Llun o ystâd dai newydd. Mae'r tai ar y cyfan yn dai teras. Mae gan yr eiddo rywfaint o wyrddni a blodau y tu allan i'w drysau ffrynt.

Llun o ystâd dai newydd. Mae'r tai ar y cyfan yn dai teras. Mae gan yr eiddo rywfaint o wyrddni a blodau y tu allan i'w drysau ffrynt.

Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Crynodeb o’r Bil

Cyhoeddwyd 22/01/2024   |   Amser darllen munudau

Gallai Bil newydd sy'n mynd drwy'r Senedd sefydlu cylch pum mlynedd o ailbrisiadau treth gyngor, tra'n cynyddu amlder ailbrisio ardrethi annomestig (cyfraddau busnes) o bump i bob tair blynedd.

Cyflwynwyd Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) i’r Senedd ar 20 o Dachwedd 2023.

Byddai'r Bil hefyd yn disodli'r ddyletswydd bresennol i gyhoeddi gwybodaeth am newidiadau i’r dreth cyngor mewn papurau newydd i ofyniad i gyhoeddi'n electronig, ac yn gosod gofynion ychwanegol ar dalwyr ardrethi i ddarparu gwybodaeth benodol i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Gallai methu â chydymffurfio â'r rheolau newydd arwain at gosb sifil, neu hyd yn oed drosedd lle mae trethdalwr wedi darparu gwybodaeth ffug yn fwriadol.

Mae rhagor o gyhoeddiadau Ymchwil y Senedd am y Bil ar y dudalen adnoddau hon, a fydd yn cael ei diweddaru wrth i’r Bil fynd rhagddo.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru