Beth yw dull Llywodraeth Cymru o ran cyfraith yr UE a ddargedwir?

Cyhoeddwyd 26/01/2023   |   Amser darllen munud

Mae Llywodraeth Cymru wedi argymell bod y Senedd yn peidio â rhoi cydsyniad i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ("y Bil") a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU.

Y Bil yw cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer cyfreithiau’r UE sy’n parhau i fod ar waith ar ôl Brexit, fel y mae ein herthygl ragarweiniol yn ei egluro.

Y nod yw dileu’r rhan fwyaf o gyfraith yr UE a ddargedwir o lyfr statud y DU erbyn dengmlwyddiant refferendwm Brexit fan bellaf (23 Mehefin 2026). Byddai’n rhoi i Weinidogion Cymru sawl ffordd o arbed, diwygio neu ddileu darnau datganoledig o gyfraith yr UE a ddargedwir cyn iddynt ddod i ben yn awtomatig ar 31 Rhagfyr 2023.

Mae’r erthygl hon yn egluro’r hyn a wyddom am ddull Llywodraeth Cymru hyd yn hyn. Mae papur briffio, offeryn rhyngweithiol a ffeithlun hefyd ar gael.

Parthed diddymu’r y Bil…

Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol ac Angus Robertson, Ysgrifennydd y Cabinet dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant yn Llywodraeth yr Alban, lythyr ar y cyd yn y Financial Times yn galw am i’r Bil gael ei dynnu’n ôl.

Eglurodd y Cwnsler Cyffredinol i’r cam cyhoeddus anarferol hwn gael ei gymryd oherwydd:

The best thing that could happen is for the Bill to be shelved […] we felt it was important that that point was made as clearly as possible to set out our positions.

Parthed adolygu cyfraith yr UE a ddargedwir…

Mewn meysydd datganoledig, mae cyfraith yr UE a ddargedwir wedi'i gwneud gan Weinidogion Cymru neu gan Weinidogion y DU.

Mae Llywodraeth Cymru’n llunio rhestr o’r darnau hynny o gyfraith yr UE a ddargedwir a wnaed yng Nghymru ac mae’n cynnal adolygiad ar y cyd o filoedd o ddarnau o gyfraith yr UE a ddargedwir a wnaed yn y DU yn ôl taenlenni a luniwyd gan adrannau yn Whitehall.

Mae Llywodraeth yr Alban a rhai adrannau yng Ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn adolygu cyfraith yr UE a ddargedwir yn annibynnol ar Lywodraeth y DU i ganfod, ymhlith pethau eraill, eu barn ynghylch yr hyn a gadwyd yn ôl a’r hyn a ddatganolwyd. Mae'r Cwnsler Cyffredinol o’r farn bod hynny fwy neu lai’r un peth â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.

Parthed ansicrwydd…

Mae rhanddeiliaid yn pryderu am ansicrwydd dull Llywodraeth Cymru o adolygu Cyfraith yr UE a Ddargedwir. Yn ôl yr RSPCA, mae’r penderfyniad i beidio ag adolygu cyfraith yr UE a ddargedwir yn annibynnol ar Lywodraeth y DU yn porthi ansicrwydd. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn priodoli hyn i’r Bil yn hytrach nag i ddull gweithredu Llywodraeth Cymru, ac mae’n dweud ei fod yn rhannu ansicrwydd rhanddeiliaid.

Parthed y dull gweithredu…

Amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (“y Pwyllgor”) ar 5 Rhagfyr ac mi ddarparodd ddiweddariad ar 19 Ionawr. Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

  1. dadansoddi a chadw cyfraith yr UE a ddargedwir a wnaed yng Nghymru; a
  2. pwyso ar Lywodraeth y DU i gyflawni tasgau y mae Llywodraeth Cymru o’r farn y mae angen iddi eu gwneud, er enghraifft, canfod pa gyfreithiau’r UE a ddargedwir yn rhai a gedwir yn ôl/sydd wedi’u datganoli.

Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud y canlynol:

  • edrych ar yr opsiwn lleiaf dwys o ran adnoddau i arbed cyfraith yr UE a ddargedwir, a blaenoriaethu’r materion pwysicaf yn hytrach nag edrych ar feysydd technegol;
  • peidio â dadansoddi effaith y Bil ar Gymru, er bod corff gwarchod annibynnol yn dweud am asesiad effaith Llywodraeth y DU nad yw’n addas at y diben;
  • peidio â gwneud trefniadau i roi unrhyw beth yn ei rhaglen ddeddfwriaethol o’r neilltu, er gwaethaf y ffaith bod y Cwnsler Cyffredinol wedi dweud y byddai hyn wedi ei orlwytho. Dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddarach y byddai angen dargyfeirio capasiti o fannau eraill i ymdopi â’r Bil.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol yn ddiweddarach fod Llywodraeth Cymru yn aros am eglurder gan Lywodraeth y DU cyn cymryd camau, gan gynnwys mewn meysydd datganoledig.

Parthed datrysiadau...

Yn ogystal â galw am i’r Bil gael ei yn ôl, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod Llywodraeth Cymru wedi nodi nifer o newidiadau y mae wedi annog Llywodraeth y DU i’w gwneud. Nid yw’r rhain wedi cael eu cyhoeddi na’u rhannu â’r Senedd.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru’n esbonio ei bod wedi gofyn am un gwelliant i roi pwerau i Weinidogion Cymru ymestyn y cyfnod machlud awtomatig o 31 Rhagfyr 2023 hyd at 23 Mehefin 2026 ar gyfer darnau datganoledig o gyfraith yr UE a ddargedwir. Dim ond Gweinidogion y DU sydd â’r pŵer hwn yn y Bil.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth y Pwyllgor y gallai gwelliannau hefyd gael eu cyflwyno gan eraill i liniaru’r pryderon, gan gynnwys yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Yn ei Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad yw Llywodraeth y DU wedi mynd i’r afael â’r un o’i phryderon a bod ei safbwynt heb newid.

Parthed safonau….

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod safonau yn faes mawr i Lywodraeth Cymru, sydd am wella safonau a fodolai cyn Brexit. Mae rhanddeiliaid yn poeni am safonau is ar gyfer yr amgylchedd, iechyd anifeiliaid, bwyd, ffermio ac iechyd y cyhoedd.

Os yw Gweinidogion am newid cyfraith yr UE a ddargedwir, mae’r Bil yn eu gwahardd rhag cynyddu’r hyn y mae’n ei alw’n ‘feichiau rheoleiddiol’, megis costau ariannol, rhwystrau masnach neu anghyfleustra gweinyddol. Yn ôl y Cwnsler Cyffredinol, mae hwn yn gyfyngiad cwbl annerbyniol, ac un y byddai angen i Weinidogion Cymru gyflwyno deddfwriaeth ar wahân i’w oresgyn.

Parthed ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r Senedd…

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y byddai rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys, ond:

it's not completely clear who we will be engaging with, to what extent, and within what framework.

Dywedodd y bydd angen cydweithio'n agos gyda'r Senedd hefyd.

Parthed osgoi Llywodraeth Cymru a’r Senedd…

Mewn meysydd datganoledig, byddai’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ddeddfu gyda chymeradwyaeth y Senedd. Ond gallai Gweinidogion y DU wneud yr un peth i Gymru gyda chymeradwyaeth Senedd y DU, gan osgoi Llywodraeth Cymru a’r Senedd i bob pwrpas. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn cydnabod bod hon yn risg y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi’i chodi gyda Llywodraeth y DU, ond dywedodd:

We’ve not seen any amendments to the legislation or indications there would be changes.

Fodd bynnag, ni chadarnhaodd a yw Llywodraeth Cymru wedi argymell cryfhau pwerau’r Senedd yn y Bil i wella craffu.

Parthed pwerau cydredol…

Byddai’r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru neu Weinidogion y DU ddeddfu ar gyfer Cymru. Gelwir y pwerau hyn yn 'bwerau cydredol'.

Mae opsiwn arall: gallai Gweinidogion y DU ddeddfu ar gyfer Cymru ar yr amod bod ganddynt gydsyniad Gweinidogion Cymru. Gelwir y pwerau hyn yn 'bwerau cydredol plws'.

Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn credu y dylai pwerau cydredol y Bil fod yn bwerau cydredol plws ar y lleiaf.

Parthed cyd-ddibyniaethau…

Mae'r Bil yn ei gwneud yn bosibl i bob llywodraeth yn y DU newid neu ddileu cyfraith yr UE a ddargedwir ar wahân neu gyda'i gilydd. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn rhybuddio y gallai hyn effeithio ar Gymru; er enghraifft, lle mae cyfraith yr UE a ddargedwir yn cael ei ddirymu ar gyfer Lloegr ond mae Cymru yn dibynnu arno mewn rhywfodd neu’i gilydd. Am y rheswm hwn, mae'n bwysig:

each piece of legislation has to be looked at very carefully, to have an understanding of that.

Gallai hyn arwain at wahaniaeth mewn rheolau rhwng pedair gwlad y DU a rhwng y DU a’r UE, fel y mae erthygl arall yn egluro.

Mae'r DU a'r UE wedi cytuno ar 'degwch yn y farchnad' ar gyfer masnach a buddsoddi i gadw cystadleuaeth rhyngddynt yn agored ac yn deg. Un ffordd y gwnaethant benderfynu gwneud hyn oedd cytuno y gallai’r naill barti neu’r llall ddefnyddio mesurau ail-gydbwyso lle mae gwahaniaeth yn cael effaith sylweddol ar fasnach neu fuddsoddi yn y DU a’r UE. Gallai hyn gynnwys cyflwyno tariffau ar nwyddau sydd fel arall yn ddi-dariff.

Parthed Deddf y Farchnad Fewnol 2020 a fframweithiau cyffredin…

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y byddai effeithiau cyfunol y Bil ochr yn ochr â Deddf y Farchnad Fewnol 2020 a fframweithiau cyffredin yn arwain at ôl-effeithiau pwysig ar safonau.

Mae'n disgwyl i drafodaethau pellach gael eu cynnal trwy fframweithiau cyffredin, gan gynnwys ar gyfer anghydfodau, ond nododd hefyd nad yw pob darn o gyfraith yr UE a ddargedwir yn dod o dan fframwaith cyffredin.

Parthed hawliau dynol…

Mae’r Prif Weinidog yn dweud bod gan y Bil y potensial i wneud drwg i hawliau dynol gan y byddai hawliau sy’n deillio o’r UE, megis hawliau gweithwyr, yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023 heb unrhyw opsiwn i ymestyn y dyddiad hwn. Gellid defnyddio pwerau eraill yn y Bil i atgynhyrchu hawliau sy’n deillio o’r UE mewn cyfraith ddomestig, ond rhaid i hynny ddigwydd cyn i’r hawliau hynny ddod i ben.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol yn ddiweddarach y gallai diwedd awtomatig cyfraith yr UE a ddargedwir arwain at broblemau nad ydynt yn hysbys ar hyn o bryd ac effeithiau negyddol posibl, “er enghraifft effeithiau ar grwpiau gwarchodedig”.

At hynny, byddai’r Bil yn diddymu egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE ar 31 Rhagfyr 2023, gan gynnwys triniaeth gyfartal a pharch at hawliau sylfaenol. Ni fydd cyfraith ddomestig, bellach, yn cael ei darllen yn unol â’r egwyddorion cyffredinol hyn o 2024 ymlaen.

Y camau nesaf

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi'r ohebiaeth ddiweddaraf gan y Cwnsler Cyffredinol, dyddiedig 19 Ionawr.

Mae’r Bil gerbron Tŷ’r Arglwyddi, lle disgwylir gwelliannau. Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ail Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i adlewyrchu datblygiadau yn San Steffan.

Mae pwyllgorau'r Senedd yn ystyried tystiolaeth rhanddeiliaid ac mae’n rhaid iddi gyflwyno adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru erbyn 2 Mawrth.

Bydd pleidlais yn y Senedd ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad ai peidio yn dilyn, ond nid oes dyddiad wedi cael ei gadarnhau eto.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru