Ddydd Mawrth, bydd pawb ar fwrdd y llong ar gyfer dyfodol cydweithredu morwrol yng Ngogledd yr Iwerydd.
Bydd arweinwyr o Gymru, gweddill Ewrop, a Chanada yn ymgynnull yn y Senedd i drafod cysylltiadau trawsiwerydd, ynni adnewyddadwy morol a'r economi werdd.
Mae Cynhadledd y Rhanbarthau Morwrol Ymylol (CPMR) yn dwyn ynghyd dros 160 o ranbarthau o 24 o aelod-wladwriaethau’r UE a thu hwnt. Gyda'i gilydd, mae’r aelodau'n cynrychioli dros 200 miliwn o bobl. Cymru yw'r unig un o wledydd y DU sy’n aelod o Gomisiwn Bwa’r Iwerydd, un o chwe chomisiwn rhanbarth cefnforol y Gynhadledd. Cynhelir ei Chynulliad Cyffredinol yn y Senedd ar 23 Mai.
Fel cenedl sy'n llawn hanes morwrol, nid yw'n syndod mai Cymru sy’n rhoi cartref i’r digwyddiad.
Cyn yr uwchgynhadledd, mae'r erthygl hon yn esbonio beth yw Cynhadledd y Rhanbarthau Morwrol Ymylol, ac yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i fôr Cymru.
Beth mae Cynhadledd y Rhanbarthau Morwrol Ymylol yn ei wneud?
Cynhaldedd y Rhanbarthau Morwrol Ymylol yw prif sefydliad cydweithredu morol Ewrop.
Ers ei sefydlu ym 1973, mae wedi canolbwyntio ar gydlyniant cymdeithasol, economaidd a thiriogaethol, polisïau morwrol a thwf glas a hygyrchedd.
Caiff y CPMR ei rannu’n chwe chomisiwn daearyddol sy'n cyfateb i fasnau morwrol Ewrop: Bwa’r Iwerydd, Baltig, Balcanau a Du, Rhyng-ganoldirol, Ynysoedd a Môr y Gogledd.
Cymru yw'r unig wlad o'r DU sy’n aelod o Gomisiwn Bwa’r Iwerydd. Mae’r aelodau eraill yn cynnwys Cynulliad Rhanbarthol Gogledd a Gorllewin Iwerddon, Gwlad y Basg ac Andalucía. Rhoddwyd statws Aelod Cysylltiol i lywodraeth Cwebéc ym mis Mawrth 2023.
Mae’r agenda ar gyfer 23 Mai yn cynnwys sesiynau ar:
- gydweithredu trawsiwerydd ar faterion morwrol;
- cydweithredu ar Ynni Adnewyddadwy ar y Môr yn yr Iwerydd; a
- hybu sgiliau ar gyfer dyfodol gwyrdd.
Mae dogfennau gweithio hefyd ar gael.
Cymru a'r CPMR
Yn 2017, arwyddodd 20 rhanbarth Ewropeaidd ‘Ddatganiad Caerdydd' yn mynegi eu hymrwymiad i gydweithio cryf ar ôl Brexit.
Yn adroddiad blynyddol diweddaraf CPMR, mae Llywydd Comisiwn Bwa’r Iwerydd ac Arlywydd Llywodraeth Gwlad y Basg, Iñigo Urkullu, (yr Arlywydd) yn disgrifio ei awydd i barhau â’r "cydweithredu hirdymor â rhanbarthau’r Iwerydd sydd y tu allan i'r UE".
Mae'r Comisiwn wedi datblygu prosiect peilot trawsiwerydd i wneud hyn.
Mae Cymru'n eistedd ar Grŵp Llywio'r Comisiwn ac yn cadeirio'r tasglu ar gydweithredu â rhanbarthau nad ydynt yn yr UE, yn gyfrifol am gynllunio gweithgareddau ar gyfer y prosiect peilot. Nod y gweithgareddau yw gwella rôl rhanbarthau mewn cydweithredu trawsiwerydd, gan gynnwys adferiad gwyrdd yn nhiriogaethau'r Iwerydd. Bwriedir iddynt ddechrau erbyn diwedd 2023 gyda chyllideb o €790,000 am ddwy flynedd.
Yn ddiweddar rhoddodd Vaughan Gething, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, anerchiad i bwyllgor rhanbarthol Senedd Ewrop i nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cydweithredu rhwng Cymru a'r UE ar ôl Brexit. Y tro diwethaf i’r Prif Weinidog gwrdd â’r Arlywydd oedd ar 29 Mawrth 2023.
Pwy fydd yn cynrychioli Cymru?
Bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli gan y Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi a'i chynrychiolydd yn Ewrop, Derek Vaughan.
Bydd y Senedd yn cael ei chynrychioli gan y Dirprwy Lywydd, David Rees AS, cadeirydd y pwyllgor cysylltiadau rhyngwladol, Delyth Jewell AS, a Joyce Watson AS, aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd.
Cymru a'r môr
Mae'r ffeithlun isod yn cyflwyno rhai ffeithiau am Gymru a'r môr.
Dysgwch ragor o'n cyhoeddiadau:
- Mae cipolwg ar reoli’r amgylchedd morol yn esbonio sut mae amgylchedd morol Cymru yn cael ei reoli ac mae’n crynhoi Asesiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd.
- Mae pwy sy'n berchen ar wely'r môr a pham mae’n bwysig yn esbonio rôl Ystâd y Goron o ran defnyddio a datblygu gwely'r môr.
- Beth yw Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a beth mae'n ei olygu i'r moroedd o amgylch Cymru? Mae ein briff ymchwilyn egluro polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ardal y cynllun morol yn gynaliadwy, tua 32,000 km2 o fôr a 2,120 km o arfordir.
- Mae Ardal Forol Warchodedig yn rhoi cefndir i ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, y gwahanol fathau o ardaloedd morol gwarchodedig, cyflwr safleoedd a'r drefn reoli sydd ar waith ar gyfer y rhwydwaith.
- Mae Carbon Glas yn rhoi trosolwg o’r prif gynefinoedd morol sy’n cynnwys carbon glas, eu lleoliadau a’r bygythiadau amrywiol y maent yn eu hwynebu. Mae moroedd Cymru yn cynnwys morwellt, morfa heli a chynefinoedd carbon glas gwymon, sy’n cynnwys dros 99km2 o rwydwaith ardal forol warchodedig Cymru.
Hanes morwrol Cymru
Dyma ychydig o ffeithiau diddorol am hanes morwrol Cymru:
Bydd arweinwyr yn cwrdd yng nghalon yr hen Tiger Bay, a oedd yn ymdrin â mwy o lo nag unrhyw borthladd arall yn y byd yn y 1880au. Dywedir bod y siec gyntaf yn y byd gwerth £1 filiwn wedi'i llofnodi yn adeilad y Gyfnewidfa Lo, sydd o fewn taith gerdded fer iawn o'r Senedd. Erbyn 1913, Barry oedd y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd, gyda Chaerdydd yn ail.
Yn y 19eg ganrif, roedd glo, haearn a dur yn arllwys allan o gymoedd de Cymru ar hyd Camlas Morgannwg, i lawr i Stryd Bute ym Mae Caerdydd, ac ymlaen ar draws y moroedd. “Prifddinas haearn y byd” oedd yr enw ar Ferthyr Tudful, ac yma y cynhyrchwyd y canonau oedd yn cael eu ffafrio gan Admiral Horatio Nelson, a ddaeth ar ymweliad â gwaith haearn Cyfarthfa - y gwaith haearn mwyaf yn y byd.
Hwyliodd Capten Scott a'i griw allan o Fae Caerdydd i Antarctica ar 15 Mehefin 1910, ar fwrdd y Terra Nova, gan obeithio dod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Nawdd eang gan ddinasyddion, busnesau, perchnogion llongau, y Western Mail a David Lloyd George sy’n cael y clod am baratoi'r fordaith mewn pryd i gyrraedd y Pegwn ym 1912.
Cymru yn y byd
Wrth i arweinwyr gyd-ysgrifennu'r bennod nesaf yn eu cyd-straeon morwrol, mae llawer wedi newid yn ein moroedd ers dyddiau'r chwyldro diwydiannol a oedd yn cael ei bweru gan adnoddau Cymru.
Ond mae tebygrwydd rhyfeddol; penderfyniadau dros adnoddau, arweinwyr yn ysgrifennu'r dyfodol gyda'i gilydd, a chynllunio cwrs fydd â chanlyniadau i ni oll.
Unwaith eto bydd hanes yn cael ei ysgrifennu yng Nghymru, yn yr un lle yn union, ger yr un adeiladau yn union, ag yn y gorffennol.
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru