- dylid datganoli plismona a meysydd diogelwch cymunedol ac atal troseddu cysylltiedig;
- dylid cynnal lefelau presennol o gydweithio trawsffiniol;
- ni ddylid datganoli pwerau o ran arestio, cwestiynu a chyhuddo'r rhai o dan amheuaeth o gyflawni trosedd, a phwerau cyffredinol cwnstabliaid, oni chaiff y gyfraith droseddol ei datganoli a hyd nes y bydd hynny'n digwydd;
- ni ddylid datganoli'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol;
- dylid datganoli cyflogau'r heddlu, ond ni ddylid datganoli pensiynau'r heddlu; a
- dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gytuno ar systemau codi tâl a thelerau ar gyfer darparu gwasanaethau Coleg yr Heddlu, Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, Arolygiaeth Cwnstabliaeth EM a chydwasanaethau megis system Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.
A ddylid datganoli plismona i Gymru?
Cyhoeddwyd 02/12/2014   |   Amser darllen munud
2 Rhagfyr 2014
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_1942" align="alignnone" width="126"] Llun: o Geograph gan Eric Jones. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Ar 3 Rhagfyr 2014 bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod y cynnig canlynol
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylid datganoli plismona (heblaw am Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU a diogelwch gwladol).
Nid yw plismona wedi'i ddatganoli yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae pedair ardal heddlu yng Nghymru, sef Gogledd Cymru, Dyfed-Powys, Gwent a De Cymru. Yn dilyn Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, mae gan bob un o'r heddluoedd Gomisiynydd Heddlu a Throseddu a gaiff ei ethol yn uniongyrchol, sy'n dwyn yr heddlu i gyfrif ar ran pobl yr ardal y maent yn ei gwasanaethau.
Roedd adroddiad Silk Rhan II ar bwerau'r Cynulliad yn cynnwys yr argymhellion canlynol: