Allforio dŵr Cymru: Faint ac i ble?

Cyhoeddwyd 17/05/2023   |   Amser darllen munud

Mae dŵr yng Nghymru yn dal i gyrraedd y penawdau. Y tro hwn nid ansawdd y dŵr yn ein hafonydd sy'n bwysig, ond faint sydd ar gael i’w gyflenwi ac, yn bwysicach, i ble mae'n mynd.

Mae pwysau cysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd, y twf yn y boblogaeth, a’r angen i warchod amgylcheddau dyfrol naturiol i gyd yn cynyddu’r galw am ddŵr. Cafwyd sychder ledled Cymru y llynedd gan danlinellu ein dibyniaeth ar gyflenwad dŵr digonol.

Mae cwmnïau dŵr yn gyfrifol am ddiwallu anghenion cwsmeriaid yn yr ardal y maent yn ei chyflenwi, ond maent yn cydweithio fwyfwy er mwyn datrys problemau’n ymwneud â chyflenwadau dŵr. Un ateb posibl yw trosglwyddo dŵr o ardaloedd lle mae gormodedd o ddŵr, i ardaloedd lle mae prinder.

Un cynnig sydd ar y gweill yw trosglwyddo dŵr o Lyn Efyrnwy ym Mhowys i fasn Tafwys, gan hybu’r cyflenwad ar gyfer Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Nid yw’r syniad o drosglwyddo dŵr o Gymru i Loegr yn un newydd, ond mae’r hanes yn gynhennus. Yn 1965 cafodd Cwm Tryweryn, gan gynnwys pentref Capel Celyn, ei foddi i greu cronfa ddŵr i gyflenwi dŵr i Lerpwl. Disgrifiwyd hyn fel pennod gywilyddus yn hanes Cymru’. Sbardunodd don newydd o ymgyrchoedd dros y Gymraeg, a chryfhaodd y galw am ddatganoli. Ymddiheurodd cyngor Lerpwl yn 2005, ond mae’r pwnc yn parhau i ennyn teimladau cryf yng Nghymru.

Mae'r erthygl hon yn ystyried faint o ddŵr sy'n cael ei anfon dros y ffin ar hyn o bryd, a'r hyn sy'n cael ei gynnig.

Faint o ddŵr sy'n cael ei drosglwyddo o Gymru?

Mae dau brif gwmni dŵr yn gwasanaethu cwsmeriaid yng Nghymru, sef Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy (a grëwyd drwy uno Dŵr Dyffryn Dyfrdwy a’r elfen Gymreig o Severn Trent Water). Mae dau gwmni arall, sef Severn Trent Water ac United Utilities, yn ffinio â Chymru ac mae ganddynt drwyddedau i gymryd dŵr o Gymru i wasanaethu cwsmeriaid yn Lloegr.

Mae Dŵr Cymru yn gweithredu cyfres o gronfeydd dŵr cysylltiedig yng Nghwm Elan. O'r ardal hon, mae swmpgyflenwad Cwm Elan yn allforio dros 320 miliwn litr y dydd (Ml/d)  ar hyd Traphont Ddŵr Elan, sy’n 117km o hyd, i Severn Trent Water er mwyn i’r cwmni hwnnw gyflenwi ei gwsmeriaid yn Birmingham.

I roi hyn yn ei gyd-destun, mae pwll nofio Olympaidd yn dal 2.5 miliwn litr o ddŵr, felly mae swmpgyflenwad Cwm Elan yn allforio gwerth cymaint â llond 128 pwll nofio Olympaidd o ddŵr bob dydd.

Deellir bod gan United Utilities drwydded i gymryd 252 Ml/d o Lyn Efyrnwy (tua 100 pwll nofio Olympaidd) a defnyddir y dŵr hwn yn bennaf i gyflenwi cwsmeriaid yn Lerpwl a Swydd Gaer, ond gellir ei bwmpio i Fanceinion os oes angen.

Adeiladwyd Llyn Celyn i gynnal llif Afon Dyfrdwy fel rhan o Gynllun Rheoleiddio Afon Dyfrdwy. Mae'r rheoliad hwn yn golygu bod cwmnïau dŵr yn gallu tynnu dŵr i lawr yr afon, sy'n cynnwys caniatáu i United Utilities dynnu dŵr i gyflenwi Lerpwl. Dwy dynnu dŵr o wahanol leoliadau, gall United Utilities gymryd cyfanswm o – llond 250 pwll nofio Olympaidd bron

Y meintiau hyn o ddŵr yw'r uchafswm a ganiateir o dan y drwydded. Mae'r dŵr sy’n cael ei fasnachu mewn gwirionedd yn amrywio bob blwyddyn, ynghyd â'r tâl am y dŵr a gaiff ei fasnachu.

© Crown copyright and database rights 2023 OS 100047295.

Y cynnig

Cynigir 'trosglwyddo dŵr o Afon Hafren i Afon Tafwys' (STT) , a chaniatáu i Thames Water, a chwmnïau eraill yn ne-ddwyrain Lloegr o bosibl, dynnu dŵr o’r afon.

Mae'r cynnig hwn yn cael ei ddatblygu ar y cyd gan Severn Trent Water, United Utilities Water a Thames Water drwy Gynghrair y Rheoleiddwyr ar gyfer Datblygu Isadeiledd (RAPID), ac mae rhai rheoleiddwyr yn cyfrannu hefyd, sef Ofwat, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Arolygiaeth Dŵr Yfed

Cynllun Trosglwyddo’r Gogledd-orllewin’ yw elfen United Utilities o'r STT, sy'n golygu ailgyfeirio hyd at 180 Ml/d (mae gan United Utilities y drwydded berthnasol ar hyn o bryd) o Lyn Efyrnwy i Afon Hafren. Bydd yn cael ei drosglwyddo mewn dwy ffordd:

  • gollwng 25 Ml/d o ddŵr yn uniongyrchol i Afon Efyrnwy; a
  • rhyddhau 155 Ml/d o ddŵr i Draphont Ddŵr bresennol Efyrnwy i Groesoswallt, lle bydd 'piblinell osgoi Efyrnwy' newydd yn trosglwyddo'r dŵr i Afon Hafren.

Yr uchafswm y caniateir ei ryddhau o Lyn Efyrnwy yw 405 Ml/d. Mae maint y dŵr y cynigir ei ryddhau’n uniongyrchol o Lyn Efyrnwy yn dod o fewn y terfyn hwn. Ni chynigir ymgymryd ag unrhyw waith yng Nghymru ac ni fydd United Utilities yn tynnu dim mwy o ddŵr nag a wneir ar hyn o bryd. Oherwydd hyn, rôl cynghori’n unig  sydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Fodd bynnag mae RAPID yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a CNC os bwriedir ymgymryd ag unrhyw gynlluniau yng Nghymru neu os gallai cynlluniau effeithio ar Gymru. https://naturalresources.wales/about-us/what-we-do/our-roles-and-responsibilities/water/water-resource-management-planning/?lang=en

Gall trefniadau swmpgyflenwi fod naill ai’n drefniadau parhaus, hy symud dŵr o ardal sydd â digonedd i ardal lle mae adnoddau’n brin, neu’n drefniadau dros dro, hy darparu adnoddau ychwanegol yn ystod cyfnodau o sychder, os ydynt ar gael. Gan hynny, mae cynlluniau swmpgyflenwi wedi'u cynnwys yng Nghynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr statudol hirdymor y cwmnïau dŵr a’u Cynlluniau Rheoli Sychder tymor byr.

Cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol ynghylch yr STT, bydd yn rhaid cytuno ar Gynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr terfynol ar gyfer pob cwmni, a bydd hynny’n digwydd tua mis Hydref 2023. Cytunir ar y cynlluniau trosglwyddo dŵr yn ddiweddarach.

Ystyriaethau eraill

Mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod cronfeydd dŵr yn cael eu defnyddio nid yn unig i gyflenwi dŵr, ond maent hefyd yn safleoedd aml-ddefnydd cymhleth, sy’n bwysig o ran natur a hamdden. Mae’r rhan fwyaf o gronfeydd dŵr Cymru, a’r ardaloedd o’u cwmpas, yn cael eu diogelu gan fod pwysigrwydd rhyngwladol i’w hecosystemau a’u tirweddau.

Mae Llyn Efyrnwy wedi’i ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig, ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae hyd yn oed yn gartref i’r fferm organig fwyaf yng Nghymru.

Mae cynlluniau ynni dŵr cynhyrchiol ar nifer o argaeau, gan gynnwys yng Nghwm Elan a Llyn Celyn. I lawr yr afon o argae Llyn Celyn mae Afon Tryweryn yn cael ei defnyddio gan y Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol pan gaiff dŵr ei ryddhau, gan ei gwneud yn bosibl cynnal chwaraeon dŵr gwyn yn aml yn ystod yr haf.

Mae angen ystyried anghenion natur a chymunedau cyn cymeradwyo unrhyw gynnig i symud neu ddefnyddio ffynhonnell ddŵr. Cafodd hyn ei danlinellu’n ddiweddar gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

Rhaid i unrhyw ddatblygiad sy'n defnyddio dŵr o Gymru ddangos bod iddo fanteision economaidd, amgylcheddol ac ehangach i bobl Cymru.

Dywedodd Dŵr Cymru wrth un o Bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi’n ddiweiddar y byddai’n gefnogol i gynigion i drosglwyddo dŵr cyn belled â bod meini prawf digonol yn cael eu bodloni, gan gynnwys sicrwydd na fyddent yn niweidiol i gwsmeriaid na’r amgylchedd, ac y byddai’r gyfradd fasnachol ar gyfer y trosglwyddiad hwnnw’n briodol.

Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru