Y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft: creu ‘Cymru wrth-hiliol’

Cyhoeddwyd 14/10/2021   |   Amser darllen munudau

Fe wnaeth effaith anghymesur y pandemig ar bobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), y condemniad byd-eang o lofruddiaeth George Floyd, a thwf y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys daflu goleuni ar yr anghydraddoldebau sydd wedi hen ymwreiddio y mae cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu. Fe wnaeth y digwyddiadau hyn sbarduno’r brys i weithredu, ac ym mis Mawrth 2020 amlinellodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft ym mis Mawrth 2021 ac mae'n arwydd o ddull newydd yng Nghymru o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol ac â hiliaeth.

'Yn syml, nid yw’n ddigon bod yn gymdeithas nad yw'n hiliol'

Mae'r cynllun drafft yn nodi gweledigaeth o Gymru sy'n 'wrth-hiliol erbyn 2030' ac mae'n cynnwys camau i fynd i'r afael â hiliaeth a gwneud 'newidiadau ystyrlon a mesuradwy’ i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (BAME). Ei nod yw llunio polisïau mewn ffordd sy'n dryloyw ac yn seiliedig ar hawliau, ac mewn ffordd sy'n cael ei llywio gan brofiad bywyd.

Bydd dileu hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol yn destun dadl yn y Senedd ar 19 Hydref. Ond beth fydd angen digwydd yn ystod y naw mlynedd nesaf i gyflawni'r weledigaeth hon?

Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sydd wedi hen ymwreiddio

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod 174,900 o bobl yng Nghymru o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae diffyg data, yn enwedig data am wahanol grwpiau ethnig, yn amharu ar y ddealltwriaerth o faterion a phrofiadau cymunedau ethnig. Er gwaethaf y cyfyngiadau, dyma’r hyn y mae’r data'n ei ddatgelu:

Er bod Llywodraethau Cymru olynol wedi ceisio mynd i'r afael â hiliaeth a gwahaniaethu, mae’r materion a godwyd gan y pandemig wedi ysgogi’r Prif Weinidog i sefydlu Grŵp Cynghorol COVID-19 Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig dan gadeiryddiaeth yr Athro Emmanuel Ogbonna.

Fe wnaeth un is-grŵp, dan gadeiryddiaeth yr Athro Keshav Singhal, edrych ar y risg uniongyrchol o ddal COVID-19 i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Er mwyn diogelu iechyd a llesiant staff, datblygwyd Offeryn Asesu Risg y Gweithlu, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn GIG Cymru, yn y sector gofal cymdeithasol ac mewn sectorau cyflogaeth ehangach ledled Cymru.

Wrth gadeirio'r ail is-grŵp, fe wnaeth yr Athro Ogbonna edrych ar y ffactorau economaidd-gymdeithasol sydd wedi cyfrannu at effaith anghymesur y pandemig ar bobl BAME. Canfu ei adroddiad fod hiliaeth a gwahaniaethu hirsefydlog yn erbyn grwpiau BAME yn ffactor sy'n peri i anghydraddoldebau hiliol yng Nghymru barhau, a thynnodd sylw at nifer o faterion allweddol:

  • Gan nodi’r cynnydd yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd, canfu’r adroddiad dystiolaeth o “hiliaeth hirsefydledig”. Canfu fod rhai cymunedau BAME wedi profi “lefelau uchel o drais” a “mân-ymosod sy'n deillio o hiliaeth, a gwahaniaethu amlwg weithiau”, a cham-drin hiliol ac iaith casineb yn ystod y pandemig.
  • Wrth ymchwilio i'r rhesymau yr oedd cymunedau BAME yn wynebu risg uwch o ddal COVID-19 a marw ohono, canfu'r adroddiad nad oedd data iechyd o ansawdd da ar ethnigrwydd ar gael. Canfu'r adroddiad anawsterau o ran mynediad at wasanaethau iechyd oherwydd rhwystrau diwylliannol ac iaith, pryderon ynghylch gwasanaethau cyfieithu ar y pryd i ymfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac adroddiadau o driniaeth wahanol neu waeth gan y GIG lle mae modd priodoli hil ac ethnigrwydd fel ffactorau sy'n cyfrannu at hyn.
  • Canfuwyd bod gorlenwi a lefelau uwch o rentu yn broblemau mewn cymunedau BAME, gyda materion difrifol o ran llety yn achos ceiswyr lloches.
  • Canfuwyd bod diffyg cynrychiolaeth yn y broses o wneud penderfyniadau wedi arwain at ganlyniadau economaidd-gymdeithasol gwael.
  • Canfu'r adroddiad fod grwpiau BAME heb gynrychiolaeth ddigonol mewn prentisiaethau, er gwaethaf cynnydd mewn cyfraddau cyflogaeth ledled Cymru, a chanfuwyd bylchau cyrhaeddiad ar lefel addysg uwch.

Gwnaeth yr adroddiad 37 o argymhellion, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu “Strategaeth Cydraddoldeb Hiliol sylweddol a chynhwysfawr i Gymru”.

Yn ei hymateb i'r canfyddiadau, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp llywio ym mis Medi 2020 i ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft. Cafodd y cynllun drafft ei lywio hefyd gan adolygiad tystiolaeth a gynhaliwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Ymatebion i'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft

Fe wnaeth ymgynghoriad ar y cynllun drafft geisio adborth ar nodau a chamau gweithredu y polisi, ac ar faterion pryder ehangach hefyd, gan gynnwys priodoldeb y term 'pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig'.

Disgwylir yr ymateb i’r ymgynghoriad yn fuan. Mae'r ymatebion hynny sydd wedi cael eu cyhoeddi yn galonogol, gyda sefydliadau'n croesawu cyhoeddiad amserol y cynllun drafft ac yn cefnogi'r camau gweithredu. Ond fe wnaethant hefyd sôn am heriau a phryderon ynghylch sut y bydd y cynllun yn cael ei weithredu.

Roedd mwyafrif yr ymatebion yn nodi pryderon ynghylch lefelau'r cyllid a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r nodau, diffyg targedau ac amserlenni i fonitro cynnydd, a'r angen i sicrhau nad yw ymyriadau yn ymddangos fel rhai symbolaidd (Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol).

O ran y term 'gwrth-hiliaeth’, dywedodd Cyngor Bro Morgannwg:

A succinct definition of anti-racism is needed in the same way that a definition has been provided for socio-economic disadvantage so that we are all working towards the same end.

A oes modd gwireddu’r weledigaeth?

Mae datblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn gam pwysig o ran cydnabod y materion sy'n wynebu cymunedau ethnig. Ond, er mwyn cyflawni 'gweithredu radical' a gwireddu’r weledigaeth o greu 'Cymru gwrth-hiliol erbyn 2030', bydd angen i bob rhan o'r llywodraeth weithredu. Bydd angen ymdrech ar y cyd gan unigolion, cymunedau, sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, ac ar draws sefydliadau gwleidyddol.

Gallwch wylio’r ddadl yn y Senedd yma.


Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru