Araith y Frenhines 2021: Sut fydd y deddfau newydd arfaethedig yn effeithio ar Gymru?

Cyhoeddwyd 14/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn Araith y Frenhines ddydd Mawrth 11 Mai, amlinellodd Llywodraeth y DU ei chynlluniau ar gyfer deddfwriaeth a pholisi ar gyfer y flwyddyn seneddol nesaf.

O dan y confensiwn cydsyniad deddfwriaethol, nid yw Senedd y DU fel rheol yn deddfu ar faterion datganoledig heb gydsyniad y Senedd. Gellid gofyn i'r Senedd am ei chydsyniad i nifer o'r biliau a gynllunir, gan gynnwys biliau ar yr amgylchedd, ar gymwysterau proffesiynol ac ar les anifeiliaid.

Bydd yna hefyd ddeddfwriaeth newydd sy'n gymwys yng Nghymru ond sydd y tu allan i gymhwysedd datganoledig, gan gynnwys deddfwriaeth ar reoli cymorthdaliadau, ar etholiadau'r DU, ar y llysoedd, ar fewnfudo ac ar gyfathrebu.

Rheolau ar gymorthdaliadau, caffael a chymwysterau ar ôl Brexit

Nawr bod y DU wedi ymadael â’r UE, mae'r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth yr UE wedi'i dargadw mewn cyfraith ddomestig. Roedd yr araith yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth y DU i wneud newidiadau i'r corff hwn o gyfraith yr UE sydd wedi’i dargadw.

Bydd Bil Rheoli Cymorthdaliadau yn disodli rheolau'r UE ar daliadau’r llywodraeth i fusnesau. Mae cyfundrefn cymorth gwladwriaethol yr UE yn nodi rheolau ar y taliadau hyn i fusnesau ac yn rhoi pŵer i'r Comisiwn Ewropeaidd gymeradwyo'r cymorthdaliadau. Mae Llywodraeth y DU bellach yn cynnig cyfundrefn newydd.

Yn ystod y trafodaethau ar Brexit, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddadlau bod rheolaeth cymorthdaliadau (neu gymorth gwladwriaethol) wedi'i ddatganoli. Roedd Llywodraeth y DU yn anghytuno. Penderfynodd gadw rheolaeth o gymorthdaliadau yn benodol yn Neddf Marchnad Fewnol y DU 2020, heb gydsyniad y Senedd a Llywodraeth Cymru. Cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar reoli cymorthdaliadau yn y gwanwyn. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU roi ei hymateb drafft i'r ymgynghoriad â’r llywodraethau datganoledig, ac ystyried eu barn.

Bydd Bil Cymwysterau Proffesiynol yn nodi fframwaith newydd ar gyfer cydnabod cymwysterau proffesiynol o wahanol wledydd, nawr bod cyd-gydnabod cymwysterau rhwng y DU a'r UE wedi dod i ben yn ffurfiol. O dan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, bydd cymwysterau proffesiynol a gymeradwyir mewn un rhan o'r DU yn ddilys yn awtomatig ym mhob rhan arall o'r DU (gyda rhai eithriadau). Bydd y Bil newydd yn gymwys ledled y DU, a gofynnir am gydsyniad y Senedd.

Bydd Bil Caffael yn disodli rheolau sy'n deillio o'r UE ar sut mae'r llywodraeth yn prynu gwasanaethau gan y sector preifat. Bydd yn gymwys yn Lloegr yn bennaf, ac yn gymwys ar draws y DU ar gyfer swyddogaethau a gadwyd yn ôl. Dywed Llywodraeth y DU ei bod 'yn trafod' gyda Llywodraeth Cymru ynghylch rhai darpariaethau yn y Bil arfaethedig. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi sut y bydd yn disodli rheolau'r UE ar gaffael datganoledig ar hyn o bryd. Er mwyn rheoli ymwahanu rheoleiddiol rhwng gwahanol rannau o'r DU y tu allan i fframwaith rheoleiddiol yr UE, mae'r llywodraethau wedi cytuno ar fframwaith cyffredin dros dro ar gaffael. Mae hwn yn nodi sut y bydd y llywodraethau'n penderfynu a ydynt am ddilyn yr un rheolau neu ymwahanu.

Yr amgylchedd a lles anifeiliaid

Bydd Bil yr Amgylchedd yn trosglwyddo o'r sesiwn ddiwethaf, yn dilyn oedi yn ystod y pandemig. Nawr bod y DU wedi ymadael â’r UE, nid yw'r Comisiwn Ewropeaidd bellach yn goruchwylio nac yn monitro gweithrediad cyfraith amgylcheddol, ac mae hyn yn creu 'bwlch o ran llywodraethu' amgylcheddol. Nid yw egwyddorion amgylcheddol craidd yr UE yn gymwys mwyach. Mae'r Bil yn sefydlu egwyddorion amgylcheddol newydd ac yn sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol newydd, sef y Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd (OEP) ar gyfer Lloegr. Byddai Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd yn gymwys i Loegr ac o ran materion a gadwyd yn ôl yng Nghymru. Bu Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn ymgynghori ar egwyddorion amgylcheddol Cymru yn 2019 a dywedodd ei bod yn bwriadu cyflwyno Bil yng Nghymru yn y Senedd nesaf. Mae Bil yr Amgylchedd y DU hefyd yn darparu ar gyfer Cymru ar wastraff, ansawdd aer, dŵr, natur a bioamrywiaeth, a chadwraeth.

Trafododd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Bumed Senedd y Bil, a’i argymhelliad oedd y dylai’r Senedd gydsynio iddo. Gwnaeth y Pwyllgor argymhellion ar gyfer newid hefyd, fodd bynnag, gan ddweud y dylid diwygio’r Bil i alluogi Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd i gydweithredu â chorff llywodraethu amgylcheddol arfaethedig yng Nghymru. Bydd angen i'r Senedd ystyried sut mae'r Bil yn newid wrth iddo gwblhau ei daith drwy Dŷ'r Cyffredin a symud ymlaen i Dŷ'r Arglwyddi.

Roedd yr araith yn amlinellu cynlluniau ar gyfer tri bil newydd ar les anifeiliaid. Mae lles anifeiliaid wedi'i ddatganoli. Gallai rhai o’r cynigion arfaethedig newydd fod yn gymwys yng Nghymru. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y cyd â Llywodraeth y DU ar roi terfyn ar allforion anifeiliaid byw i'w lladd yn gynharach eleni, a dywedodd Llafur Cymru yn ei faniffesto y byddai'n datblygu 'model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid'.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymgynghori yn Lloegr ar roi’r gorau i ddiffinio cynhyrchion planhigion ac anifeiliaid wedi’u golygu’n enynnol mewn amaethyddiaeth fel rhai “wedi'u haddasu'n enetig”, pe gallent fod wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio technegau bridio traddodiadol. Mae RSPCA Cymru wedi codi pryderon y gallai’r egwyddorion mynediad i'r farchnad yn Neddf Marchnad Fewnol y DU ganiatáu i gynhyrchion wedi'u golygu’n enynnol gael eu gwerthu yng Nghymru. Mae hyn yn debygol o ddibynnu ar sut mae unrhyw ddeddfwriaeth yn cael ei dylunio.

Gwasanaethau cyhoeddus a thai

Bydd Bil Diwygio Prydlesi (Rhent Tir) yn ceisio cyfyngu ar godi rhenti tir o ran prydlesi preswyl. Bydd hyn yn gymwys yng Nghymru a Lloegr. Ni cheisir cydsyniad deddfwriaethol ar y sail bod cyfraith eiddo yn fater a gadwyd yn ôl. Nododd Llywodraeth Cymru hefyd yn ei hymgynghoriad diweddar ar ddiogelwch adeiladau ei bod yn awyddus i ddefnyddio'r Bil Diogelwch Adeiladau i ddatblygu rhai o'i chynigion diwygio ei hun.

Mae Bil y Lluoedd Arfog yn cael ei drosglwyddo o'r sesiwn ddiwethaf. Mae’r Bil yn adnewyddu'r sylfaen gyfreithiol ar gyfer y lluoedd arfog ac yn rhoi rhannau o Gyfamod y Lluoedd Arfog yn y gyfraith. Gofynnir i'r Senedd gydsynio i cymer 8, a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb am dai, gofal iechyd ac addysg roi sylw i Gyfamod y Lluoedd Arfog.

Caiff Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar hefyd ei drosglwyddo. Nod hwn yw sefydlu asiantaeth ariannu ymchwil newydd. Bydd angen cydsyniad y Senedd o ran rhannau o'r Bil, ond bydd yr asiantaeth ei hun yn fater a gedwir yn ôl.

Roedd bil arfaethedig ar ddiwygio gofal cymdeithasol wedi’i hepgor o'r araith, er i Lywodraeth y DU ddweud y byddai'n cyflwyno cynigion. Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y byddai'n well ganddo pe bai diwygio gofal cymdeithasol yn cael ei gyflwyno ar sail y DU yn gyfan, oherwydd byddai diwygio yng Nghymru yn dibynnu ar newidiadau i bolisi lles y DU. Dywedodd Llafur Cymru yn ei faniffesto y byddai'n ymgynghori ynghylch newidiadau i ofal cymdeithasol yng Nghymru pe na bai Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynllun erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Hefyd wedi’i hepgor roedd sôn am y Bil Cyflogaeth ar hawliau gweithwyr, a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines 2019.

Materion Cartref

Mae Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn nodi newidiadau eang o ran plismona a chyfiawnder yng Nghymru a Lloegr. Er eu bod yn faterion a gadwyd yn ôl yn bennaf, mae rhannau o’r meysydd hyn yn dod o fewn cymhwysedd datganoledig. Nododd Llywodraeth Cymru bryderon am y Bil ym mis Mawrth, yn sgîl protestiadau niferus. Roedd yn dadlau y gallai pwerau newydd i Lywodraeth y DU i orfodi dyletswydd trais difrifol effeithio ar awdurdodau datganoledig; gallai cynigion o ran gwersylloedd diawdurdod danseilio hawliau Sipsiwn a Theithwyr; ac nid oedd y cyfyngiadau ar sŵn yn sgîl protestiadau yn gyson â dull gweithredu Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â llygredd sŵn. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n disgwyl pleidlais ar gydsyniad deddfwriaethol ar ddechrau cyfnod y Senedd newydd.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i wahardd therapi trosi ar gyfer pobl LGBT, ond dywedodd y byddai'n ymgynghori cyn cyflwyno deddfwriaeth. Mae'n debygol y byddai agweddau ar wahardd therapi trosi yn dod o fewn cymhwysedd datganoledig. Roedd maniffesto Llafur Cymru yn ymrwymo i wahardd 'pob agwedd ar therapi trosi LGBTQ+ sydd o fewn ein pwerau'.

Bydd Deddfwriaeth mewnfudo yn gwneud newidiadau i'r broses ar gyfer ceisio lloches, gyda’r nod o gyfyngu ar fynediad at loches ar gyfer pobl sydd wedi teithio drwy wledydd 'diogel' a cosbi ceiswyr lloches sy'n dod i mewn i'r DU heb ganiatâd. Mae bwriad i Fil Dioddefwyr drafft osod hawliau yn y Cod Dioddefwyr newydd yn y gyfraith. Mae'n annhebygol y bydd y ddeddfwriaeth hon yn cynnwys darpariaeth sylweddol a ddaw o fewn cymhwysedd datganoledig.

Y llysoedd ac etholiadau

Bydd Bil Adolygiad Barnwrol yn newid y modd y gellir herio penderfyniadau cyrff cyhoeddus yn y llysoedd. Dywed Llywodraeth y DU y bydd y Bil yn rhoi argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Gyfraith Weinyddol ar waith, ar ganiatáu i'r llysoedd atal gorchmynion sy'n dileu penderfyniadau gan gyrff cyhoeddus ac yn atal penderfyniadau'r Uwch Dribiwnlys rhag cael eu hadolygu gan yr Uchel Lys (a elwir yn Cart). Mae'r Llywodraeth hefyd wedi ymgynghori ar newidiadau mwy eang - a dadleuol. Nid yw'n glir a fydd y cynigion hyn yn cael eu cyflwyno hefyd.

Mae adolygiad barnwrol yn faes a gadwyd yn ôl, felly byddai newidiadau yn gymwys yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys heriau o ran penderfyniadau cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Argymhellodd Comisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019, y dylid defnyddio tribiwnlysoedd yng Nghymru i ddatrys anghydfodau sy'n ymwneud â deddfwriaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd angen i'r Senedd nesaf ystyried a yw am weithredu ar yr argymhelliad hwn.

Bydd Bil Uniondeb Etholiadol yn gwneud newidiadau i gyfraith etholiadol ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU ac etholiadau lleol yn Lloegr, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr ddangos dogfen adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn 'ymgysylltu â' Llywodraeth Cymru ar 'gymhwyso rhai darpariaethau o ran etholiadau datganoledig'. Byddai Bil Diddymu ac Adalw'r Senedd â’r nod o adfer pŵer y Prif Weinidog i ofyn i'r Frenhines a oes modd i Senedd y DU gael ei diddymu ar gyfer etholiad cyffredinol, heb fod angen pleidlais yn Senedd y DU. Ni fydd hyn yn newid y modd y mae etholiadau’r Senedd yn cael eu galw.

Cynigion eraill

Amlinellodd yr araith hefyd gynigion eraill ar gyfer cyfreithiau newydd a fydd yn gymwys yng Nghymru sy'n debygol o fod y tu allan i gymhwysedd datganoledig ar y cyfan, gan gynnwys:

  • gwella diogelwch ar-lein, diogelwch cynnyrch a’r seilwaith telathrebu, a diogelwch telathrebu;
  • defnyddio rhagor o 'asedau segur' heb eu hawlio ar gyfer elusen a rhoi Argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar newidiadau i gyfraith elusennau ar waith; a
  • gwneud newidiadau i bensiynau gwasanaeth cyhoeddus, yr oedran ymddeol barnwrol a rhyddhad rhag Yswiriant Gwladol.

Disgwylir i filiau ar iechyd a gofal, addysg a sgiliau ôl-16, cynllunio a rhyddid i lefaru o ran addysg uwch fod yn gymwys ar gyfer Lloegr yn bennaf.

Y camau nesaf

Gallwch ddarllen rhagor am y polisi a’r ddeddfwriaeth a nodwyd yn Araith y Frenhines ym Mhapur briffio cefndirol Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn debygol o gyflwyno memoranda cydsyniad deddfwriaethol maes o law ar gyfer biliau sydd o fewn cymhwysedd datganoledig.


Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru