"Bil y Diddymu Mawr": Beth yw’r goblygiadau?

Cyhoeddwyd 10/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Ebrill 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ar ddydd Iau 30 Mawrth, ddiwrnod ar ôl i Brif Weinidog y DU danio Erthygl 50, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn, Deddfu ar gyfer tynnu’r Deyrnas Unedig yn ôl o’r Undeb Ewropeaidd. Hynny yw, Papur Gwyn ‘Bil y Diddymu Mawr’, fel y’i gelwir.

Beth fydd Bil y Diddymu Mawr yn ei wneud?

Mae’r Papur Gwyn yn cynnig i Fil y Diddymu Mawr wneud tri pheth:
  • Diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, gan ddod i rym ar y dydd y bydd y DU yn gadael yr UE.
  • Troi cyfraith yr UE (yr acquis communautaire) fel y mae ar y dydd y bydd y DU yn gadael yr UE yn gyfraith y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd gwneud hyn yn rhoi sicrwydd i fusnesau, sefydliadau ac unigolion na fydd hawliau a rhwymedigaethau yn newid dros nos.
  • Yn olaf, bydd y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU ac, “lle bo’n briodol”, i Weinidogion y cyrff datganoledig i wneud is-ddeddfwriaeth i ddiwygio yn dechnegol y corff hwn o “gyfreithiau UE a ymgorfforwyd” i sicrhau bod y gyfraith yn ymarferol ar ôl i ni adael yr UE. Er enghraifft, diwygio’r cyfeiriadau mewn deddfwriaeth at asiantaethau’r UE na fydd y DU yn aelod ohonynt ar ôl gadael yr UE.
Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i lysoedd y DU ddilyn cyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd (CJEU) a oedd ar waith cyn Brexit wrth ddehongli cyfraith UE a ymgorfforwyd, ond bydd yn dod ag awdurdodaeth y CJEU dros gyfreithiau’r DU i ben ar ôl i’r DU ddod allan.

Beth na fydd Bil y Diddymu Mawr yn ei wneud?

Ni fydd Bil y Diddymu Mawr yn rhoi’r pwerau i Weinidogion y DU nag i Weinidogion Cymru i wneud newidiadau polisi sylweddol yn sgil ymadawiad y DU â’r UE. Caiff newidiadau polisi sylweddol eu gwneud mewn deddfwriaeth sylfaenol ar wahân. Mae’r Papur Gwyn yn nodi y caiff nifer o Filiau pellach eu cyflwyno yn ystod y ddwy flynedd nesaf i sicrhau bod y DU yn barod ar gyfer ymadael. Sonnir yn benodol am Filiau ar wahân mewn perthynas â thollau a mewnfudo yn y Papur Gwyn, ond disgwylir hyd at 15 Bil mewn meysydd fel amaethyddiaeth a physgodfeydd.

Beth yw amserlen Bil y Diddymu Mawr?

Nid yw’r Papur Gwyn yn nodi llinell amser ar gyfer Bil y Diddymu Mawr, ac ni nodwyd un yn natganiad David Davis AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr UE, i Dŷ’r Cyffredin. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn flaenorol y bydd Bil yn cael ei gyflwyno yn gynnar yn sesiwn nesaf y Senedd; disgwylir i hynny ddechrau ddiwedd mis Mai neu ddechrau mis Mehefin yn dilyn Araith y Frenhines. Bydd yn rhaid cwblhau’r gwaith o ddiwygio llyfr statud y DU cyn i’r DU ymadael â’r UE. Mae’r Papur Gwyn yn amcangyfrif y bydd angen, ar lefel y DU, rhwng 800 a 1,000 darn o is-ddeddfwriaeth i sicrhau bod y corff o gyfreithiau UE a drosglwyddir yn ymarferol. Ni roddwyd amcangyfrif hyd yma o sawl darn o is-ddeddfwriaeth fydd ei hangen yng Nghymru ym meysydd cyfrifoldebau datganoledig.

Beth yw’r prif faterion sy’n codi o’r Bil?

Bydd y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU ac, lle bo’n berthnasol, i Weinidogion cyrff datganoledig i ddiwygio’r corff o gyfreithiau UE a drosglwyddir drwy is-ddeddfwriaeth. Bydd y pwerau hyn yn angenrheidiol oherwydd nifer y newidiadau y bydd eu hangen i sicrhau bod y corff o gyfreithiau UE a drosglwyddir yn ymarferol, a’r amser byr sydd ar gael i wneud hynny – dwy flynedd o 29 Mawrth 2017, sef dyddiad tanio Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd. Fel arfer, gellir gwneud is-ddeddfwriaeth llawer ynghynt na deddfwriaeth sylfaenol (Deddfau Seneddol neu Ddeddfau’r deddfwrfeydd datganoledig). Er iddynt gydnabod y bydd angen y pwerau hyn ar Weinidogion, mae rhai ASau ac Arglwyddi wedi mynegi pryder ynghylch rhoi pwerau is-ddeddfwriaeth eang i Weinidogion newid y corff o gyfreithiau UE. Mae hyn am nad yw’r rhan fwyaf is-ddeddfwriaeth, yn draddodiadol, yn destun craffu i’r un graddau ag y mae deddfwriaeth sylfaenol. Yn ogystal, ni ellir diwygio is-ddeddfwriaeth, dim ond ei derbyn neu ei gwrthod. Felly, ni all Aelodau ei newid ac mae hefyd yn llawer anos iddynt ddylanwadu ar ei chynnwys; yn achos rhai gwelliannau i ddeddfwriaeth sylfaenol, nid ydynt yn cael eu derbyn, ond mae’r Llywodraeth dan sylw yn cytuno i wneud newidiadau i’r Bil eu hunain. Yn ei ddatganiad i Dŷ’r Cyffredin, nododd yr Ysgrifennydd Gwladol y byddai terfyn amser ar y pwerau is-ddeddfwriaeth arfaethedig yn y Bil. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn nodi y bydd y pŵer ond yn caniatáu i’r Llywodraeth wneud y newidiadau sy’n angenrheidiol i alluogi’r gyfraith a drosglwyddir weithredu’n effeithiol ar ôl ymadael â’r UE, a hefyd bydd yn adlewyrchu’r telerau yng nghytundeb ymadael terfynol y DU. Yn ogystal, mae’r Papur Gwyn yn nodi y gall y pŵer gael ei gyfyngu mewn ffyrdd eraill. Serch hynny, mynegodd sawl Aelod Seneddol, yn eu hymateb i’r datganiad, eu pryder am y ffaith nad yw’r Papur Gwyn yn nodi manylion pellach ynghylch sut y caiff y pwerau eu cyfyngu. Bydd Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad yn trafod y Bil fel rhan o’i waith ar y goblygiadau i Gymru wrth i’r DU adael yr UE. Bydd y Pwyllgor yn ystyried materion megis a ddylai’r Cynulliad gael y pwerau i benderfynu yn y Bil y terfynau a’r gweithdrefnau craffu y dylid eu defnyddio o ran unrhyw bwerau is-ddeddfwriaeth a roddir i Weinidogion Cymru.

Beth yw’r goblygiadau posibl i’r setliadau datganoledig?

Ar hyn o bryd, mae’r tri setliad yn nodi bod gan y gweinyddiaethau a deddfwrfeydd datganoledig y gallu i ddeddfu ym meysydd polisi datganoledig cyhyd ag y mae’r cyfreithiau hynny yn gydnaws â chyfraith yr UE. Bydd angen i’r gofyniad hwn newid unwaith y bydd y DU allan o’r UE. Mae Pennod 4 o’r Papur Gwyn yn nodi barn Llywodraeth y DU ar y berthynas rhwng cyfraith yr UE a’r setliadau datganoledig. Mae’n nodi y bydd y pwerau a arferir gan yr UE ar hyn o bryd mewn perthynas â fframweithiau cyffredin ar feysydd fel amaethyddiaeth, pysgodfeydd a’r amgylchedd yn dychwelyd i’r DU. Yn y meysydd hyn, mae Llywodraeth y DU yn nodi y bydd yn bwysig sicrhau bod fframweithiau cyffredin i’r polisïau hyn barhau y tu mewn i’r DU ar ôl iddi ymadael. Dywed y Papur Gwyn mai ymadawiad y DU:
…will be an opportunity to determine the level best placed to take decisions on these issues, ensuring power sits closer to the people of the UK than ever before. It is the expectation of the Government that the outcome of this process will be a significant increase in the decision making power of each devolved administration.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi ei bod yn ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru farn wahanol i Lywodraeth y DU ynghylch effaith ymadawiad y DU ar y setliad datganoli. Mae’r Prif Weinidog wedi datgan sawl gwaith ar y cofnod ei fod yn credu y dylai pwerau dros feysydd fel amaethyddiaeth ddod yn uniongyrchol i Gymru, ac yn wir dyna a fydd yn digwydd yn awtomatig o dan y setliad datganoli presennol (a’r setliad newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Cymru 2017). Dywedodd wrth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:
The assumption that’s been made in Whitehall is that, when powers return from Brussels, they will rest in London. We don’t accept that view. We take the view that where powers are already devolved, they will bypass London and come to Wales. Why do we say that? Well, if we look, for example, at our devolution settlement, agriculture and fisheries are devolved. There’s no caveat—they’re devolved.
O’r Papur Gwyn, mae’n ymddangos na fydd Bil y Diddymu Mawr yn ceisio dyrannu pwerau a arferir ar hyn o bryd ar lefel yr UE rhwng awdurdodau canolog y DU a’r llywodraethau a deddfwrfeydd datganoledig. Fodd bynnag, gall hyn ddigwydd yn y Biliau eraill sy’n gysylltiedig â Brexit y mae’r Llywodraeth yn eu dilyn ac y soniwyd amdanynt uchod.
Erthygl gan Dr Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Llun: o Catherine Bebbington/ Hawlfraint Seneddol. Dan drwydded Creative Commons.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: "Bil y Diddymu Mawr": Beth yw’r goblygiadau? (PDF, 205KB)