw ran o hysbysiad y mae'n ei ystyried yn afresymol yn ôl.
Adran 20
Mae adran 20 yn rhoi’r pŵer i SLlAC gyhoeddi 'adroddiad gwella' os yw'n ystyried bod awdurdod cyhoeddus yn methu neu wedi methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol ar unrhyw adeg, neu wedi methu â gweithredu neu gymhwyso cyfraith amgylcheddol yn effeithiol. Caiff hefyd gyhoeddi adroddiad gwella os yw'n ystyried bod Gweinidogion Cymru neu awdurdod cyhoeddus arall wedi methu â gwneud cyfraith amgylcheddol effeithiol.
Adran 21
Mae adran 21 yn nodi'r manylion penodol sy'n ofynnol mewn adroddiad gwella. Mae'r rhain yn cynnwys manylion y methiannau honedig, effaith y methiannau honedig ac argymhellion o ran y camau gweithredu i Weinidogion Cymru eu cymryd mewn ymateb i fethiannau o'r fath gydag amserlenni cysylltiedig.
Adran 22
Mae adran 22 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymateb i adroddiad gwella drwy gyhoeddi 'cynllun gwella' o fewn chwe mis mewn amgylchiadau arferol, neu o fewn naw mis os oes angen ymgynghoriad. Rhaid i gynllun gwella nodi'r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig ei wneud mewn ymateb i'r argymhellion gydag amserlenni cysylltiedig, neu esboniad os nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu gweithredu'r argymhellion.
Adran 23
Mae adran 23 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus i gydweithredu â SLlAC. Mae hyn yn cynnwys rhoi cymorth rhesymol i SLlAC mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau, a gwneud pob ymdrech resymol i ddatrys methiannau honedig a nodwyd gan SLlAC yn gyflym.
Adran 24
Mae adran 24 yn darparu, ymhlith pethau eraill, nad yw'n ofynnol i awdurdod cyhoeddus ddarparu unrhyw wybodaeth i SLlAC y byddai ganddo hawlogaeth i wrthod ei darparu mewn cysylltiad ag achos sifil neu o dan gyfreithiau diogelu data.
Adran 25
Mae adran 25 yn gosod rhwymedigaethau cyfrinachedd ar SLlAC mewn cysylltiad â gwybodaeth a gohebiaeth a ddatgelir iddi, neu a gynhyrchir ganddi, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol.
Adran 26
Mae adran 26 yn gosod rhwymedigaethau cyfrinachedd ar awdurdodau cyhoeddus mewn cysylltiad â gohebiaeth sy'n ymwneud â hysbysiadau gwybodaeth, hysbysiadau cydymffurfio neu adroddiadau gwella, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol.
Adran 27
Mae adran 27 yn nodi bod gwybodaeth a ddelir gan SLlAC neu awdurdod cyhoeddus o dan y Bil yn 'wybodaeth amgylcheddol' at ddibenion Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Mae'r dynodiad hwn yn cael yr effaith o ganiatáu i awdurdod cyhoeddus wrthod datgelu o dan y rheoliadau hynny os byddai'n peryglu cyfrinachedd ymchwiliad SLlAC.
Adran 28
Mae adran 28 yn cyflwyno Atodlen 3 sy’n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff o Lywodraeth Cymru i SLlAC.
Adran 29
Mae adran 29 yn diffinio ‘cyfraith amgylcheddol’ at ddibenion Rhan 2 o’r Bil. Fe’i diffinnir drwy gyfeirio at ddarpariaeth ddatganoledig, sydd yn y bôn yn golygu deddfwriaeth sy’n ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â diogelu’r amgylchedd sydd wedi’i wneud, neu y gellid ei wneud, gan y Senedd.
Adran 30
Mae adran 30 yn diffinio “awdurdod cyhoeddus” at ddibenion Rhan 2 o’r Bil.
Adran 31
Mae adran 31 yn egluro bod cyfeiriadau at “effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol” yn Rhan 2 o’r Bil yn gyfeiriadau at ei heffeithiolrwydd o ran cyfrannu at ddiogelu’r amgylchedd.
Adran 32
Mae adran 32 yn egluro bod cyfeiriadau at “methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol” yn Rhan 2 o’r Bil yn gyfeiriadau at yr awdurdod cyhoeddus perthnasol sy’n arfer ei swyddogaethau mewn ffordd sy’n groes i gyfraith amgylcheddol, neu sy’n methu ag arfer ei swyddogaethau pan fo’r methiant yn groes i gyfraith amgylcheddol.
Adran 33
Mae adran 33 yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i fewnosod saith adran newydd sydd gyda’i gilydd yn cyflwyno fframwaith gosod targedau bioamrywiaeth.
Adran 34
Mae adran 34 yn diwygio adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i ychwanegu darpariaeth sy’n gorfodi awdurdod cyhoeddus a ddynodir o dan adran newydd 6F i gymryd camau i gyfrannu at gyrraedd targed y mae wedi’i ddynodi mewn perthynas ag ef.
Adran 35
Mae adran 35 yn diwygio adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu mewn cynllun pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod y targedau bioamrywiaeth yn cael eu cyrraedd, pryd y maent yn bwriadu cymryd y camau hynny a sut y bydd y targedau, os cânt eu cyrraedd, yn cyfrannu at atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Adran 36
Mae adran 36 yn diwygio adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus esbonio mewn adroddiad beth mae wedi’i wneud i gyfrannu at gyrraedd y targed bioamrywiaeth y mae wedi’i ddynodi iddo (pan fo hynny’n berthnasol). Yn adroddiad adran 6 Gweinidogion Cymru, ychwanegir darpariaeth newydd sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt adrodd ar y cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at gyrraedd y targedau bioamrywiaeth a osodir, ac a ydynt yn debygol o gael eu cyrraedd.
Adran 37
Mae adran 37 yn diwygio Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i ychwanegu adran newydd 6A sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi ‘adroddiad gwerthuso’ cyn diwedd 2031 a phob tair blynedd wedi hynny. Rhaid i’r adroddiad gwerthuso amlinellu asesiad Gweinidogion Cymru o effaith ac effeithiolrwydd y cynigion a nodir yn eu cynlluniau i gynnal a gwella bioamrywiaeth o dan adran 6 o Ddeddf 2016.
Adran 38
Mae adran 38 diwygio Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i roi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth yng Nghymru o bwysigrwydd bioamrywiaeth a’r bygythiadau i fioamrywiaeth.
Adran 39
Mae adran 39 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol yn ôl yr angen er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Bil.
Adran 40
Mae adran 40 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch rheoliadau a wneir o dan y Bil, gan nodi gweithdrefn berthnasol y Senedd ar gyfer gwneud rheoliadau.
Adran 41
Mae adran 41 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dogfennau, hysbysiadau a chyfarwyddydau y mae’n ofynnol eu darparu o dan y Bil gan gynnwys sut y caniateir danfon yr eitemau hynny, a phryd y bernir eu bod wedi’u cyflwyno.
Adran 42
Mae adran 42 yn ddarpariaeth ddehongli sy’n diffinio geiriau a thermau penodol a ddefnyddir yn y Bil.
Adran 43
Mae adran 43 yn cyflwyno Atodlen 4 sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol i statudau penodol mewn cysylltiad â sefydlu SLlAC.
Adran 44
Mae adran 44 yn nodi pryd y daw pob darpariaeth yn y Bil i rym.
Adran 45
Mae adran 45 yn darparu’r enw byr sef “Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026” neu “Environment (Principles, Governance and Biodiversity Targets) (Wales) Act 2026”.