AI cynhyrchiol yn y sector cyhoeddus 2026

Cyhoeddwyd 14/09/2026   |   Amser darllen munud

Mae AI cynhyrchiol, sef math o AI sy'n gallu cynhyrchu cynnwys fel testun, delweddau, sain, neu fideo, wedi bod yn denu llawer o sylw, yn enwedig ers rhyddhau ChatGPT ym mis Tachwedd 2022.

Mae AI cynhyrchiol yn cynnig cyfleoedd i wella'r gwasanaethau a ddarperir gan y sector cyhoeddus, gan gynnwys ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg. Fodd bynnag, mae allbynnau AI cynhyrchiol yn dibynnu ar ansawdd y data a ddefnyddir i hyfforddi modelau. Y tu hwnt i gyfyngiadau technegol, mae risgiau eraill yn peri pryder i randdeiliaid, gan gynnwys er enghraifft y diffyg rheoleiddio ar hyn o bryd, yr effeithiau ar swyddi, a phreifatrwydd a materion o ran hawlfraint.

Mae datblygiadau diweddar mewn adnoddau fel asiantau AI ac AI gwisgadwy yn ehangu cwmpas yr hyn y gall pobl ei wneud gan ddefnyddio AI, ond hefyd yn codi mwy o gwestiynau am y risgiau moesegol a rheoleiddio.

Ym mis Tachwedd 2025, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei Chynllun AI i Gymru, sy'n anelu at “harneisio pŵer trawsnewidiol deallusrwydd artiffisial” drwy gydbwyso twf economaidd â defnydd cyfrifol, a chymryd dull partneriaeth gymdeithasol sy'n cyferbynnu â ffocws Llywodraeth y DU ar ddefnyddio AI i ysgogi twf a chynhyrchiant.

Darllenwch ein papur briffio i ddysgu mwy am y cyfleoedd a'r risgiau sy'n gysylltiedig ag AI cynhyrchiol yn y sector cyhoeddus, yn ogystal â'r rheoliadau cyfredol yng Nghymru ac o gwmpas y byd, a'r heriau gweithredu sy'n gysylltiedig â hynny.


Papur briffio gan Amandine Debus a Jessica Woodgate, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Amandine Debus gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a Jessica Woodgate gan PolicyBristol a Chronfa Cymorth Polisi Research England, a’i gwnaeth yn bosibl cwblhau’r Papur Briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil.