cy

cy

Beth mae COP26 yn ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 21/12/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 13 Tachwedd 2021, yn dilyn pythefnos o drafod yng Nghynhadledd Rhif 26 Partïon y Cenhedloedd Unedig (COP26), llofnododd 197 o Bartïon Gwladwriaethau Gytundeb Hinsawdd Glasgow.

Fel yr un a oedd yn cynnal COP26, uchelgais Llywodraeth y DU oedd taro bargen gan gyfyngu ar wresogi byd-eang i 1.5°C o'i gymharu â lefelau cyn-ddiwydiannol. Mae pob ffracsiwn o radd o wres yn cynyddu'r risg o dywydd eithafol a chodiadau yn lefel y môr. Bydd cyfyngu gwres byd-eang i 1.5°C yn helpu i osgoi effeithiau gwaethaf yr argyfwng hinsawdd. Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthygl am COP26, gan amlinellu ei arwyddocâd a blaenoriaethau Llywodraeth y DU.

Mae Cytundeb Glasgow yn gosod yr agenda datgarboneiddio fyd-eang ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Mae agweddau arwyddocaol ar y fargen yn cynnwys:

Dywedodd Alok Sharma AS (Senedd y DU), Llywydd COP26, fod y Cytundeb yn cadw 1.5 gradd yn fyw ond gyda phwls gwan.

Cyflawni ymrwymiadau Glasgow

Bydd llwyddiant Cytundeb Glasgow yn dibynnu ar weithredoedd dilynol ei lofnodwyr dros y blynyddoedd i ddod. Nid yw Cymru yn llofnodwr i Gytundeb Glasgow ond mae ei gostyngiadau mewn allyriadau carbon wedi'u cynnwys yn y Cyfraniadau a Benderfynir yn Genedlaethol ar gyfer y DU gyfan. Mae Cymru yn cyfrif am oddeutu 10 y cant o allyriadau'r DU.

Mae newid hinsawdd yn fater datganoledig, ac mae Llywodraeth Cymru yn gosod ei thargedau lleihau allyriadau ei hun. Mae wedi gosod targed rhwymol i Gymru leihau ei hallyriadau gan 63 y cant erbyn 2030 a chyflawni sero net erbyn 2050. Mae sero net yn golygu cydbwysedd rhwng allyriadau yn ôl ffynhonnell (e.e. trafnidiaeth) a gwarediadau gan ddalfeydd (e.e. coed a mawndiroedd).

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar Gynllun Cymru Sero Net yn nodi sut y mae'n anelu at fynd i'r afael ag allyriadau yn y tymor agos (2021-25), ac yn gosod y sylfaen ar gyfer cyflawni sero net erbyn 2050. Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi briff ar y cynllun, gan grynhoi'r uchelgais, y polisïau a'r cynigion, ynghyd â chynnydd Cymru hyd yma.

Pa rôl y chwaraeodd Cymru yn COP26?

Aeth aelodau Llywodraeth Cymru a’r Senedd i COP26. Dywedodd Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog, fod Cymru yn barod i “chwarae ei rhan” ac y byddai’n defnyddio’r gynhadledd fel “cyfle i ddysgu gan eraill.” Mae Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, wedi cyhoeddi ei sylwadau ar fynychu COP26, gan nodi fod:

Cymru wedi cael uwchgynhadledd dda – roedd hon yn enghraifft o'r hyn y gallwn ei gyflawni fel gwlad lai ar lwyfan y byd.

Yn ei araith yn y Cyfarfod Llawn ar ôl COP, nododd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, fod y fargen a gafwyd yn COP26 yn ei farn ef yn gonsensws byd-eang ar weithredu ar yr hinsawdd, ac yn cyfateb o reidrwydd â chyflymder y rhai a oedd yn gweithredu arafaf. Amlygodd y farn bod COP26 yn gyfle i lywodraethau rhanbarthol ffurfio cynghreiriau a gwthio materion y gallai llywodraethau cenedlaethol fod yn “amharod” i fynd i’r afael â hwy.

Mae Cymru yn aelod sefydlol o'r Glymblaid Under2. Wedi'i lansio yn COP21 ym Mharis, mae'r glymblaid hon o lywodraethau nad ydynt yn Blaid y Wladwriaeth bellach yn cynrychioli 1.75 biliwn o bobl a 50 y cant o'r economi fyd-eang. Yn 2021, lansiodd ei Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd yn nodi mai nod y glymblaid yw cyflawni sero net erbyn 2050, ac yn unigol “cyn gynted â phosibl“.

Yn Glasgow, ymunodd Cymru â chynghreiriau newydd a oedd yn canolbwyntio ar drawsnewid i ffwrdd o gynhyrchu olew a nwy a datgarboneiddio ceir, faniau, tryciau a bysiau. Nid yw'r rhain yn rhwymol; fel y mae llawer o'r addewidion a wnaed yn COP26.

Cynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy (BOGA)

Mae’r gynghrair hon o 11 o lywodraethau cenedlaethol ac is-genedlaethol, dan arweiniad Costa Rica a Denmarc, yn ceisio sicrhau trosglwyddiad rheoledig a chyfiawn i ffwrdd o gynhyrchu olew a nwy. Mae Cymru yn un o wyth aelod 'craidd', a'r unig aelod o'r DU.

Er gwaethaf cynnydd mewn perthynas â glo, nid yw Cytundeb Glasgow yn sôn yn benodol am olew a nwy. Mae'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol wedi gwneud yn glir nad yw buddsoddi mewn prosiectau cyflenwi tanwydd ffosil newydd yn gydnaws â chyfyngu cynhesu i 1.5°C.

Fel rhan o gynghrair BOGA, mae Cymru yn ymrwymo i ddod â chonsesiynau, trwyddedu a phrydlesi newydd i ben ar gyfer cynhyrchu ac archwilio olew a nwy. Bydd hefyd yn gosod dyddiad i ddod â chynhyrchu ac archwilio i ben yn yr ardaloedd lle mae ganddo awdurdodaeth.

Mae trwyddedu olew a nwy ar dir, ardaloedd rhynglanwol, aberoedd a chilfachau arfordirol wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Cymru 2017. Wrth lansio'r gynghrair, amlygodd y Dirprwy Weinidog nad yw Llywodraeth Cymru wedi caniatáu dim trwyddedau newydd a bod nifer o drwyddedau sy’n bodoli wedi cael eu hildio neu eu terfynu ers trosglwyddo’r pwerau.

Yn 2020, roedd cenhedloedd craidd BOGA yn cyfrif am 0.2 y cant o’r olew a nwy a gynhyrchir yn fyd-eang. Fel aelod, bydd Cymru yn anelu at weithio i ehangu'r aelodaeth a sicrhau bod y mater o ran lleihau’r cynhyrchiad o olew a nwy yn raddol wrth wraidd deialogau hinsawdd rhyngwladol.

Datgarboneiddio ceir, faniau, bysiau a thryciau

Roedd trafnidiaeth ffordd yn cyfrif am 86 y cant o allyriadau trafnidiaeth Cymru yn 2019. Hyd yma, mae sector trafnidiaeth Cymru wedi cyfrannu llai at ddatgarboneiddio o'i gymharu â sectorau eraill, gan ostwng dim ond 6.3 y cant ers 1990. Mae'r graffig a ganlyn yn amlinellu allyriadau sectoraidd Cymru a'u gostyngiad canrannol ers 1990.

graffig sy'n dangos bod allyriadau trafnidiaeth wedi gostwng ar gyfradd arafach nag unrhyw sector arall.

Yn Glasgow, llofnododd Cymru y Datganiad COP26 ar gyflymu'r trawsnewidiad i geir a faniau allyriadau sero 100 y cant. Mae hwn yn ymrwymiad i weithio tuag at sicrhau bod pob gwerthiant ar gyfer ceir a faniau newydd yn allyriadau sero yn fyd-eang erbyn 2040, ac erbyn 2035 mewn marchnadoedd blaenllaw.

Ymunodd Cymru hefyd â’r 15 o wledydd yn llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar Gerbydau Nwyddau Canolig a Nwyddau Trwm Dim Allyriadau (ZE-MHDVs). Bydd llofnodwyr y Memorandwm yn anelu at gefnogi ZE-MHDVs i gyrraedd 30 y cant o werthiannau cerbydau nwyddau canolig a nwyddau trwm newydd erbyn 2030, a 100 y cant erbyn 2040. Mae gweithgynhyrchwyr cerbydau nwyddau canolig a nwyddau trwm a gweithredwyr fflyd, fel Scania a DHL, wedi cymeradwyo'r Memorandwm.

Mae'r Memorandwm yn diffinio cerbydau nwyddau canolig a nwyddau trwm fel cerbydau sydd â phwysau gros uwch na 3.5 tunnell, sy'n cynnwys bysiau. Yn 2019, roedd y cerbydau hyn yn cyfrif am 14 y cant o allyriadau trafnidiaeth Cymru. Mae'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol yn tynnu sylw at y ffaith nad yw datgarboneiddio bysiau a thryciau yn fyd-eang ar y trywydd iawn i gyflawni sero net erbyn 2050.

O ran datgarboneiddio cerbydau nwyddau trwm pellter hir, mae Cynllun Sero Net Llywodraeth Cymru yn nodi “n[a]d yw'n glir o hyd” pa dechnolegau fydd fwyaf addas. Mae'n nodi y bydd treialon tair technoleg (celloedd tanwydd hydrogen, trydan batri, a systemau cadwynol uwchben) yn cael eu cyflwyno yn y DU yn fuan.

Mae llofnodwyr y Memorandwm yn bwriadu cyfarfod yn flynyddol i drafod cynnydd a rhannu profiadau i gyflymu'r broses o ddefnyddio ZE-MDHVs.

Beth nawr?

Mae Cytundeb Glasgow yn dweud yn benodol bod angen brys am weithredu aml-lefel a chydweithredol rhwng pob lefel o lywodraeth i wireddu’r nodau hinsawdd. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd ledled y DU wedi tynnu sylw at y camau gweithredu allweddol y dylai’r DU eu cymryd wrth symud ymlaen. Nawr mae'r pwysau'n cynyddu i gyflawni addewidion COP26.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhestr lawn o'r penderfyniadau a wnaed yn COP26 ar gael yma.


Erthygl gan Will Skinner, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Will Skinner gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r Erthygl Ymchwil hon gael ei chwblhau.