Beth mae Cymru yn ei wneud i ddileu gwahaniaethu ar sail hil?

Cyhoeddwyd 22/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r dystiolaeth ynghylch effaith anghyfartal COVID-19 ar wahanol grwpiau ethnig, yn ogystal â’r protestiadau ‘Mae Bywydau Du o Bwys’ y llynedd, wedi cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o anghydraddoldeb hiliol.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Hiliol erbyn diwedd mis Mawrth, cyn cynnal ymgynghoriad arno.

Mae’r amcanion sydd wedi’u datgan yn y cynllun yn cynnwys cydnabyddiaeth ddi-flewyn-ar-dafod “nad yw'r polisïau na'r ymarfer cyfredol wedi mynd yn ddigon pell i ddymchwel hiliaeth systemig a strwythurol yng Nghymru”. Mae’r rhesymau am hyn yn cynnwys diwylliant o arferion nad ydynt yn hiliol yn hytrach nag arferion gwrth-hiliol, bwlch gweithredu rhwng bwriad polisïau a'r camau a gymerir a diffyg ymgysylltu â’r cymunedau yr effeithir arnynt.

Roedd dydd Sul 21 Mawrth yn nodi Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Gwahaniaethu ar Sail Hil. Sut y mae Cymru wedi mynd ati i ddileu gwahaniaethu ar sail hil a beth sydd angen newid?

Y cyd-destun cyfreithiol, data a therminoleg

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 y Deyrnas Unedig yn gwarchod naw nodwedd rhag gwahaniaethu. Gall hil, fel y’i diffiniwyd gan y Ddeddf, gwmpasu sawl agwedd ar hunaniaeth a phrofiad person, gan gynnwys lliw ei groen, ei genedligrwydd a’i ethnigrwydd. Ethnigrwydd yw’r nodwedd sy’n cael ei fonitro fwyaf at ddibenion dangosyddion cydraddoldeb. Gall hyn arwain at rai heriau, gan fod ethnigrwydd yn adnabyddwr goddrychol hefyd.

Gall gwahaniaethu fod yn uniongyrchol, lle bo gelyniaeth wedi’i thargedu’n amlwg tuag at rywun am ei fod yn perthyn i grŵp gwarchodedig, neu’n anuniongyrchol¸ lle bo gweithred neu bolisi’n ymddangos fel petai’n trin pawb yn yr un ffordd, ond ei fod mewn gwirionedd yn rhoi aelodau o grŵp gwarchodedig o dan anfantais, boed hynny’n fwriadol ai peidio. Gall hefyd gynnwys aflonyddu ac erlid, os yw’r unigolyn y gwahaniaethir yn ei erbyn yn cael ei drin yn wael am wneud cwyn.

Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn y Ddeddf Cydraddoldeb yn nodi bod awdurdodau cyhoeddus yn gyfrifol am ddileu gwahaniaethu, gwella cydraddoldeb a meithrin perthnasau da rhwng pobl. Mae dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus penodol Cymru yn ei wneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gymryd nifer o gamau penodol i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol, fel llunio cynlluniau ac amcanion ynghylch cydraddoldeb, cwblhau asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb a chasglu data.

Mae data yn rhoi mewnwelediad hanfodol i’r heriau sy’n wynebu grwpiau penodol. Fodd bynnag, y llynedd pwysleisiodd Pwyllgor Cydraddoldeb y Senedd (PDF 478KB) ddiffyg data wedi’u dadgyfuno yn ôl hil neu ethnigrwydd fel ffactor a allai gyfyngu ar effeithiolrwydd dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn trafod sefydlu adran debyg i Uned Anghyfartaledd Hiliol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n casglu, yn dadansoddi ac yn cyhoeddi data am brofiadau pobl o wahanol gefndiroedd ethnig.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn argymell defnyddio 18 grŵp penodol i gofnodi ethnigrwydd. Serch hyn, mae gwahaniaeth hiliol yn dal i fod yn cael ei nodi drwy ddefnyddio’r term cyffredinol ‘Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig’ neu’r acronym ‘BAME’. Mae gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn nodi’r problemau sy’n gysylltiedig â’r derminoleg hon, gan nodi ei bod yn gallu “gwarthnodi, dadbersonoli ac 'aralloli'”. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ddiweddar wedi ymrwymo i beidio â defnyddio’r derminoleg hon.

Mae Cymru yn llai amrywiol na gweddill y Deyrnas Unedig ond nid yw’n rhydd o achosion o wahaniaethu ar sail hil

Cymru sydd â’r boblogaeth ‘Gwyn Prydeinig’ ail fwyaf yng Nghymru a Lloegr, yn ôl Cyfrifiad 2011. Ni fydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn cael eu cyhoeddi am dipyn o amser, ond mae data diweddarach yn dangos bod Cymru yn wlad amlddiwylliannol.

Mae data o 2019 yn dangos bod 12 y cant o ddisgyblion 5 oed a throsodd yng Nghymru yn dod o gefndiroedd ethnig nad ydynt yn gefndiroedd ‘Gwyn Prydeinig’. Mae bron i un o bob pump o boblogaeth Caerdydd yn dod o leiafrif ethnig, ac mae’r ddinas yn gartref i un o gymunedau aml-ethnig hynaf Ewrop.

Ar hyn o bryd, mae gan y Senedd ddau Aelod o gefndir lleiafrif ethnig, a dim ond 3 y cant o’r bobl a benodwyd i gyrff cyhoeddus yn 2018-19 oedd yn dod o leiafrifoedd ethnig, er bod 5.8 y cant o boblogaeth Cymru yn perthyn i leiafrif ethnig.

Hefyd, er bod pobl o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o farw o COVID-19, mae’r gyfradd frechu ymhlith y bobl hyn yn is nag ar gyfer poblogaethau gwyn yng Nghymru. Mae sawl rheswm am hyn, ond mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod diffyg ymddiriedaeth mewn awdurdodau cyhoeddus yn un ohonynt.

Mae’r pandemig hefyd wedi cael effaith negyddol ar ganfyddiadau ynghylch gwahaniaeth hiliol. Mae canolfan ymchwil digidol Prifysgol Caerdydd, sef HateLab, sy’n ymchwilio i iaith casineb, wedi nodi cynnydd mewn iaith casineb gwrth-Tsieineaidd, gwrth-Asiaidd neu wrth-Semitig, yn ogystal ag iaith casineb Islamoffobig, sy’n gallu helpu i ddarogan troseddau casineb all-lein.

Beth arall all y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ganolbwyntio arno?

Mae Llywodraeth Cymru wedi targedu ei chamau gweithredu ar anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru, yn unol ag argymhellion Grŵp Cynghorol BAME y Prif Weinidog.

Mae’r argymhellion hyn yn cynnwys llunio adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu, llinell gymorth BAME ac ymrwymiad i wella prosesau casglu data, yn enwedig yn y sector iechyd. Mae gwaith ar un o brif argymhellion y grŵp, sef llunio Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, yn mynd rhagddo, a disgwylir i’r cynllun hwn gael ei gyhoeddi’n fuan.

I helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Cydraddoldeb Hiliol, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi nodi chwe maes polisi allweddol, gan wneud argymhellion ym mhob un o’r meysydd hyn, fel a ganlyn:

  • Arweinyddiaeth a chynrychiolaeth – mae’r gwaith ymchwil wedi arwain at argymhelliad y dylid dwyn arweinwyr i gyfrif am amrywiaeth hiliol eu sefydliadau, gan gymryd camau i newid diwylliant sefydliadol. Mae’n nodi pwysigrwydd casglu data, llwybrau ar gyfer gwneud cynnydd mewn gyrfa, gweithredu cadarnhaol, prosesau recriwtio a goresgyn rhwystrau sy’n atal pobl rhag bod yn arweinwyr.
  • Iechyd a gofal cymdeithasol – mae’r argymhellion yn cynnwys gwella prosesau recriwtio a chyfleoedd i wneud cynnydd mewn gyrfa, targedau a gweithredu cadarnhaol, darparu gwasanaethau sy’n sensitif yn ddiwylliannol ac sydd ddim yn gwahaniaethu, gwella prosesau ar gyfer casglu data a dulliau teg ym maes iechyd cyhoeddus. Mae’r gwaith ymchwil hefyd yn nodi’r angen i drawsnewid diwylliant gweithleoedd i ymateb i anghenion gweithlu amrywiol a defnyddwyr gwasanaethau amrywiol.
  • Cyflogaeth ac incwm – mae’r gwaith ymchwil wedi arwain at argymhelliad y dylid ymdrin â gwahaniaethu yn y gweithle, gan orfodi polisi yn erbyn gwahaniaethu; ymdrin â rhwystrau o ran recriwtio a gwneud cynnydd; gwella diwylliant sefydliadol; ymdrin â darpariaethau sy’n pwysleisio gwerth cymdeithasol mewn prosesau caffael a chau’r bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd; a bod uwch arweinwyr a rheolwyr canol yn cefnogi pob un o’r mesurau hyn.
  • Addysg a pholisi – mae’r gwaith ymchwil wedi arwain at argymhelliad y dylid unioni cynrychiolaeth anghyfartal yn y gweithlu, ochr yn ochr â hyfforddiant gwrth-hiliaeth ar gyfer cyflogeion, cefnogi myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig, cyfyngu ar waharddiadau parhaol a dros dro, adolygu polisïau ysgolion ac archwiliadau a phrosesau gwell ar gyfer casglu data.
  • Tai a llety – mae argymhellion yn cynnwys gwneud rhagor o waith ymchwil ar safon ac argaeledd tai, a chasglu data am y materion hyn, yn ogystal ag ystyried anghenion lleiafrifoedd ethnig (gan gynnwys ffoaduriaid) yng nghyd-destun polisi digartrefedd, ac annog cydlyniant cymunedol a chamau yn erbyn gwahanu mewn lleoliadau preswyl.
  • Trosedd a chyfiawnder – mae’r gwaith ymchwil yn cynnwys argymhelliad y dylid cynnwys yr egwyddor ‘egluro neu ddiwygio’ yn y cymwyseddau datganoledig, gan ei wneud yn ofynnol i Wasanaeth Erlyn y Goron a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi adrodd yn ôl i’r Senedd yn flynyddol ynghylch gwahaniaethau ar sail hil, yn ogystal â gwella prosesau ar gyfer casglu data, mynd i’r afael â throseddau casineb, ymdrin â gwahaniaethau ar sail hil yn y system gyfiawnder ieuenctid, lleihau achosion o drais yn erbyn menywod a merched, gwella mynediad at gyfiawnder ac arfer cymwyseddau datganoledig sy’n effeithio ar gyfraddau trosedd.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru hefyd yn nodi bod yn rhaid i gamau gweithredu ynghylch casglu data, arweinyddiaeth a chynrychiolaeth, diwylliant sefydliadol ac ymgysylltu ac allgymorth ategu unrhyw bolisi sydd wedi’i seilio ar sectorau penodol.

Newid diwylliannol drwy addysg

Fel y mae’r cynigion ar gyfer Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn ei gydnabod, daw newid yn sgil symudiadau diwylliannol hirdymor.

Disgwylir i’r Cwricwlwm newydd i Gymru gael ei gyflwyno o 2022, gan symud o ddull sy’n seiliedig ar gynnwys i ddull sy’n seiliedig ar amcanion. Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i drafod fframwaith eang o ‘feysydd dysgu a phrofiad’, yn hytrach na rhestr o bynciau sy’n rhaid eu haddysgu.

Ym mis Gorffennaf 2020, cafodd yr Athro Charlotte Williams ei phenodi yn gadeirydd y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd.

Cafodd adroddiad terfynol y grŵp ei gyhoeddi ar 19 Mawrth, ac mae’n cynnwys argymhellion ar wella adnoddau addysgiadol, hyfforddi’r gweithlu a datblygu proffesiynol, yn ogystal ag addysg gychwynnol i athrawon.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad fel a ganlyn:

Yn y cwricwlwm newydd […] bydd hanes Cymru a’r amrywiaeth o’i fewn yn orfodol o fewn y Dyniaethau, un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad y cwricwlwm.

Mae’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig o ran y Dyniaethau, y ‘syniadau mawr’ a’r prif egwyddorion ym mhob Maes yn cyfeirio at ddealltwriaeth gyffredin o hanes amrywiol, treftadaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth ethnig Cymru a’r byd ehangach.

Wrth i’r Bil Cwricwlwm ac Asesu fynd drwy’r Senedd, cafodd gwelliannau i gynnwys hanes a chyfraniad pobl groenliw yng Nghymru yn benodol fel elfen fandadol o fframwaith y cwricwlwm eu gwrthod, ar ôl i Lywodraeth Cymru ddadlau y byddai cyfleoedd digonol i addysgu’r pynciau hyn.

Wrth i’r Senedd hon ddirwyn i ben, mae anghydraddoldeb yn ganolog i’r drafodaeth wleidyddol. Bydd yn rhaid i’r Senedd newydd a Llywodraeth nesaf Cymru fynd i’r afael ag effaith anghyfartal y pandemig yn ogystal â bylchau hanesyddol.


Erthygl gan Marine Furet, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru