Bil Cymru yn pasio yn y Cynulliad a’r Senedd

Cyhoeddwyd 27/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

27 Ionawr 2017  View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg   Ar ddydd Mawrth 17 Ionawr 2017, cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddadl ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru. Yn ôl y confensiwn (sef “confensiwn Sewel”) ni fyddai Llywodraeth y DU fel arfer yn cyflwyno na chefnogi cynigion i ddeddfu mewn perthynas â Chymru ar y pynciau y mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol yn eu cylch heb ganiatâd y Cynulliad. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n cael ei ddefnyddio i gael caniatâd y Cynulliad. Mae Bil Cymru yn newid pwerau’r Cynulliad, felly roedd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Mae’r cynnig, a gynigiwyd gan y Prif Weinidog, yn nodi:Siambr gwag

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Cymru, i’r graddau eu bod yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu yn ei addasu, barhau i gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Y Prif Weinidog a agorodd y ddadl. Eglurodd fod grŵp Llafur wedi penderfynu ystyried y Bil “fel pecyn” ac, ar y cyfan, er nad penderfyniad hawdd ydoedd, penderfynwyd cefnogi’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Pan ofynnwyd iddo ynghylch y ffactor allweddol wrth ddewis cefnogi’r Bil, atebodd:

Mae mater Brexit yr un fath â mater Sewel i mi. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun heddiw na chaiff unrhyw bwerau eu tynnu’n ôl, ac mae’n rhaid imi ei chredu, ond os yw wedi’i ymgorffori yn y gyfraith bod gofyniad o ganiatâd gan senedd neu gynulliad datganoledig, yn amlwg mae mwy o bwysau i hynny nag i gonfensiwn yn unig. Felly, mae’n bwysig ymgorffori hynny yn y gyfraith, nid yn unig o ran trafodaethau Brexit, ond o ran trafodaethau am nifer o faterion yn y dyfodol lle na fydd Llywodraeth y DU yn gallu dweud, ‘Wrth gwrs, yn yr Alban mae’n gyfraith, ond yng Nghymru, nid yw, felly nid oes rhaid inni dalu’r un sylw i Gymru ag i’r Alban.’

Dywedodd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

Mae pobl ddoethach na fi wedi awgrymu na fydd y Bil hwn yn rhoi’r setliad cydnerth, unwaith mewn cenhedlaeth a addawyd gan Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, a bod y cymhlethdod a’r amodoldeb sydd ynddo yn golygu y byddwn o bosibl yn ildio rhywfaint o dir. Ond nid oes unrhyw amheuaeth y byddwn yn sefyll ar dir mwy cadarn a mwy sicr o ganlyniad i symud at Fil cadw pwerau. Mae’n ein rhoi ni mewn sefyllfa dda wrth inni wynebu cyfnod pontio at Brexit a ffactorau sioc allanol eraill.

Gwrthwynebodd Plaid Cymru y Bil ar y sail ei fod yn tynnu pwerau’r Cynulliad yn ôl. Dywedodd Leanne Wood AC, arweinydd y blaid:

Dywedwyd wrthym y byddai model cadw pwerau yn cael ei ddarparu, ac mae hyn wedi bod yn un o ofynion allweddol Plaid Cymru ers blynyddoedd lawer, ac eto daeth i’r amlwg yn gyflym y byddai’r rhestr o bwerau a gadwyd yn ôl yn cynnwys mwy na 200 o faterion a gadwyd yn ôl, ac y gallai unrhyw beth sy’n ymwneud â’r rhestr honno fod yn waharddedig i’r Cynulliad hwn yn y dyfodol.   O’i gymharu â’r model rhoi pwerau, mae hynny’n gyfystyr â lleihau ein pwerau, ac yn ein barn ni byddai felly’n gyfystyr â throi’n ôl ar ganlyniad refferendwm 2011.

Mae gwleidyddiaeth hyn yn eglur imi. Ar ôl ei methiant yn y Goruchaf Lys ar y Bil cyflogau amaethyddol, roedd Llywodraeth y DU yn awyddus i ailfodelu cyfansoddiad Cymru i osgoi methiannau pellach.

Pleidleisiodd y Ceidwadwyr o blaid y Bil, gydag Andrew R.T. Davies AC, arweinydd y blaid, yn croesawu yn arbennig y ffaith “y bydd treth incwm yn dod i’r sefydliad hwn i wneud yn siŵr bod gennym fwy o atebolrwydd yn y ffordd y mae’r arian wedi cael ei wario yn y sefydliad hwn a chan y Llywodraeth.” Pleidleisiodd UKIP yn erbyn y Bil gan eu bod yn gwrthwynebu dileu’r gofyniad i gynnal refferendwm ar gyfer datganoli pwerau treth incwm. Dywedodd Neil Hamilton AC, yr arweinydd:

rwy’n credu, er bod egwyddorion bras y Bil yn deilwng o gefnogaeth, bod y ffordd y cafodd hyn ei drin wedi bod yn bell iawn o fod yn berffaith, ac, o ran dileu darpariaeth refferendwm ar gyfer datganoli pwerau treth incwm, rwy’n credu bod hwnnw’n ddiffyg cyfansoddiadol na ddylem ei anwybyddu.

Yn y Cynulliad, pleidleisiodd 38 o blaid rhoi caniatâd i’r Bil barhau yn ei flaen, gyda 17 yn pleidleisio yn erbyn. Drannoeth y bleidlais, cafodd Bil Cymru ei Drydydd Darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi ac fe’i pasiwyd. Ar 24 Ionawr, daeth y Bil yn ôl i Dŷ’r Cyffredin er mwyn trafod gwelliannau Tŷ’r Arglwyddi. Derbyniwyd y gwelliannau ac mae’r Bil bellach yn aros am Gydsyniad Brenhinol. Hefyd ar 24 Ionawr, cafwyd y dyfarniad yn y Goruchaf Lys ar Erthygl 50, gyda dyfarniad hefyd ar gonfensiwn Sewel yn y deddfwrfeydd datganoledig. Daeth i’r casgliad canlynol:

[…] the Convention operates as a political constraint on the activity of the UK Parliament. It therefore plays an important role in the operation of the UK constitution. But the policing of its scope and operation is not within the constitutional remit of the courts. The devolved legislatures do not have a veto on the UK’s decision to withdraw from the EU.

Ymdrinnir â’r dyfarniad yn fwy manwl mewn erthygl arall cyn hir.
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.