Adeilad Llywodraeth Cymru

Adeilad Llywodraeth Cymru

“Ailosod” cysylltiadau rhynglywodraethol: rhethreg neu realiti?

Cyhoeddwyd 30/04/2025   |   Amser darllen munudau

“Mae dyddiau ffraeo brathog wedi mynd heibio” – dyna ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens AS, ym mis Rhagfyr 2024. Roedd hi’n myfyrio ar y misoedd cyntaf o gysylltiadau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth newydd y DU a Llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU ymrwymo i ailosod ei pherthynas â Llywodraeth Cymru a chydweithio mewn “partneriaeth mewn grym” sy’n cyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Wrth inni agosáu at flwyddyn yn y swydd i Lywodraeth y DU, mae’r erthygl hon yn edrych ar sut mae’r cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi newid.

“Ailosod” ers yr Etholiad Cyffredinol?

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ill dwy wedi wedi sôn am ailosod eu perthynas yn sylfaenol, gyda Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, yn nodi bod yr ymrwymiad ar y cyd i wella cysylltiadau eisoes wedi bod yn “amlwg iawn”.

Bu arwyddion o welliannau o ran cysylltiadau rhynglywodraethol. Yn ôl Llywodraeth Cymru, cafwyd “trafodaethau cynnar ac ystyriol” ynghylch ddeddfwriaeth a fyddai’n gymwys i Gymru yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfeirio at gynnydd mewn cyllid yn dilyn cyllideb hydref Llywodraeth y DU, gan gynnwys dyrannu £25 miliwn ar gyfer diogelu tomenni glo, fel tystiolaeth bod y Canghellor yn “gwrando ar Gymru”.

Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru restru "canlyniadau" yr ailosod, gan gynnwys cytundeb ar gyllid ar gyfer parthau buddsoddi a chydweithio ar reoleiddio dŵr.

Ble mae asgwrn y gynnen?

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd lle mae anghytuno o hyd.

Er enghraifft, ymddengys na fu llawer o gynnydd ar ddatganoli’r system gyfiawnder neu Ystad y Goron ymhellach, er bod Llywodraeth Cymru yn eiriol yn gyhoeddus ar gyfer y ddau.

Bu tensiynau hefyd ynghylch newidiadau arfaethedig i system les y DU, gyda Phrif Weinidog Cymru yn datgan ei bod yn gohirio rhoi dedfryd ar y cynigion nes bod gwell dealltwriaeth o’r effaith ar Gymru.

Hefyd, fe wnaeth Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, feirniadu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddefnyddio Fformiwla Barnett i ddosbarthu arian i gefnogi cyflogwyr y sector cyhoeddus yn dilyn cynnydd mewn yswiriant gwladol. Amcangyfrifodd y byddai hyn yn gadael Llywodraeth Cymru hyd at £65 miliwn yn brin o’i gymharu â’r swm sydd ei angen i dalu am y cynnydd ar gyfer cyflogwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn fwy cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru o blaid diwygio Fformiwla Barnett, ond dywedodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru nad yw’n ymddangos bod gan Lywodraeth y DU ddiddordeb mewn unrhyw ddiwygio sylweddol yn y maes hwn.

Pan ofynnwyd am anghytuno posibl â Llywodraeth y DU, dywedodd y Prif Weinidog wrth un o bwyllgorau’r Senedd mai hanfod datganoli yw na fydd cytundeb bob amser.

Sut mae strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol ffurfiol wedi cael eu defnyddio?

Mae strwythur tair haen ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol ffurfiol wedi bod ar waith ers 2022. Rydym wedi ysgrifennu’n flaenorol am hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i adrodd i’r Senedd ar gyfarfodydd o fewn strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol. Cytunodd hefyd i roi o leiaf mis o rybudd i bwyllgorau am gyfarfodydd perthnasol, yn ogystal â chrynodeb ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd o fewn pythefnos ar ôl y cyfarfod, cyn belled ag y bo modd.

Amserlen y cyfarfodydd

Mewn erthygl gynharach, buom yn trafod cynnydd yn y defnydd o strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol yn 2023 (35 o gyfarfodydd) o gymharu â 2022 (23 o gyfarfodydd).

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Weinidog Cymru nad yw’r strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol wedi cael eu defnyddio ddigon yn y blynyddoedd diwethaf.

Fodd bynnag, ers Etholiad Cyffredinol 2024, dim ond 20 o gyfarfodydd ffurfiol sydd wedi’u cadarnhau rhwng Llywodraeth a Llywodraeth y DU (21 os caiff Tasglu Plannu Coed y DU newydd ei gynnwys). Nid yw hyn yn awgrymu cynnydd o'i gymharu â'r blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, yn ddiweddar dywedodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru fod cyfarfodydd cysylltiadau rhynglywodraethol wedi bod yn cyflymu yn ystod 2025.

Tryloywder

Mae rhybuddion a chrynodebau cyfarfodydd Llywodraeth Cymru wedi bod yn anghyson; cafodd y Senedd fis o rybudd am ddim ond 2 o 20 o’r cyfarfodydd a gadarnhawyd. Cafodd y Senedd grynodeb o fewn 2 wythnos ar gyfer 8 o'r cyfarfodydd hyn.

Mae manylder y crynodebau hefyd yn amrywio. Er enghraifft, roedd crynodeb o gyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yn cynnwys dros 200 gair o bwyntiau trafod, ond roedd crynodeb o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach yn cynnwys llai na 30 gair o bwyntiau trafod.

Pan nad yw crynodebau’n cynnwys llawer o fanylion am drafodaethau, mae’n anoddach i bwyllgorau’r Senedd graffu ar gysylltiadau rhynglywodraethol a deall sut caiff penderfyniadau eu gwneud.

Cyfarfodydd anffurfiol

Mae cyfarfodydd y tu allan i'r strwythurau ffurfiol hefyd wedi'u cynnal rhwng Gweinidogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn gyffredinol wedi’u crybwyll wrth fynd heibio, wedi’u hadrodd drwy ddatganiadau, neu wedi’u nodi ar y cyfryngau cymdeithasol.

Er enghraifft, dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth un o bwyllgorau’r Senedd ym mis Mawrth 2025 ei bod wedi cael 6 chyfarfod gyda Phrif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer AS, ers Etholiad Cyffredinol y DU. Fodd bynnag, dim ond crynodeb ar gyfer un o’r cyfarfodydd hyn y mae’r Senedd wedi’i gael.

Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i adrodd ar gyfarfodydd y tu allan i strwythurau ffurfiol, sy’n ei gwneud yn anoddach i randdeiliaid a phwyllgorau’r Senedd gadw golwg ar gysylltiadau rhynglywodraethol.

A oes modd cryfhau cysylltiadau rhynglywodraethol ffurfiol?

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi cefnogaeth i osod strwythurau rhynglywodraethol yn y gyfraith.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio “symud ymlaen ac ategu casgliadau ac argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru”. Fe wnaeth y Comisiwn argymell:

Y dylai Llywodraeth Cymru gynnig bod Senedd y DU yn deddfu ar gyfer mecanweithiau rhynglywodraethol er mwyn sicrhau “dyletswydd o gydweithredu a pharch cydradd rhwng llywodraethau’r DU”.

Ym mis Mawrth 2025, dywedodd Prif Weinidog Cymru, er nad oedd hyn oddi ar yr agenda, fod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio’n gyntaf ar sicrhau bod cyfarfodydd rhynglywodraethol yn digwydd yn aml o fewn y strwythurau presennol.

Fforwm newydd

Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu fforwm rhynglywodraethol lefel uchel newydd – Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau. Prif Weinidog y DU sy’n cadeirio’r Cyngor, ac mae’n dwyn ynghyd benaethiaid y llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a meiri o ranbarthau Lloegr. Ei nod yw hwyluso gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sylweddol a mwyaf trawsbynciol.

Fe wnaeth y Cyngor gwrdd am y tro cyntaf ym mis Hydref 2024. Ar yr un dydd, cyfarfu Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig (hy, heb gynrychiolaeth ranbarthol o Loegr). Dywedodd Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2025 y bydd y ddau gyngor lefel uchel presennol yn parhau i gwrdd ar yr un dydd yn y dyfodol i osgoi dyblygu a sicrhau cysylltiadau rhynglywodraethol effeithlon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu sefydlu'r Cyngor newydd. Mae disgwyl iddo gwrdd nesaf yng ngwanwyn 2025.

Rhy fuan i ddweud?

Efallai ei bod yn rhy gynnar i ddod i gasgliad pendant ar gysylltiadau rhwng y ddwy lywodraeth.

Er bod y rhethreg gyffredinol yn sicr yn fwy cadarnhaol – mae'r ddwy lywodraeth wedi sôn am “ailosod” cysylltiadau a “phartneriaeth mewn grym” – bu sawl anghytundeb cyhoeddus.

Yn yr un modd, er gwaethaf y sôn nad yw strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol yn cael eu defnyddio ddigon, nid oes tystiolaeth eto bod cyfarfodydd o fewn strwythurau ffurfiol yn cael eu cynnal yn fwy aml nag o dan Lywodraeth flaenorol y DU.


Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru