Siambr y Senedd o'r tu mewn yn edrych i fyny at y golau y tu allan.

Siambr y Senedd o'r tu mewn yn edrych i fyny at y golau y tu allan.

Beth yw cyfraith Cymru a sut y dylid ei diffinio?

Cyhoeddwyd 28/06/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Cymru wedi gweithredu o fewn awdurdodaeth gyfreithiol ar y cyd â Lloegr ers bron i 500 mlynedd. Ers canrifoedd, mae hyn wedi gweithio’n gymharol ddidrafferth, ond wrth i gyfraith Cymru a Lloegr ymwahanu fwy dros 25 mlynedd o ddatganoli, bu galwadau cynyddol am gydnabod corff o gyfreithiau Cymru neu am awdurdodaeth gyfreithiol wahanol i Gymru.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn unrhyw newid, ac yn ystyried sut y gellir diffinio cyfraith Cymru. 

Cymru a Lloegr: anomaledd hanesyddol?

Gellir olrhain hanes cyfreithiol Cymru â Lloegr i ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Roedd diwygiadau yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn gam arwyddocaol yn y broses hon, wrth i Ddeddfau Cyfreithiau Cymru 1535 a 1542 ymestyn cyfraith Lloegr i Gymru. Er i rai gwahaniaethau barhau rhwng Cymru a Lloegr ar ôl y diwygiadau hyn, yn sgil diddymu Llys y Sesiwn Fawr ym 1830 daeth trefniadau llywodraethu a chyfiawnder yn Nghymru yn gyson â'r trefniadau yn Lloegr.

Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae gan bob tiriogaeth ei hawdurdodaeth gyfreithiol ei hun. Llysoedd y gwledydd hyn sy'n gorfodi'r cyfreithiau a wneir ar eu cyfer gan eu deddfwrfeydd.

A oes y fath beth â chyfraith Cymru?

Mae’r cyd-destun hanesyddol unigryw hwn yn golygu, yn yr awdurdodaeth gyfreithiol sengl hon, bod rhai wedi dadlau nad yw'r fath beth â “chyfraith Cymru” yn bosibl ac mai dim ond un gyfraith sydd: cyfraith Cymru a Lloegr.

Nod y gwelliannau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a wnaed gan Ddeddf Cymru 2017 oedd ceisio cydnabod bodolaeth cyfraith Cymru drwy fewnosod adran newydd A2, sy’n datgan:

Recognition of Welsh law

(1) The law that applies in Wales includes a body of Welsh law made by the Senedd and the Welsh Ministers.

(2) The purpose of this section is, with due regard to the other provisions of this Act, to recognise the ability of the Senedd and the Welsh Ministers to make law forming part of the law of England and Wales.

Fodd bynnag, er bod corff o gyfreithiau Cymru a wnaed gan y Senedd a Gweinidogion Cymru, mae’n dal i fod yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr.

Er nad oedd y gwahaniaeth hwn yn broblem sylweddol am y 450 mlynedd gyntaf o'r awdurdodaeth, mae sefydlu datganoli yng Nghymru a'i ddatblygiad wedi codi cwestiynau ynghylch a ddylai swyddogaethau barnwrol gael eu datganoli hefyd.

Un awdurdodaeth: dwy ddeddfwrfa

Mae sefydlu datganoli yng Nghymru, ac yn arbennig y pwerau deddfu sylfaenol sydd gan y Senedd nawr, yn golygu bod corff cynyddol o gyfreithiau sy’n gymwys yng Nghymru yn unig.

Er bod Deddfau'r Senedd yn berthnasol i Gymru yn unig, maent yn 'ymestyn' i Gymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu y gall llysoedd yn Lloegr hefyd ymdrin ag ymgyfreitha sy’n ymwneud â chyfreithiau sy’n gymwys yng Nghymru yn unig ac i'r gwrthwyneb.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gallai llysoedd yn Lloegr a barnwyr â llai o brofiad o Gymru neu'r cyfreithiau a grëwyd gan y Senedd benderfynu ar achosion sy’n ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â Chymru yn unig. 

Bu gwahaniaeth rhwng y gyfraith a wnaed yn Senedd Cymru a Senedd y DU (mewn perthynas â Lloegr) ar faterion sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, ac mae hyn yn debygol o gynyddu yn y dyfodol. Mae'r gwahaniaeth hwn wedi gwneud i rai gwleidyddion, sylwebwyr ac academyddion awgrymu bod angen newid yr awdurdodaeth fel y saif ar hyn o bryd.

Opsiynau ar gyfer diwygio: ar wahân neu wahanol?

Ystyriwyd y mater hwn gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad ar y pryd ac mewn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yn 2012 ar ôl i’r Cynulliad gael pwerau deddfu sylfaenol llawn yn refferendwm 2011. Daeth y ddau i’r casgliad nad dyma’r amser i newid, ond ailgododd trafodaethau am yr awdurdodaeth gyfreithiol wrth ystyried yr hyn a fyddai’n dod yn Ddeddf Cymru 2017, ac yn sgil newid i fodel cadw pwerau yn 2018.

Mae dau opsiwn wedi'u cynnig ar gyfer newid. Mae rhai wedi galw am wahaniad llwyr rhwng Cymru a Lloegr fel ardaloedd cyfreithiol, gyda systemau llysoedd a phroffesiynau cyfreithiol ar wahân a datganoli trefniadau gweinyddu cyfiawnder. Er enghraifft, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Bil Llywodraeth a Chyfraith Cymru drafft yn 2016, a gynigiodd wahanu Cymru a Lloegr yn llwyr fel awdurdodaethau cyfreithiol.

Dewis arall fyddai symud tuag at awdurdodaeth 'wahanol', a fyddai'n cydnabod y gwahaniaeth rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr, tra'n cynnal system gweinyddiaeth farnwrol unedig. Dadleuwyd y gallai hyn gael gwared ar rai o’r anghyfleusterau y byddai gwahaniad cyflawn o'r fath yn ei achosi o ganlyniad i'r ffaith bod cryn dipyn o gyfreithiau yn parhau i fod yn berthnasol yn y ddwy wlad, yn ogystal â chydnabod y ffaith bod y cyrff gwahanol o gyfreithiau yn ehangu.

Cynnal y status quo

Mae Llywodraeth y DU wedi dadlau’n gryf o blaid parhau ag awdurdodaeth Cymru a Lloegr, gan ddadlau mai ”awdurdodaeth sengl yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau cyfiawnder ledled Cymru a Lloegr".

Yn y trafodaethau am ddyfodol yr awdurdodaeth yn ystod datblygiad Deddf Cymru 2017, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Stephen Crabb AS:

With the Assembly being given full law-making powers in 2011, there is now a growing body of distinct Welsh law. At present, this makes up a tiny fraction of the overall body of law for England and Wales which has developed over 500 years of legal history.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi tynnu sylw at gostau posibl creu awdurdodaeth Gymreig fel rheswm dros gynnal y status quo. Cyfeiriodd y cyn Is-ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Chris Philp AS, at amcangyfrifon a wnaed gan Gomisiwn Silk yn 2014 y byddai “cost gynyddrannol ychwanegol creu awdurdodaeth ar wahân tua £100 miliwn y flwyddyn”.

Dadleuodd yr Athro Richard Owen yn 2016 y gall canfod y gyfraith sydd ond yn berthnasol i Gymru fod yn ”heriol a dweud y lleiaf". Mae cyfreithiau sy’n berthnasol i Gymru yn unig wedi’u cydblethu â’r rhai sy’n gymwys ledled Cymru a Lloegr. Gallai'r mater hwn ddod yn fwy cymhleth yng ngoleuni'r cynnydd ym Miliau’r DU sy’n deddfu mewn meysydd datganoledig.

Nododd cyn Gwnsler Cyffredinol Cymru, Theo Huckle CB, hefyd yr her o fynd ar drywydd awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân heb i Weinidogion Cymru a’r Senedd gael pwerau'n ymwneud â gweinyddu cyfiawnder. Mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017, yn argymell y dylai pwerau dros gyfiawnder gael eu datganoli’n gyfan gwbl i’r Senedd a Llywodraeth Cymru.

Beth nesaf o ran y cwestiwn hwn?

Er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi datganoli cyfiawnder, er mwyn gwneud unrhyw newidiadau byddai angen cefnogaeth Llywodraeth y DU a deddfwriaeth yn Senedd y DU.

Wrth i’r gwahaniaeth rhwng y gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru a’r gyfraith sy’n gymwys yn Lloegr barhau i gynyddu, mae cwestiynau ynghylch a ddylid cynnal awdurdodaeth gyfreithiol ar y cyd sy'n ganrifoedd oed yn annhebygol o ddiflannu.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru