Ar draws y byd: Y Senedd i drafod yr adroddiad cyntaf ynghylch cysylltiadau rhyngwladol

Cyhoeddwyd 23/02/2024   |   Amser darllen munudau

Lansiodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ei  adroddiad cyntaf ynghylch cysylltiadau rhyngwladol ar 24 Tachwedd 2023.  

Mae'r adroddiad yn olrhain adegau allweddol yng ngwaith craffu'r Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru – o'i Strategaeth Ryngwladol a pherthnasoedd blaenoriaeth, i gyllid a deddfwriaeth. Cyhoeddodd chwe chasgliad a 13 o argymhellion a gynlluniwyd i ddatgelu mwy am flaenoriaethau rhyngwladol Llywodraeth Cymru, ac i wella gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.  

Mae’r erthygl hon yn nodi canfyddiadau’r Pwyllgor yn ystod y 12 mis diwethaf – a pham ei fod o’r farn bod y gwaith hwn yn bwysig – cyn dadl y Senedd ar 28 Chwefror 2024. 

Cysylltiadau rhyngwladol 

Yng nghyd-destun datganoli, mae cysylltiadau rhyngwladol yn fater a gadwyd yn ôl. Wrth edrych yn agosach, fodd bynnag, mae llawer o agweddau yn perthyn i'r gwledydd datganoledig, sydd â'u hanes, eu partneriaid a'u dulliau rhyngwladol eu hunain. Er enghraifft, mae gan lywodraethau Cymru a’r Alban eu strategaethau rhyngwladol eu hunain, a chytundebau nad ydynt yn rhwymol gyda gwledydd a rhanbarthau eraill.  

Symudodd cysylltiadau rhyngwladol i bortffolio’r Prif Weinidog yn 2021 ar ôl penderfyniad i beidio ag ailbenodi gweinidog cysylltiadau rhyngwladol i’r Cabinet. Yn rhagair yr adroddiad, dywed Cadeirydd y Pwyllgor Delyth Jewell MS: 

Yn yr ychydig flynyddoedd ers mis Mehefin 2021, pan gafodd y Pwyllgor ei sefydlu, mae’r byd wedi newid yn syfrdanol ar gyflymder aruthrol.  

Yng Nghymru, mae colli Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol penodedig yn 2021 yn golygu ei bod yn bwysicach fyth bod y pwnc yn aros ar yr agenda wleidyddol ac yn llygad y cyhoedd.  

Wedi'r cyfan, nid yw perthnasedd Cymru i'r byd wedi mynd yn llai. 

Penderfynodd y Pwyllgor gyhoeddi adroddiadau blynyddol i wella tryloywder ac i chwarae ei ran yn stori ryngwladol Cymru.  

Strategaeth ryngwladol 

Ym mis Mai 2023, cyhoeddodd y Prif Weinidog bod Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru 2020-2025 yn cael ei hadnewyddu i gwmpasu’r amser sy’n weddill cyn etholiadau’r Senedd yn 2026. Mae’r Pwyllgor yn croesawu ei gynnig i drafod hyn gyda’r Aelodau, ac yn annog Llywodraeth Cymru i estyn y gwahoddiad hwn i bartïon â diddordeb. 

Mae gan y strategaeth bum cynllun gweithredu, gyda chamau gweithredu tymor byr a chanolig. Cytunodd y Prif Weinidog ag argymhelliad y Pwyllgor yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu hyn. Mae'n dal i aros am y wybodaeth hon.     

Perthnasoedd â blaenoriaeth 

Mae Llywodraeth Cymru yn rhestru ei pherthnasoedd â blaenoriaeth yn y Strategaeth Ryngwladol:  

Gwlad: Yr Almaen, Ffrainc, Iwerddon, UDA a Chanada  

Rhanbarthau: Gwlad y Basg, Llydaw a Fflandrys. 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad i gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn 2023, fel y crynhoir yn ein herthygl flaenorol. Cafodd ei adroddiad terfynol ac ymateb Llywodraeth Cymru eu trafod gan y Senedd ar 29 Tachwedd 2023.  

Dywedodd y Pwyllgor ei bod yn amlwg bod yr UE hefyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid. Fodd bynnag, mae absenoldeb strategaethau pwrpasol ar gyfer cysylltiadau’r DU a’r UE ar lefel y DU a Chymru fel ei gilydd, yn creu heriau ar gyfer llywio’r berthynas rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit a chraffu’n effeithiol arni.  Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:  

  • Llunio strategaeth benodol ar gyfer yr UE neu, os na chaiff hyn ei dderbyn, bod yn fwy eglur wrth nodi ei blaenoriaethau’r berthynas rhwng y DU a’r UE, a Chymru a’r UE; 
  • esbonio sut y bydd yn gwneud 'dimensiwn Ewropeaidd' y Strategaeth Ryngwladol yn fwy eglur; 
  • cynnwys yr UE fel perthynas â blaenoriaeth; a 
  • nodi ei ddull o ran adolygiad 2025-26 o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (“y Cytundeb”). 

Ni wnaeth y Prif Weinidog dderbyn na gwrthod y grŵp hwn o argymhellion.  Dywedodd, er bod y berthynas economaidd rhwng Cymru a’r UE yn hollbwysig ac y dylai fod yn ffocws a sylfaen i’r dyfodol, dim ond ar ôl etholiadau nesaf yr UE a’r DU y mae gwelliannau yn bosibl yn realistig.  

Nid yw’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen strategaeth UE ar wahân ond dywedodd y byddai dimensiwn Ewropeaidd y Strategaeth Ryngwladol yn cael ei wneud yn fwy eglur drwy’r gyfrwng y broses adnewyddu meddal, a ddisgrifir uchod.  

Dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn gynamserol i Lywodraeth Cymru nodi ei dull o gynnal adolygiad o’r Cytundeb, a ddisgwylir yn 2025-26. Yn y cyfamser mae’n canolbwyntio ar wneud i’r Cytundeb weithio – yn ei eiriau ef – mor effeithiol â phosibl, a gwella ymgysylltiad â Llywodraeth y DU.   

Cyllidebau 

Roedd yr adroddiad yn galw am eglurder ynghylch pryd y mae costau ymweliadau tramor Gweinidogol yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn. Dywed y Prif Weinidog fod cyhoeddi yn digwydd cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, a bod y costau diwethaf wedi'u cyhoeddi ym mis Medi 2023. 

O ran cyllideb Llywodraeth Cymru, mynegodd y Pwyllgor siom bod y Prif Weinidog, unwaith eto, wedi gwrthod rhoi tystiolaeth yn bersonol ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2024-25.  

Anfonodd y Prif Weinidog dystiolaeth ysgrifenedig ar 20 Rhagfyr 2023 a 25 Ionawr 2024, ar ôl i'r Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad ar gysylltiadau rhyngwladol. Yn ei adroddiad ar y gyllideb ddrafft, dywedodd y Pwyllgor, o ran y wybodaeth ysgrifenedig a ddarparwyd gan y Prif Weinidog: 

… [mae’n] is na'r safon a ddisgwyliwn ac ni allwn ystyried y ffigurau a'r cyfrifiadau a ddarperir yn hyderus.  

Deddfwriaeth 

Mae'r Pwyllgor yn ystyried deddfwriaeth berthnasol er mwyn pennu ei goblygiadau posibl i gysylltiadau rhyngwladol Cymru.   

Er enghraifft, wrth graffu ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol, sicrhaodd y Pwyllgor gytundeb i Lywodraeth Cymru roi diweddariadau rheolaidd ar ei effaith ar gysylltiadau’r DU a’r UE, yng ngoleuni’r risgiau posibl a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru i rannu data rhwng y DU a’r UE.  

Gofynnodd am farn Llywodraeth Cymru ar gydymffurfiaeth y Bil â'r Cytundeb – ac fe gafodd y farn honno – a galwodd am gynnwys dadansoddiad o faterion y berthynas rhwng y DUa’r UE fel mater o drefn mewn Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol perthnasol, a dderbyniodd y Prif Weinidog. 

Edrych tua'r dyfodol 

Bydd pennu cyfeiriad cysylltiadau rhyngwladol Cymru yn fater i’r Prif Weinidog nesaf – sef ffaith i’r Prif Weinidog presennol ei gydnabod o ran cysylltiadau rhwng y DU a’r UE 

Mae'r Pwyllgor yn nodi gweledigaeth ar gyfer ei waith posibl yn y dyfodol, gan gynnwys ar berthnasoedd blaenoriaeth Cymru ac adolygiad o’r berthynas rhwng y DU a’r UE yng nghyd-destun y cytundeb. Byddai hyn ar ben ei waith craffu arferol ar gysylltiadau rhyngwladol a'i ymchwiliad newydd ynghylch diwylliant a’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE 

Mae Cadeirydd y Pwyllgor, Delyth Jewell MS, yn benderfynol o ran y canlynol: 

Bydd y Pwyllgor yn chwarae ei ran i sicrhau bod y byd yn parhau i ddysgu am ein gwlad hanesyddol, hardd ac unigryw. 

Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru