Piod môr yn hedfan dros ddŵr

Piod môr yn hedfan dros ddŵr

Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru): Crynodeb o’r Bil

Cyhoeddwyd 10/06/2025

Cyflwynwyd Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef i’r Senedd ar 2 Mehefin 2025.

Nod y Bil yw sefydlu:

  • amcan amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol;
  • corff statudol, “Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru”, sy’n gyfrifol am sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan gyfraith amgylcheddol; a
  • fframwaith gosod targedau bioamrywiaeth.

Mae’r Crynodeb hwn o’r Bil yn rhoi cyd-destun i gyflwyniad y Bil, yn crynhoi ei ddarpariaethau fesul adran, ac yn nodi’r broses ddeddfwriaethol.

Bydd rhagor o gyhoeddiadau Ymchwil y Senedd ar gyfer y Bil yn cael eu cyhoeddi ar dudalen adnoddau’r Bil, wrth iddo deithio drwy’r Senedd.

 

Dewis categori:

Dangos pob un
Amcan amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol
Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru
Targedau bioamrywiaeth
Cyffredinol

Dewiswch adran:

1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45

Adran 1

Mae adran 1 o’r Bil yn sefydlu’r “amcan amgylcheddol”. Fe’i diffinnir fel cyrraedd lefel uchel o ran diogelu’r amgylchedd a gwelliant i’r amgylchedd, gyda golwg, yn benodol, ar:

- diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain a chyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015,

- cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r buddion y maent yn eu darparu,

- lliniaru newid hinsawdd ac ymaddasu iddo, a

- cyfrannu at atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.


Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru a Gruffydd Owen Gwasanaethau Cyfreithiol y Senedd, Senedd Cymru.