Aros yng Nghymru? Bron i 100,000 o Ewropeaid yn cael clywed a oes ganddynt hawl i aros

Cyhoeddwyd 11/03/2022   |   Amser darllen munud

Roedd angen i ddinasyddion Ewropeaidd oedd yn byw yng Nghymru cyn Brexit wneud cais erbyn 30 Mehefin 2021 i aros yn y wlad. Erbyn 31 Ionawr 2022, gwnaed dros 6.4 miliwn o geisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae'r Cynllun Preswylio yn dal yn agored i wneud ceisiadau hwyr, ac ail geisiadau gan y rhai sy'n ceisio trosi statws dros dro yn un parhaol.

Mae hawliau dinasyddion Ewropeaidd yn cael eu diogelu gan Gytundeb Ymadael y DU-UE, a chytundebau eraill gyda gwledydd nad ydynt yn rhan o'r UE, fel rhan o broses Brexit. Mae’r DU a’r UE yn anghytuno ar sut y caiff y cytuniadau eu dehongli. Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am weithgareddau sy'n ymwneud â’r Cynllun yng Nghymru.

Mae’r erthygl hon yn trafod ceisiadau gan ddinasyddion Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru gan ddefnyddio’r ystadegau diweddaraf (hyd at 31 Rhagfyr 2021). Mae’n egluro’r anghydfod parhaus rhwng y DU a’r UE ynghylch hawliau eu dinasyddion, ac mae’n crynhoi rhai datblygiadau yn nes adref.

Roedd ein herthygl flaenorol yn trafod ceisiadau a gafwyd yn syth ar ôl y dyddiad cau.

Trosolwg

Gwnaed 104,040 o geisiadau o Gymru, yn cynnwys 18,060 o geisiadau gan rai dan 18 oed. Penderfynwyd ar ganlyniad 99,860 o geisiadau erbyn diwedd 2021.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cael statws naill ai 'preswylydd sefydlog' neu 'breswylydd cyn sefydlu'.

Statws preswylydd sefydlog: Rhoddir statws preswylydd sefydlog i ddinasyddion Ewropeaidd sydd wedi byw yn y DU am fwy na phum mlynedd, a chânt aros yng Nghymru cyn hired ag yr hoffent, gyda rhai eithriadau.

Statws preswylydd cyn sefydlu: Rhoddir statws ‘preswylydd cyn sefydlu’ i ddinasyddion Ewrop sydd wedi byw yn y DU am lai na phum mlynedd, ond a gyrhaeddodd y DU cyn 31 Rhagfyr 2020. Daw hyn i ben ar ôl pum mlynedd, arhaid trosi i statws preswylydd sefydlog trwy ail gais. Mae methiant i ailymgeisio yn arwain at berson yn colli’r hawl i weithio, cael mynediad at dai, addysg a budd-daliadau yn awtomatig, a gallent fod mewn perygl o gael eu symud o’r DU.

Mae’r UE yn dadlau yn erbyn hyn, ac mae hefyd yn destun her ar lefel ddomestig gan y corff sy'n gyfrifol am fonitro hawliau dinasyddion Ewropeaidd yn y DU, yr Awdurdod Monitro Annibynnol.

Mae ein ffeithlun yn dangos canran a nifer y ceisiadau o Gymru. Mae'n dangos a ddaethant i law cyn neu ar ôl y dyddiad cau, a gawsant benderfyniad ai peidio a chanlyniad ceisiadau.

Ceisiadau i’r Cynllun o Gymru yn ôl dyddiad, ceisiadau a gwblhawyd a chanlyniadau yn ôl canran a nifer

Ffeithlun yn dangos canlyniadau 104,040 o geisiadau a gafwyd o Gymru hyd at 31 Rhagfyr 2021. Roedd 96% (99,840) wedi gwneud cais cyn y dyddiad cau a 4% (4,200) yn geisiadau hwyr. Mae penderfyniad wedi cael ei wneud ar 96% (99,860) o geisiadau ac mae 4% (4,180) heb eu penderfynu. O’r ceisiadau y penderfynwyd arnynt, dyfarnwyd statws preswylydd sefydlog i 57% (56,880), rhoddwyd statws preswylydd cyn sefydlu i 37% (36,970), gwrthodwyd 2.6% (2,560), roedd 1.7% (1,740) yn annilys a thynnwyd 1.7% (1,710) yn ôl neu nid oeddent yn gymwys.

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU Ystadegau chwarterol Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Rhagfyr 2021

Dinasyddion â statws preswylwyr cyn sefydlu

Mae statws preswylydd cyn sefydlu yn dod i ben ar ôl pum mlynedd. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r 36,970 o ddinasyddion yng Nghymru sydd â statws preswylwyr cyn sefydlu wneud ail gais am statws sefydlog os ydynt am aros y tu hwnt i bum mlynedd.

Mae'r map rhyngweithiol isod yn dangos nifer y dinasyddion â statws cyn sefydlu ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru ar 31 Rhagfyr 2021:

 

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU Ystadegau chwarterol Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Rhagfyr 2021

Mae nifer y rhai sy'n gwneud cais i drosi eu statws o statws ‘preswylydd cyn sefydlu’ i statws ‘preswylydd sefydlog’ wedi'i nodi mewn ystadegau ar geisiadau ailadroddus. Mae ystadegau ar gyfer y DU gyfan yn dangos bod 289,180 o ddinasyddion â statws preswylwyr cyn sefydlu wedi ennill statws preswylwyr sefydlog. Ni ddarperir gwybodaeth fesul gwlad y DU. Mae hyn yn golygu nad ydym yn gwybod faint o geisiadau sydd wedi dod i law gan ddinasyddion ‘cyn sefydlu’ yng Nghymru sy’n ceisio trosi eu statws. Gofynnodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i Lywodraeth Cymru a oedd ganddi ragor o wybodaeth i’r perwyl hwn, ond ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth.

Ceisiadau hwyr

Caniateir ceisiadau hwyr ar gyfer y rhai sydd â sail resymol am golli'r dyddiad cau, er enghraifft rhiant sydd wedi methu â gwneud cais ar ran plentyn neu rywun sydd â chyflwr meddygol difrifol. Mae Llywodraeth y DU wedi addo diogelu hawliau pobl sy’n gwneud cais hwyr hyd nes y penderfynir ar eu cais, ac unrhyw apêl.

Cynyddodd nifer y ceisiadau hwyr o Gymru o 2,340 ar 30 Medi i 4,200 ar 31 Rhagfyr 2021. Ym mis Hydref, cafwyd 790 o geisiadau hwyr, ac yna 570 ym mis Tachwedd a 510 ym mis Rhagfyr. Mae’r siart isod yn dangos sut y cafwyd ym mis Rhagfyr y nifer isaf o geisiadau gan Gymru ers i’r Cynllun agor ym mis Mawrth 2019.

Ceisiadau misol a gafwyd yng Nghymru ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Graff yn dangos nifer y ceisiadau o Gymru i’r Cynllun Preswylio fesul mis ers i’r cynllun agor ym mis Mawrth 2019 tan 31 Rhagfyr 2021. Roedd nifer y ceisiadau’n amrywio rhwng 1,000 a 10,000 ac roedd ar ei uchaf (9,840) ym mis Hydref 2019. Cafwyd cyfnodau brig eraill o gwmpas 6,000 i 7,000 o geisiadau misol ym mis Ebrill 2019, Ionawr 2020, Rhagfyr 2020 a Mehefin 2021. Roedd ceisiadau hwyr yn y 6 mis y tu hwnt i'r dyddiad cau ar 30 Mehefin 2021 yn llai na 1,000 y mis.

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU Ystadegau chwarterol Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Rhagfyr 2021

Mae materion rhwng y DU a’r UE yn parhau oherwydd dehongliadau gwahanol o’r Cytundeb Ymadael

Mae’r DU a’r UE yn cwrdd yn rheolaidd i drafod hawliau dinasyddion. Cynhelir cyfarfodydd yng Nghyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael a'i Bwyllgor Arbenigol ar Hawliau Dinasyddion. Nid yw Llywodraeth Cymru yn bresennol yn y cyfarfodydd, ond mae’n cwrdd bob pythefnos gyda Llywodraeth y DU i drafod y Cynllun Preswylio.

Yn dilyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor ar 21 Chwefror, disgrifiodd y DU a’r UE hawliau dinasyddion i fod yn “brif flaenoriaeth” a gwnaed gwaith pellach ar y pryderon a rannwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Arbenigol ym mis Ionawr.

Mae’r UE yn pryderu am ddinasyddion yn colli statws yn awtomatig yn y DU o ganlyniad i fethu â throsi o fod yn breswylydd cyn sefydlu i fod yn breswylydd sefydlog mewn pryd, a’r diffyg sicrwydd cyfreithiol i ddinasyddion yr UE. Mae gan y DU bryderon ynghylch cynlluniau cilyddol Aelod-wladwriaethau’r UE, gan gynnwys diffyg manylion polisi, canllawiau a hyblygrwydd. Mae’r cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer canol 2022.

O dan y Cytundeb Ymadael, gellir uwchgyfeirio anghydfodau ynghylch hawliau dinasyddion i dribiwnlys cyflafareddu, a all ofyn am ddyfarniad gan Lys Cyfiawnder yr UE mewn rhai amgylchiadau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu unrhyw wybodaeth newydd â’r Senedd

Mewn ymateb i ohebiaeth gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, esboniodd y Gweinidog fod y Cynllun Preswylio “yn parhau i fod yn flaenoriaeth”. Dywedodd fod Grŵp Cydgysylltu y Cynllun Preswylio’n Sefydlog wedi cytuno i gais y Pwyllgor i rannu cofnodion ei gyfarfodydd cyhyd ag y bydd y grŵp yn parhau i gyfarfod.

Ar 3 Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fod cyngor a chefnogaeth rhad ac am ddim gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael i ddinasyddion Ewropeaidd, wedi ei ymestyn tan “o leiaf” 30 Medi 2022. Esboniodd y bydd yr estyniad yn “sicrhau bod gwasanaethau’n gallu darparu cymorth i ddinasyddion, gan gynnwys gwladolion Wcráin, y gallai fod arnynt eisiau ymuno ag aelodau o’r teulu sydd eisoes wedi ymgartrefu yma yng Nghymru.” Mae hyn yn rhan o'r gefnogaeth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Cynhelir cyfarfod rhwng y DU a’r UE yn y Senedd yr wythnos nesaf

Ar 18 Mawrth, bydd y Senedd yn cynnal Cyfarfod Grŵp Cyswllt y DU o Bwyllgor Rhanbarthau'r UE. Sefydlwyd y grŵp ar ôl Brexit i hwyluso cyfathrebu rhwng awdurdodau lleol a rhanbarthol yn yr UE a dinasoedd, rhanbarthau a llywodraethau datganoledig y DU. Cynrychiolir y Senedd gan Laura Anne Jones AS ac Alun Davies AS.

Bydd y cyfarfod yn croesawu cynrychiolwyr o bob rhan o’r UE i gwrdd ag Aelodau’r Senedd a Llywodraeth Cymru. Bydd hawliau dinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yn y DU a dinasyddion y DU sy'n byw mewn gwledydd Ewropeaidd yn rhan o'r trafodaethau.


Erthygl gan Sara Moran, Helen Jones a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru