Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2022: Crynodeb o welliannau Cyfnod 2

Cyhoeddwyd 30/11/2022   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 6 Rhagfyr, bydd Aelodau o’r Senedd yn cynnal dadl ac yn pleidleisio ar welliannau a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod 3 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)’ siwrnai drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.

Ry’n ni wedi cynhyrchu crynodeb o’r newidiadau a wnaed i’r Bil yng Nghyfnod 2, wnaeth ddigwydd yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ar 9 Tachwedd 2022.

Mae’r Bil yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys yn rhad ac am ddim) gynhyrchion plastig untro (SUP) a restrir yn y Bil, sef yr eitemau mwyaf cyffredin o ran cael eu taflu fel sbwriel, i ddefnyddiwr yng Nghymru.

Mae'r Bil a'r Memorandwm Esboniadol wedi eu cyhoeddi ar wefan y Senedd.  Mae ein Crynodeb o'r Bil – a gyhoeddwyd pan gyflwynwyd y Bil – yn esbonio’r hyn mae'r Bil yn ei wneud ac yn rhoi gwybodaeth gefndirol.

Gallwch wylio trafodion dadl Cyfnod 3 yn fyw ar Senedd.TV ar 6 Rhagfyr.

Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru