Mae cyfraith newydd, sy'n ceisio sicrhau bod y Senedd yn fwy cynrychioliadol o gyfansoddiad rhywedd Cymru, wedi ei chyflwyno i'r Senedd.
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yw ail ran cynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r Senedd. Mae’n dilyn Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), sy’n fwy eang o ran cwmpas, a gyflwynwyd ym mis Medi 2023.
Bydd yr erthygl hon yn edrych ar brif gynigion y Bil, sut y cânt eu gorfodi, a pham y gallai fod cwestiynau ynghylch a oes gan y Senedd y pŵer cyfreithiol i’w basio.
Beth mae’r Bil yn ei gynnig?
Mae’r Bil yn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd y dylai’r Senedd gael ei hethol gyda “chwotâu rhywedd statudol integredig”. Gallwch ddarllen mwy am gasgliadau'r Pwyllgor yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn amlygu ymchwil ac enghreifftiau rhyngwladol sy’n dangos bod cwotâu rhywedd yn “fodd effeithiol o gynyddu cyfran yr aelodau etholedig benywaidd”.
Mae’r Bil yn cyflwyno dau fath o gwotâu rhywedd. Un sy'n ymwneud â'r ymgeiswyr y mae pleidiau gwleidyddol yn eu dewis ar gyfer rhestr mewn etholaethau unigol, a'r llall am faint o fenywod sydd yn y safle cyntaf ar bob un o restrau'r blaid ledled Cymru.
Y bwriad yw gweithio ochr yn ochr â'r system etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol rhestr gaeedig (lle gall pleidleiswyr ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol) a gynigiwyd gan Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Gallwch ddarllen mwy am y system etholiadol yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.
Cwotâu lefel etholaeth
Os bydd plaid wleidyddol yn cyflwyno rhestr o ddau neu fwy o ymgeiswyr mewn etholaeth Senedd, byddai angen iddynt sicrhau:
- Bod o leiaf 50% o'u hymgeiswyr yn fenywod (a elwir yn 'drothwy lleiaf'); a
- Rhaid i bob ymgeisydd ar y rhestr nad ydynt yn fenywod, gael ei dilyn yn uniongyrchol gan fenyw, oni bai ei fod yn olaf ar y rhestr (a elwir yn 'feini prawf safle fertigol').
Os mai dim ond un ymgeisydd mewn etholaeth sydd gan blaid, ni fyddai'r rheolau hyn yn berthnasol.
Mae'r dull hwn yn wahanol i'r rhestrau ‘am yn ail' (rhestru ymgeiswyr am yn ail yn ôl eu rhywedd) a gefnogwyd gan y Pwyllgor Diben Arbennig. Mae Memorandwm Esboniadol y Bil yn dweud y byddai'r cynigion yn llai cymhleth, ac y byddai'n rhoi mwy o hyblygrwydd i bleidiau gwleidyddol osod mwy nag un fenyw yn olynol ar restr. Mae'n dweud y byddai rhestr ‘am yn ail’ yn gosod terfyn uchaf ar nifer yr ymgeiswyr benywaidd a allai sefyll.
Cwotâu cenedlaethol
Yn ogystal â rheolau ar lefel etholaethol, mae'r Bil hefyd yn cynnig cyflwyno rheol ar draws yr holl etholaethau y mae plaid wleidyddol yn sefyll ynddynt.
Os yw plaid wleidyddol yn cyflwyno ymgeiswyr mewn dwy etholaeth neu fwy, byddai'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol iddynt sicrhau bod yn rhaid i'r ymgeisydd cyntaf neu'r unig ymgeisydd ar o leiaf hanner y rhestrau a gyflwynir gan blaid fod yn fenyw (a elwir yn feini prawf safle llorweddol).
Os bydd gan blaid ymgeiswyr mewn un etholaeth yn unig, ni fyddai'r rheol hon yn berthnasol.
Sut byddai'r cwotâu yn cael eu gorfodi?
Fel rhan o'r broses enwebu, byddai'n ofynnol i ymgeiswyr wneud datganiad ynghylch a ydynt yn fenyw ai peidio. Bydd y datganiad hwn yn cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer gorfodi'r cwotâu. Bydd Swyddogion Canlyniadau Etholaethau yn cymryd bod y datganiadau hyn yn ddilys, sy'n golygu na fyddent yn cynnal unrhyw ymchwiliad i weld a yw'r wybodaeth a ddarperir gan ymgeisydd yn gywir.
Datganiad rhywedd Mae Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb y Bil yn egluro, er mai uchelgais polisi ehangach Llywodraeth Cymru yw cefnogi cynnwys bobl draws (gan gynnwys ei gwneud yn haws cael gafael ar Dystysgrif Cydnabod Rhywedd), mae cydnabod rhywedd yn fater a gedwir yn ôl o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dywed Llywodraeth Cymru y gallai fod effaith negyddol ar rai unigolion wrth orfod gwneud datganiad rhywedd, er ei bod yn dweud nad yw'r ddeddfwriaeth yn atal unrhyw un rhag sefyll. Mae’r Asesiad Effaith Integredig yn dweud bod nifer y bobl a allai gael eu heffeithio yn debygol o fod yn fach iawn a bydd natur yr effaith yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau personol penodol pob unigolyn. Mae Asesiad o’r Effaith ar Gyfiawnder y Bil yn dweud na fydd darparu datganiad rhywedd ffug yn rhan o drosedd arfer llwgr presennol am gyflwyno datganiadau ffug mewn papurau enwebu. |
Cyfrifoldeb y Swyddog Canlyniadau Etholaethol fyddai gorfodi'r cwotâu lefel etholaeth. Byddai’n gyfrifol am wirio bod o leiaf 50% o’r ymgeiswyr ar bob rhestr wedi gwneud datganiad eu bod yn fenywod, a bod y meini prawf safle fertigol wedi’u bodloni. Os nad yw rhestr yn cydymffurfio, bydd y Swyddog Canlyniadau Etholaethol yn gallu annilysu'r papurau enwebu.
Ar gyfer y cwotâu cenedlaethol, mae'r Bil yn rhoi'r pŵer i Lywodraeth Cymru benodi Swyddog Cydymffurfio Enwebiadau Cenedlaethol. Byddai'r rôl hon yn goruchwylio cydymffurfiaeth â'r meini prawf safle llorweddol. Os nad yw rhestrau plaid wleidyddol yn cydymffurfio â'r meini prawf, byddant yn cael cyfle i aildrefnu un neu fwy o’r rhestrau i'w gwneud i gydymffurfio. Os na wnânt, yna byddai un neu fwy o’r rhestrau'n cael eu dewis gan yr Swyddog Cydymffurfio Enwebiadau Cenedlaethol a'u haildrefnu gan y Swyddog Canlyniadau Etholaethol perthnasol.
Bydd llawer o’r manylion ynghylch sut y byddai gorfodi’n gweithio’n ymarferol yn cael eu gwneud drwy ddarn o is-ddeddfwriaeth, a elwir yn y Gorchymyn Cynnal, cyn etholiad nesaf y Senedd.
Sut bydd y Senedd yn craffu ar y Bil?
Bydd y Pwyllgor Biliau Diwygio yn arwain y gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil.
Yn unol â'r broses ddeddfwriaethol safonol, bydd y Pwyllgor Cyllid yn ystyried goblygiadau ariannol y Bil, a bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried ansawdd a chyfreithlondeb y ddeddfwriaeth.
Os cytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, yna bydd yn mynd trwy weddill y broses ddeddfwriaethol cyn cyrraedd pleidlais derfynol yng Nghyfnod 4.
Os yw'r Llywydd o'r farn bod unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil yn ymwneud â 'phwnc gwarchodedig', bydd y Bil yn ddarostyngedig i ofyniad 'uwchfwyafrifol' o ddwy ran o dair o'r Aelodau yn ei gefnogi yn ei drafodion Cyfnod 4.
A all y Senedd basio’r ddeddfwriaeth hon?
Fel sy'n wir am bob Bil, mae'n ofynnol i’r Llywydd asesu a oes gan y Senedd y pŵer i wneud y gyfraith honno (a elwir yn gymhwysedd deddfwriaethol).
Cymhwysedd deddfwriaethol Y term a ddefnyddir i ddisgrifio cwmpas pŵer y Senedd i ddeddfu. Mae'r ‘Model Cadw Pwerau’ a sefydlwyd o dan Ddeddf Cymru 2017 yn caniatáu i'r Senedd ddeddfu ar unrhyw faterion na ydynt wedi eu cadw’n ôl gan Senedd y DU. Ni all darpariaeth mewn Bil Senedd addasu’r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl. |
Os yw'r Bil (neu ran ohono) y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gallai gael ei basio o hyd ond caiff Twrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU neu Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru ei herio yn y Goruchaf Lys.
Mae’r Llywydd wedi datgan na fyddai darpariaethau'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, yn ei barn hi, oherwydd ei fod:
- Yn ymwneud â chyfle cyfartal, sy’n fater a gedwir yn ôl, ac
- Yn addasu’r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl, sef Deddf Cydraddoldeb 2010.
Nid yw barn y Llywydd ar gymhwysedd deddfwriaethol yn effeithio ar ba un a ellir cyflwyno Bil ai peidio.
Dyma'r tro cyntaf i'r Llywydd ddatgan ei bod o'r farn y byddai Bil sy'n cael ei gyflwyno i'r Senedd y tu allan i'w chymhwysedd deddfwriaethol yn llwyr.
Mae hyn er gwaethaf y ffaith i'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt AS, ddatgan ym memorandwm esboniadol y Bil:
Yn fy marn i, byddai darpariaethau Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), a gyflwynwyd ar 11 Mawrth 2024, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Beth nesaf?
Bydd y Pwyllgor Biliau Diwygio yn cymryd tystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip Ddydd Mercher 13 Mawrth.
Gallwch ddilyn y trafodion ar wefan y Pwyllgor ac ar Senedd TV.
Mae Adran 1 y Bil yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfran a safle menywod ar restrau o ymgeiswyr i fod yn Aelodau o'r Senedd ac yn nodi sut y bydd y rhestrau ymgeiswyr hyn yn cael eu cynllunio.
Mae hyn yn cynnwys y trothwy lleiaf a'r meini prawf safle fertigol ar lefel etholaethol, a'r meini prawf safle llorweddol ar lefel genedlaethol.
Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benodi Swyddog Cydymffurfio Enwebiadau Cenedlaethol, a defnyddio is-ddeddfwriaeth i amlinellu rhagor o fanylion ar faterion fel:
- Datganiadau ymgeiswyr ynghylch a ydynt yn fenyw ai peidio;
- Archwilio'r datganiadau hynny; a
- Cydymffurfio â'r gofynion os caiff ymgeisydd ei dynnu oddi ar restr.
Mae adran 2 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd gyflwyno cynnig i sefydlu pwyllgor Senedd i gynnal adolygiad o weithrediad ac effaith adrannau 7A newydd i 7D o Ddeddf Llywodraeth Cymru (fel y'i mewnosodir gan y Bil) ar ôl etholiad cyffredinol cyntaf y Senedd a gynhaliwyd wedi i adran 1 o'r Bil hwn ddod i rym. Rhaid cyflwyno’r cynnig cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a dim hwyrach na chwe mis, ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad hwnnw.
Os sefydlir pwyllgor yn dilyn y cynnig hwn, a'i fod yn cyhoeddi adroddiad, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Senedd sy'n nodi ymateb Gweinidogion Cymru i'r adroddiad.
Mae adran 3 yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau atodol, canlyniadol neu drosiannol yn ôl yr angen i roi effaith lawn i unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil.
Mae adran 4 yn ymwneud â gwahanol ddarpariaethau yn dod i rym o fewn y Bil.
Mae adran 5 yn darparu teitl byr y Bil.
Mae’r erthygl hon yn tynnu sylw at brif nodweddion y Bil yn unig ac ni fwriedir iddi fod yn hollgynhwysfawr. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb cynhwysfawr o’r Bil maes o law. Gallwch gyfeirio at y Bil a’i nodiadau esboniadol am fanylion llawn.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru