Mae addysg plant wedi cael cryn sylw ers dechrau'r pandemig. O fewn y cyd-destun hwn, a saith mlynedd a hanner ers adolygiad nodweddiadol yr Athro Graham Donaldson, sef Dyfodol Llwyddiannus, bydd llawer o ysgolion ledled Cymru o’r diwedd yn dechrau addysgu’r Cwricwlwm newydd i Gymru (ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 16 oed) ym mis Medi eleni.
Roedd Dyfodol Llwyddiannus yn darparu'r glasbrint ar gyfer y cwricwlwm newydd hwn sy'n seiliedig ar ddibenion, gyda mwy o bwyslais ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd fel oedolyn a'r nod o addysgu'r ‘hyn sy'n bwysig’.
Rhoddwyd rôl arweiniol i ysgolion, athrawon a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd, y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd yn ategu ei agenda safonau ysgolion hir sefydlog. Rhwng 2020 a 2021, bu’r Senedd yn craffu ar Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 cyn pasio’r Ddeddf honno a sefydlu’r cwricwlwm newydd.
Mae'r erthygl hon yn cyflwyno ychydig o wybodaeth gefndirol cyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth ar y gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Hefyd, mae rhagor o wybodaeth berthnasol ar gael yn yr adroddiad blynyddol ar y cwricwlwm sydd newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Sut mae'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno?
Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno ym mhob lleoliad meithrin ac ysgolion cynradd a ariennir yn gyhoeddus ym mis Medi. Rhoddwyd dewis i ysgolion uwchradd p’un ai i ddechrau addysgu’r cwricwlwm newydd i ddisgyblion blwyddyn 7 yn 2022/23, fel y cynlluniwyd yn wreiddiol, neu aros am flwyddyn arall nes i’r cwricwlwm newydd ddod yn statudol ar gyfer disgyblion blwyddyn 8 hefyd ym mis Medi 2023.
Yna, caiff y cwricwlwm newydd ei gyflwyno i grŵp blwyddyn hŷn ychwanegol, flwyddyn ar ôl blwyddyn, hyd nes iddo gyrraedd blwyddyn 11 yn 2026/27. Mae bron i hanner yr ysgolion uwchradd wedi penderfynu cyflwyno’r cwricwlwm newydd i ddisgyblion blwyddyn 7 ym mis Medi eleni. Mae’r ysgolion hyn wedi’u rhestru yn y Gorchymyn Cychwyn. Y garfan gyntaf i gael cymwysterau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm newydd fydd blwyddyn 11 yn 2026/27 (hynny yw, plant sydd ar fin gorffen blwyddyn 6 ar hyn o bryd).
Medi 2022
Y Blynyddoedd Cynnar
Ysgol gynradd
Blwyddyn 7 - dewisol i ysgolion
Medi 2023
Y Blynyddoedd Cynnar
Ysgol gynradd
Blwyddyn 7
Blwyddyn 8
Medi 2024
Y Blynyddoedd Cynnar
Ysgol gynradd
Blwyddyn 7
Blwyddyn 8
Blwyddyn 9
Medi 2025
Y Blynyddoedd Cynnar
Ysgol gynradd
Blwyddyn 7
Blwyddyn 8
Blwyddyn 9
Blwyddyn 10
Medi 2026
Y Blynyddoedd Cynnar
Ysgol gynradd
Blwyddyn 7
Blwyddyn 8
Blwyddyn 9
Blwyddyn 10
Blwyddyn 11
Sut beth fydd y cwricwlwm newydd i Gymru?
Mae'r cwricwlwm newydd yn symud i ffwrdd o gwricwlwm cenedlaethol sy’n seiliedig ar gynnwys sy’n gymharol ragnodedig ar hyn o bryd i fframwaith eang sy’n seiliedig ar ddibenion, y bydd ysgolion yn dylunio eu cwricwlwm eu hunain oddi mewn iddo.
Gall meithrinfeydd a ariennir yn gyhoeddus sy'n darparu addysg i blant 3 i 5 oed ddewis a ydynt am fabwysiadu cwricwlwm y blynyddoedd cynnar y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu ar eu cyfer neu, fel ysgolion, ddylunio cwricwlwm eu hunain o dan y fframwaith cenedlaethol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith y cwricwlwm ar Hwb. Yn wahanol i’r cwricwlwm cenedlaethol presennol, ni fydd unrhyw raglenni astudio yn nodi’n union yr hyn y mae’n rhaid ei addysgu.
Yn ychwanegol at y pedwar diben, caiff Cwricwlwm i Gymru ei strwythuro o gwmpas chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Mae’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn seiliedig ar “ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig” (hynny yw, y pethau sy’n bwysig i blant a phobl ifanc ddysgu amdanynt), sydd wedi’u nodi mewn cod statudol. Mae “egwyddorion dilyniant” a “disgrifiadau dysgu” yn rhoi manylion lefel uchel am yr hyn y dylid ei gynnwys ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad.
Bydd tri sgil trawsgwricwlaidd (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol), Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n addas o ran datblygiad, a gwersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn orfodol o 3 oed. Bydd Cymraeg yn orfodol o 3 oed a Saesneg o 7 oed. Y rheswm am hyn yw galluogi lleoliadau cyfrwng Cymraeg i drochi plant yn llawn yn y Gymraeg tan ddiwedd blwyddyn 2.
Pedwar diben:
Chwe maes dysgu a phrofiad:
Tri sgìl trawsgwricwlaidd gorfodol:
Pedair elfen orfodol:
Tri chod statudol:
Canllawiau:
Sut bydd cynnydd dysgwyr yn cael ei asesu?
Pwysleisiodd y Gweinidog yn y Senedd dim ond yn ddiweddar mai diben asesu yw helpu i lywio’r ffordd y mae athrawon yn cefnogi disgyblion, ar wahân i fesurau perfformiad ac atebolrwydd ysgolion.
Fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rheoliadau ynghylch trefniadau ar gyfer asesu cynnydd dysgwyr a'r addysgu sy’n angenrheidiol i wneud cynnydd ychwanegol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi Cod Dilyniant sy’n nodi sut y dylai cwricwlwm ysgol ddarparu ar gyfer dilyniant priodol dysgwyr. Mae’r Cod Dilyniant yn nodi pum egwyddor dilyniant a sut mae’r rhain yn berthnasol ym mhob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad.
Mae dilyniant dysgwyr (hynny yw, sut y maent yn datblygu ac yn gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth dros amser) yn gysyniad allweddol o fewn y cwricwlwm newydd, gyda chamau cynnydd ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad sy’n nodi lle y disgwylir i ddysgwr gyrraedd erbyn oedrannau penodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd Gweinidogol i weithwyr proffesiynol ym maes addysg i hybu a chynnal dealltwriaeth ar y cyd o’r hyn y mae dilyniant yn ei olygu mewn perthynas â’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau asesu ar gefnogi dilyniant dysgwyr a phontio rhwng y cwricwlwm cenedlaethol a’r Cwricwlwm i Gymru.
Beth sy'n digwydd i gymwysterau?
Mae maint y newid i’r cwricwlwm yn golygu bod yn rhaid i’r cymwysterau y mae pobl ifanc 16 oed yn ymgeisio amdanynt newid yn sylweddol hefyd. Mae'r rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, yn adolygu a diwygio cymwysterau fesul cam, ac mae’r broses hon yn cynnwys nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus.
- Cynhaliwyd y cyntaf o’r ymgynghoriadau hyn rhwng 2019 a 2020 a daeth i’r casgliad y dylid cadw'r brand TGAU ond y dylai’r cynnwys a’r dull asesu newid.
- Yn dilyn ail ymgynghoriad, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei benderfyniad ynghylch pa bynciau fyddai ar gael ar gyfer TGAU ym mis Hydref 2021, gyda phenderfyniad ar TGAU Cymraeg yn dilyn ym mis Chwefror 2022.
- Mae Cymwysterau Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar hyn o bryd i ddatblygu dyluniad, cynnwys a dull asesu arfaethedig ar gyfer y cymwysterau newydd ym mhob pwnc unigol o fewn pob Maes Dysgu a Phrofiad.
- Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn edrych ar y cymwysterau ehangach a gynigir i bobl ifanc rhwng 14 a 16 oed, yn enwedig cymwysterau nad ydynt yn gymwysterau TGAU.
Bydd angen cwblhau’r holl waith hwn, gyda digon o amser paratoi a chyflwyno, cyn i’r garfan gyntaf o ddisgyblion 16 oed astudio TGAU o dan y cwricwlwm newydd yn 2026/27.
Sut mae craffu ar y diwygiadau i’r cwricwlwm?
Mae diwygio'r cwricwlwm wedi'i drafod a'i archwilio'n aml yn y Cyfarfod Llawn. Ochr yn ochr â hynny, bydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn craffu ar y broses weithredu drwy gyfres o ‘wiriadau’ yn ystod y Senedd hon (hyd at fis Mai 2026), ynghyd â diwygiadau mawr eraill i’r ffordd y caiff disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol eu cefnogi. Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth sy’n parhau.
Mae rhai o’r materion sy’n debygol o gael eu hystyried yn cynnwys:
- a allai rhoi mwy o ymreolaeth i ysgolion, er bod hynny o fewn fframwaith cenedlaethol eang, arwain at anghysondeb ac amrywiad yn yr addysg y mae plant a phobl ifanc yn ei derbyn a gwaethygu anghydraddoldebau presennol;
- lefel y dysgu proffesiynol sydd ei angen ar y gweithlu addysg: mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu tua £37 miliwn ar gyfer addysgu proffesiynol athrawon yn 2022-23, yn bennaf ar gyfer y cwricwlwm newydd, ar ôl dyrannu £43 miliwn ers 2018;
- effaith y cwricwlwm newydd ar genhadaeth hir sefydlog Cymru i godi safonau addysgol;
- y diwygiadau cysylltiedig i gymwysterau; a’r
- sefyllfa ariannol sy’n wynebu ysgolion, effaith y pandemig a chostau'r cwricwlwm newydd, a archwiliwyd gan Archwilio Cymru ym mis Mai.
Beth bynnag fydd cynnwys datganiad y Gweinidog yr wythnos nesaf, mae diddordeb yn y ffordd y bydd y cwricwlwm newydd yn gweithio’n ymarferol yn debygol o barhau pan fydd yn amser iddo gael ei weithredu.
Sut i ddilyn y ddadl
Disgwylir i’r Gweinidog wneud ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn tua 17:00 ddydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022. Gallwch wylio’n fyw ar Senedd TV a darllen y trawsgrifiad ar ôl i’r sesiwn orffen.
Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru