Gallai'r Senedd fod ar drothwy’r ad-drefnu mwyaf sylweddol ers ei sefydlu ym 1999 os bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn dod yn gyfraith.
Cyflwynwyd y Bil yr wythnos hon a byddai'n gweld nifer yr Aelodau o'r Senedd yn cynyddu, yn ogystal â newid y ffordd y cânt eu hethol.
Mae'r erthygl hon yn trafod y Bil a sut y bydd yn destun craffu.
Beth yw'r prif gynigion?
Mae'r Bil yn bwrw ymlaen â'r rhan fwyaf o'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, a adroddodd ym mis Mai 2022. Gallwch ddarllen mwy am gasgliadau'r Pwyllgor yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.
Mae'r prif newidiadau sy'n cael eu gwneud gan y Bil yn cynnwys:
- Cynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 60 i 96;
- Cyflwyno system etholiadol gyfrannol rhestr gaeedig i ethol Aelodau
- Dychwelyd i'r Senedd yn cael ei hethol am dymhorau o bedair blynedd;
- Galluogi’r Senedd i ethol ail Ddirprwy Lywydd;
- Cynyddu uchafswm nifer Gweinidogion Cymru o 12 i 17 (gyda'r posibilrwydd i gynyddu i 19);
- Rhoi darpariaethau ar waith ar gyfer cynnal adolygiadau o ffiniau etholaethol y Senedd
- Ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr i'r Senedd, ac Aelodau ohoni, gofrestru i bleidleisio mewn cyfeiriad yng Nghymru.
Nid yw'r Bil yn cynnwys dau ddiwygiad mawr a gynigiwyd gan y Pwyllgor Diben Arbennig i wella amrywiaeth yn y Senedd - i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr ac i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr. Bydd y rhain yn cael eu symud ymlaen mewn Bil ar wahân a ddisgwylir yn ddiweddarach eleni.
Mae'r Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd gynnig sefydlu pwyllgor i ystyried a ellid llenwi rhai swyddi yn y Senedd drwy 'rannu swyddi'. Byddai angen i gynnig sy’n argymell y pwyllgor hwn gael ei osod o fewn chwe mis i gyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn etholiad 2026.
Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud am y Bil?
Wrth gyflwyno’r Bil, dywedodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y canlynol:
It presents us and the people of Wales with a once-in-a-generation opportunity to make the changes necessary to modernise the Senedd, reflecting our 21st Century Wales. A more effective Senedd, with the ability and capacity to hold the Welsh Government to account. A more representative Senedd to better serve the people of Wales.
Ym mha ffordd y cynhelir gwaith craffu ar y Bil?
Sefydlwyd y Pwyllgor Biliau Diwygio ar 12 Gorffennaf 2023 a bydd yn arwain y gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil.
Yn unol â'r broses ddeddfwriaethol safonol, bydd y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad hefyd yn craffu ar y Bil (gan ganolbwyntio ar oblygiadau ariannol y Bil), a byddant yn edrych ar ansawdd a chyfreithlondeb y ddeddfwriaeth.
Os cytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, yna bydd yn mynd trwy weddill y broses ddeddfwriaethol cyn cyrraedd pleidlais derfynol yng Nghyfnod 4.
Dyma lle mae pethau’n wahanol i Filiau sy’n cael eu hystyried fel arfer gan y Senedd.
Mae rhai o ddarpariaethau'r Bil, fel newid nifer yr etholaethau a sut y caiff Aelodau eu hethol, yn ymwneud â'r hyn a elwir yn "faterion pwnc gwarchodedig". Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r Bil gael cefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau o'r Senedd er mwyn iddo ddod yn gyfraith. Gelwir hyn yn 'uwchfwyafrif'.
Beth ddylech chi edrych amdano nesaf?
Bydd y Pwyllgor Biliau Diwygio yn cynnal ei sesiwn dystiolaeth gyntaf gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, cyn clywed gan randdeiliaid allweddol dros y misoedd nesaf.
Gallwch ddilyn y trafodion ar wefan y Pwyllgor a Senedd TV.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o gyhoeddiadau Ymchwil y Senedd am y Bil a hanes Diwygio’r Senedd ar y dudalen adnoddau hon, a fydd yn cael ei diweddaru wrth i’r Bil fynd rhagddo.
Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth i gynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd i 96, drwy ddiwygio nifer yr etholaethau a nifer y seddi ar gyfer pob etholaeth.
Mae hefyd yn nodi sut y byddai etholaethau'r Senedd yn cael eu diffinio, ac yn newid amlder etholiadau cyffredinol cyffredin i bob pedair blynedd.
Mae'n cynyddu uchafswm nifer y Dirprwy Lywyddion y caniateir eu hethol o un i ddau, ac yn cynyddu uchafswm nifer Gweinidogion Cymru o 12 i 17 (gyda’r pŵer i gynyddu ymhellach i 19).
Bydd pobl nad ydynt wedi'u cofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru yn cael eu gwahardd rhag bod yn Aelod o'r Senedd, neu'n ymgeisydd mewn etholiad i'r Senedd gan y Rhan hon.
Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywydd y Senedd nesaf, a etholir ar ôl mis Ebrill 2026, wneud cynnig i sefydlu Pwyllgor Senedd i edrych ar y posibilrwydd o rannu swyddi yn y Senedd.
Mae'r Rhan hon yn newid y system etholiadol a ddefnyddir i ethol Aelodau o'r Senedd i System Gyfrannol Rhestr Gaeedig gan ddefnyddio'r fformiwla D'Hondt. Mae ein rhestr o dermau yn esbonio'r termau hyn yn fanylach.
Yn gryno, mae'n caniatáu i bleidiau gwleidyddol gyflwyno rhestrau o wyth ymgeisydd i sefyll mewn etholaeth ac i ymgeiswyr unigol (annibynnol) gyflwyno eu hunain hefyd. Byddai pleidleiswyr yn gallu pleidleisio dros restr plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol yn y blwch pleidleisio.
Byddai seddi gwag sy’n codi rhwng etholiadau cyffredinol y Senedd yn cael eu llenwi gan yr ymgeisydd cymwys nesaf ar restr y blaid. Byddai'r sedd yn aros yn wag tan yr etholiad cyffredinol nesaf os yw'r rhestr wedi’i disbyddu neu os yw’n ymgeisydd unigol.
Mae Rhan 3 yn ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Mae'r newid enw hwn yn adlewyrchu cyfrifoldebau ychwanegol a roddwyd i'r Comisiwn gan y Bil hwn am adolygu ffiniau etholiadau’r Senedd. Ar hyn o bryd mae ond yn gyfrifol am adolygu'r ffiniau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae'r Rhan hon hefyd yn cynnwys:
- Cynyddu uchafswm nifer aelodau’r Comisiwn, a grymuso Gweinidogion Cymru i newid y cworwm ar gyfer cyfarfodydd y Comisiwn; a
- Cyfyngiadau newydd ar Aelodau o'r Senedd, eu staff neu staff Comisiwn y Senedd rhag bod yn aelodau, yn brif weithredwr neu'n gomisiynydd cynorthwyol i'r Comisiwn.
Mae'r Rhan hon yn darparu ar gyfer cynnal adolygiadau o ffiniau mewn dwy sefyllfa:
- Cyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026; ac
- Ar gyfer etholiadau cyffredinol a gynhelir ar ôl 1 Ebrill 2030.
Mae’r darpariaethau hyn wedi’u nodi yn Atodlenni 1 a 2 o’r Bil.
Mae'r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd gyflwyno cynnig ar ôl etholiad 2026, i gynnig sefydlu Pwyllgor Senedd i adolygu gweithrediad Rhannau 1 a 2 o'r Bil.
Mae'r darpariaethau sy'n weddill yn y Rhan hon yn ymwneud â phwerau i wneud darpariaethau canlyniadol a darpariaethau trosiannol, y gweithdrefnau sydd i'w cymhwyso i is-ddeddfwriaeth y darperir ar eu cyfer yn y Bil, a darpariaethau ar gyfer pan ddaw’r Bil i rym.
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth i’r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru newydd gynnal adolygiad i sefydlu etholaethau Senedd newydd cyn yr etholiad cyffredinol cyntaf sydd i’w gynnal ar ôl 6 Ebrill 2026. Byddai'n ofynnol i'r Comisiwn 'baru' dwy etholaeth seneddol y DU i ffurfio pob un o’r 16 o etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiad 2026.
Mae'r Atodlen yn nodi'r weithdrefn a'r paramedrau y mae'n rhaid i'r Comisiwn eu dilyn wrth gynnal yr adolygiad hwn.
Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gynnal adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd cyn etholiad cyffredinol y Senedd sydd i’w gynnal ar ôl 1 Ebrill 2030, a phob wyth mlynedd yn dilyn hynny.
Mae'n nodi'r weithdrefn a'r paramedrau y mae'n rhaid i'r Comisiwn eu dilyn wrth gynnal ei adolygiadau.
Mae’r erthygl hon yn tynnu sylw at brif nodweddion y Bil yn unig ac ni fwriedir iddi fod yn hollgynhwysfawr. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb cynhwysfawr o’r Bil maes o law. Gallwch gyfeirio at y Bil a’i nodiadau esboniadol am fanylion llawn.
Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru